Back
Cabinet i ystyried Strategaeth Toiledau Lleol

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried adroddiad ar ganfyddiadau ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth Toiledau Lleol, sy'n nodi cynigion i wella mynediad at doiledau cyhoeddus yn ei gyfarfod ar 19 Rhagfyr.

Mae'r strategaeth yn amlinellu bwriad y Cyngor i weithio gyda busnesau'r sector preifat, fel y mae toiledau mewn caffis, tafarndai ac adeiladau eraill ar gael am ddim i'r cyhoedd eu defnyddio. Caiff sticer newydd ei roi yn ffenestr flaen pob busnes sy'n cymryd rhan yn y cynllun.

Mae cyfrifoldeb statudol gan bob awdurdod lleol yng Nghymru dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 i baratoi a chyhoeddi Strategaeth toiledau lleol ar gyfer ei ardal.

I gefnogi gofynion y Ddeddf, mae'r Cyngor wedi cynnal a chadw ei doiledau cyhoeddus cyfredol ym mhob rhan o'r ddinas ac mae wedi buddsoddi mewn adeiladau hamdden a chraidd, gan sicrhau bod y cyfleusterau cyhoeddus hyn yn parhau i fod am ddim i'r cyhoedd eu defnyddio. 

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2019 i asesu anghenion trigolion, ymwelwyr a'r rheiny sy'n gweithio yn y ddinas sy'n defnyddio toiledau cyhoeddus.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Rydyn ni'n ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser i ddweud eu dweud ar y toiledau yn y ddinas."

"Mae'r ymgynghoriad hwn wedi bod yn hanfodol i'n helpu i gael gwybodaeth am ansawdd safleoedd presennol gan drafod eu lleoliad, hygyrchedd, cyfleusterau, pa mor aml y maen nhw'n cael eu defnyddio yn ogystal â chael gwybod a oes angen mwy neu lai o safleoedd yn y ddinas."

"Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd gyfrifoldeb i asesu angen y gymuned am doiledau ac i roi strategaeth toiledau lleol ar waith i fodloni anghenion a nodwyd."

"Ar gyfer grwpiau penodol yn ein cymdeithas, mae'r angen i gael mynediad at doiledau cyhoeddus hyd yn oed yn fwy pwysig, yn benodol y rheiny sy'n anabl, pobl hŷn, pobl â chyflyrau meddygol penodol neu salwch hirdymor, merched, plant a phobl ifanc yn ogystal â'u teuluoedd. Felly, gall darpariaeth annigonol sy'n wael yn gyffredinol effeithio'n anghymesur ar lawer o grwpiau.

"Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Cyngor Caerdydd wedi parhau i fuddsoddi yn ei wasanaethau a'i eiddo. Mae hyn wedi cynnwys creu toiledau a chyfleusterau newid hygyrch mewn llawer o'n cymunedau, yn ogystal â sicrhau bod modd i gyplau cymysg o ofalwyr gael mynediad at gyfleusterau. Mae hyn yn ogystal â gwella safonau a manylebau'n gyffredinol trwy osod gosodiadau a dodrefn (sebon awtomatig, ffitiadau dŵr a sychu dwylo) gwell, gan sicrhau cyfleusterau nad oes modd eu fandaleiddio, dymunol eu golwg, hygyrch a glanweithiol.

Mae ymchwil wedi'i wneud i gasglu gwybodaeth am amseroedd agor, hygyrchedd a'r mathau o gyfleusterau sydd ar gael yng Nghaerdydd. Wedyn caiff y busnesau sy'n cymryd rhan yn y cynllun eu rhestru mewn cronfa ddata a'u cyhoeddi ar fap ‘Lle' Llywodraeth Cymru.

Mae'r strategaeth yn cynnwys y prif elfennau hyn:

  • Cynnig cyfleusterau glân, diogel a hygyrch sy'n cael eu cynnal yn briodol.
  • Gwneud cymaint o doiledau â phosibl ar gael trwy weithio mewn partneriaeth â busnesau preifat
  • Cyhoeddi a hyrwyddo toiledau sy'n rhan o'r cynllun ar wefannau, porthol ‘Lle' Llywodraeth Cymru a chyfryngau eraill
  • Sicrhau bod cyfleusterau ac adeiladau'r Cyngor yn parhau i alluogi'r cyhoedd i ddefnyddio toiledau am ddim
  • Cynnig cyfleusterau effeithiol, hygyrch a phriodol i bob rhan o'r gymuned heb ragfarn neu fias. Cynyddu cynhwysiant cymdeithasol a dileu rhwystrau i bawb
  • Sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o'r ffaith y gall toiledau gael eu defnyddio am ddim trwy'r cynllun a bod arwyddion yn cael eu codi yn Gymraeg a Saesneg
  • Gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a darparwyr gofal iechyd i edrych ar y cyfleoedd i'r toiledau hyn gael eu hagor i'r cyhoedd yn rhan o'r cynllun
  • Sicrhau bod Tîm Digwyddiadau Cyngor Caerdydd yn parhau i roi cyngor ac arweiniad ar doiledau dros dro hygyrch a phriodol mewn digwyddiadau wedi'u trefnu i fodloni anghenion amrywiol y gymuned
  • Sicrhau bod arian ar gael gan adnoddau sy'n bodoli eisoes fel y mae cyfleusterau digonol yn cael eu cynnig lle y mae'r angen mwyaf.

Bydd manylion am yr holl doiledau sydd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio yng Nghaerdydd ar borthol ‘Lle' Llywodraeth Cymru:http://lle.gov.wales/home?lang=cy.

Mae manylion am y Cynllun Toiledau Cymunedol a'r busnesau sy'n cymryd rhan yn y cynllun ar gael ar hyn o bryd arwefan Cyngor Caerdydd.