Back
Cyhoeddi cynllun i leddfu tagfeydd yn nwyrain Caerdydd

Mae'n bosib y caiff pont a ffordd gyswllt newydd, a allai leihau tagfeydd ac amseroedd teithio'n sylweddol i ganol y ddinas o ddwyrain Caerdydd, eu codi yn ardal Llanrhymni os bydd cynlluniau newydd o eiddo'r cyngor yn cael eu pasio.

Ac mewn hwb arall i'r ardal mae'r Cyngor wedi datgelu cynlluniau ar gyfer Canolfan Chwaraeon Awyr Agored gyda'r diweddaraf  gan gynnig mynediad i'r gyfleusterau i glybiau a thimau lleol Llanrhymni.

Byddai'r cynigion - sy'n rhan o Strategaeth Ddiwydiannol Dwyrain Caerdydd - yn clymu Llanrhymni gyda safle Parcio a Theithio Pentwyn, gan ddod â buddsoddiad sydd mawr ei angen i ddwyrain y ddinas a chynnig gwell mynediad at gyfleoedd swyddi i breswylwyr lleol.

Ar hyn o bryd mae'r holl draffig cymudo sy'n anelu am ganol y ddinas o wardiau Llanrhymni, Tredelerch, Trowbridge ac i ryw raddau Llaneirwg yn gorfod defnyddio Heol Casnewydd sy'n peri tagfeydd sylweddol yn ystod yr oriau brig. 

Fe fyddai'r bont a'r ffordd gyswllt newydd yn galluogi preswylwyr i gael mynediad rhwydd i'r safle parcio a theithio, lle byddai modd iddynt ddal trafnidiaeth gyhoeddus i ganol y ddinas gan ddefnyddio lonydd bysiau pwrpasol gan dorri ar amser teithio ac ar dagfeydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Russell Goodway: "Mae Strategaeth Ddiwydiannol Dwyrain Caerdydd bellach wedi ei chymeradwyo gan y Cabinet a rhan allweddol o'r strategaeth hon yw gwella cysylltiadau trafnidiaeth o ddwyrain y ddinas i ganol y ddinas. Bydd y bont a'r ffordd gyswllt newydd yn rhopi mynediad uniongyrchol i breswylwyr Llanrhymni i'r cyfleuster parcio a theithio, gan wneud amseroedd teithio i ganol y ddinas ar fws lawer yn gynt na theithio mewn car.

"Nid yw teithio ar drên o ddwyrain y ddinas yn ddichonadwy ar hyn o bryd, gan mai'r orsaf fwyaf dwyreiniol yw Bae Caerdydd. Fodd bynnag bydd datblygu Gorsaf Parkway newydd Caerdydd yn newid y darlun yn llwyr a rhagwelir y bydd cais cynllunio yn cael ei gyflwyno yn ystod y gwanwyn 2020, gyda'r gwaith adeiladu i gael ei gwblhau a'r orsaf i fod yn gweithredu erbyn 2023. Bydd y gwaith ehangach o ddatblygu'r parc busnes yn cael ei gwblhau wedyn dros gyfnod o 10 mlynedd.

"I'r rheiny sy'n teithio ar y ffordd, er mwyn sicrhau nad yw'r bont a'r ffordd gyswllt newydd yn cael eu defnyddio fel ffordd drwodd yn ystod cyfnodau prysur, bydd cyfyngiadau ar waith a gaiff eu gorfodi gan ‘borth bws', sydd ond yn caniatáu bysiau i ddefnyddio'r bont newydd ar yr adegau hyn. Bydd hyn yn sicrhau fod y seilwaith newydd o fudd i'r gymuned yr adeiledir hwy ar eu cyfer, er mwyn sicrhau mynediad rhwydd a chyflym i'r safle Parcio a Theithio ac i deithio ymlaen ar fws yn hytrach na chynnig llwybr tarw i fodurwyr.

"Ar gyfer y rhai hynny sy'n dewis cerdded neu feicio, bydd coridor afon newydd yn cael ei chodi hefyd i wella'r llwybrau troed a beicio a rennir gan gynnwys pont newydd i feics a cherddwyr.

Mae'r cyngor yn bwriadu codi cyllid i dalu am y seilwaith newydd drwy ddwysau datblygu ar dir o eiddo'r Cyngor yn yr ardal. Unwaith y bydd y cyllid yn ei le, gofynnir i Gabinet y Cyngor gymeradwyo proses dendro yng ngwanwyn 2020 fel bod modd penodi contractwr i godi'r bont a'r ffordd gyswllt newydd.

Fel rhan o'r cynigion mae'r Cyngor wedi bod yn trafod gyda chlybiau pêl-droed a rygbi lleol, fel y gellir codi cyfleusterau chwaraeon newydd yn yr ardal.

Mae cytundeb wedi ei wneud fydd yn darparu caeau o safon gystadleuol i Clybiau Pêl-droed a Rygbi Llanrhymni yn ogystal â nifer o gaeau mini wedi eu cynnal ac i rannu adeilad clwb newydd. Bydd cyfleusterau hyfforddi ar gael ar y caeau 3G newydd hefyd. Ar benwythnosau bydd modd i dimoedd mini, iau, ieuenctid ac oedolion ddefnyddio nifer o'r caeau 3G ar gyfer pêl-droed a rygbi.

Ychwanegodd y Cynghorydd Goodway: "Bydd y Ganolfan Chwaraeon Awyr Agored newydd yn rhoi cyfleuster ffantastig newydd i Lanrhymni ac mae'n ganlyniad cydweithio rhwng partneriaid allweddol yn yr ardal. Er mwyn sicrhau fod y strategaeth yn effeithiol, mae gofyn i'r Cyngor adleoli'r cae presennol sydd o flaen Neuadd Llanrhymni i dir na ellir ei ddatblygu ar gyfer tai.

"Yn gyfnewid am hynny byddwn yn rhoi i dimoedd lleol nifer o gyfleusterau yn ogystal â chyrchfan chwaraeon i'r ddinas.