Back
£17m yn ychwanegol i ysgolion a Gwasanaethau Cymdeithasol yng nghynigion cyllideb Caerdydd

19/12/19

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno cynigion cyllideb i ymgynghori arnynt a fydd yn gweld £10.4 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn ysgolion a £7.2 miliwn ychwanegol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol. 

Mae'r cynigion yn rhan o adroddiad a gymeradwywyd yng nghyfarfod Cabinet yr awdurdod lleol heddiw. 

Daw hyn wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Ddydd Llun y byddai Cyngor Caerdydd yn derbyn cynnydd o 4.1 y cant o ran cyllid, o dan delerau'r setliad dros dro ar gyfer 2020/21. 

Mae'r cynnydd o 4.1 y cant gan Lywodraeth Cymru i Gaerdydd yn £18.5 ychwanegol mewn termau arian parod, sy'n golygu y bydd gan y cyngor ddiffyg cyllidebol o £9.478 miliwn y flwyddyn ariannol nesaf. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad, y Cyng. Chris Weaver: "Mae'r setliad gan Lywodraeth Cymru yn newyddion gwell na'r disgwyl, ond nid yw hyn yn golygu bod y cyfnod o gyni wedi dod i ben a does dim dwywaith fod penderfyniadau anodd yn gorfod cael eu gwneud. 

"Yn anffodus, does dim arwyddion o sut setliadau fydd gan Lywodraeth Cymru mewn blynyddoedd i ddod, felly mae'n bosib mai un cyfle yn unig yw hwn i ail-osod ein strategaeth gyllidebol er mwyn sicrhau ei bod yn addas i'r dyfodol. 

"Tra bod setliad dros dro Llywodraeth Cymru yn fwy ffafriol nag oeddem wedi ei ddisgwyl, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i £9.5m mewn arbedion o hyd er mwyn unioni'r diffyg yn y gyllideb. 

"Er gwaetha'r cynnydd cadarnhaol yn yr arian gan Lywodraeth Cymru, rydym yn dal i orfod gweithio trwy gyfnod hynod heriol yn ariannol. Mae ein poblogaeth yn parhau i dyfu a'r galw am y gwasanaethau a gynigiwn ar gynnydd, sy'n golygu bod darparu gwasanaethau i'n dinasyddion yn mynd yn galetach bob blwyddyn. 

"Bu'n rhaid i ni ddod o hyd i dros £200m mewn arbedion dros y deng mlynedd ddiwethaf yn unig, sy'n golygu y bu'n rhaid i ni wneud newidiadau go sylfaenol yn y modd yr ydym yn cynnal ein busnes. 

"Rwy'n credu bod pobl yn dechrau deall difrifoldeb y sefyllfa. Mae'r adnoddau wedi eu taenu'n denau, ond rwyf am i bawb wybod bod staff y cyngor yn gweithio'n eithriadol o galed i gyflawni ar gyfer ein dinasyddion." 

Er mwyn dod o hyd i'r £9.478 miliwn sydd ei angen i unioni diffyg cyllideb y cyngor, cynigir y bydd £5.373 miliwn yn dod trwy arbedion effeithlonrwydd, £2.205 miliwn yn dod o greu incwm a £1.9 miliwn o dâl gwasanaeth ac fe gaiff y rhan fwyaf o'r rhain eu cyflawni heb unrhyw effaith rheng flaen ar ddefnyddwyr gwasanaeth. 

Mae'r cynigion arbedion i ymgynghori arnynt fel a ganlyn:

  • Cynyddu taliadau ar gyfer seremonïau priodas a phartneriaethau sifil yn Neuadd y Ddinas a lleoliadau cymeradwy eraill hyd at £25;
  • Cynyddu taliadau amlosgi gan £60 o £640 - £700, a thaliadau claddu gan £50 o £760 - £810;
  • Cynyddu taliadau rheoli plâu gan £5, o £50 - £55;
  • Defnyddio technoleg fel rhan o ddarparu pecynnau gofal a chymorth 

Ac rydym hefyd yn ceisio barn ar agweddau eraill ar ein strategaeth, gan gynnwys ein triniaeth o ysgolion a lle dylid blaenoriaethu gwasanaethau Cyngor a/neu eu diogelu. 

Er bod cynnydd o 4.5 y cant yn y Dreth Gyngor (£1.05 yr wythnos ar eiddo ym Mand D) hefyd wedi ei gynnwys yn y cynigion, caiff hyn ei adolygu, gyda'r cynnig Treth Gyngor terfynol yn cael ei gyflwyno yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus sy'n dod i ben ar 31 Ionawr, 2020. 

Mae'r ymgynghoriad yn agor ar-lein heddiw yn www.caerdydd.gov.uk ac rydym yn annog preswylwyr i rannu eu barn. 

Ychwanegodd y Cyng Weaver: "Mae'n bwysig iawn bod ein preswylwyr yn achub ar y cyfle hwn i gyfrannu at broses y gyllideb. Mae gennym syniadau clir ynghylch yr hyn sydd angen i ni ei wneud ond bydd yr ymgynghoriad chwe wythnos hwn ar y gyllideb yn rhoi cyfle i drigolion ddweud wrthym am yr hyn sydd wir yn bwysig iddyn nhw. Rydym am wneud y penderfyniadau cywir ac felly mae'n rhaid i ni glywed barn y cyhoedd." 

Mae copïau caled o'r ddogfen ymgynghori ar gael ym mhob hyb, llyfrgell ac adeiladau cymunedol allweddol eraill a bydd y cyngor yn cynnal nifer o ddigwyddiadau mewn hybiau a llyfrgelloedd ledled y ddinas ym mis Ionawr. 

Mewn cydweithrediad â ffrindiau a grwpiau cymdogion mae'r awdurdod lleol yn ceisio sicrhau bod yr ymgynghoriad yn cyrraedd grwpiau nas clywir eu llais yn aml yng Nghaerdydd. Bydd y cyngor hefyd yn gweithio gyda'r fforwm 50+ a phobl ifanc yng Nghaerdydd drwy ddigwyddiadau ym mhrifysgolion a cholegau'r ddinas. 

Mae fersiwn lawn o'r adroddiad sy'n cynnwys y cynigion ac a gymeradwywyd heddiw gan y Cabinet ar gael ar-lein drwy glicio yma.