Back
Breuddwydio am Nadolig gwyrdd? Dyma ein cyngor o ran prynu papur lapio

12/12/19

Dim ond 13diwrnod sydd ar ôl tan y Nadolig, ydych chi wedi dechrau eich siopa Nadolig eto?

Os ydych yn chwilio am yr anrheg Nadolig perffaith, gwnewch yn siŵr nad yw eich papur lapio yn eich gadael chi i lawr.  Sicrhewch fod modd ei ailgylchu cyn ei brynu er mwyn i chi allu gofalu am yr amgylchedd wrth lapio.

Dyma ein canllawiau ecogyfeillgar ar gyfer prynu papur lapio eleni:

  1. Osgowch bapur metalig, ffoil neu gliter gan na ellir ei ailgylchu.

 

  1. Defnyddiwch bapur brown y gellir ei ailgylchu (sydd ar gael o'ch Swyddfa Bost neu'ch siop grefftau leol) a set stampiau i addurno'ch anrhegion a chreu eich dyluniadau Nadolig unigryw eich hunain.

 

  1. Yn lle prynu rhubanau ac ati metalig, gwnewch addurniadau gyda phapur newydd, chwiliwch am diwtorialau ar YouTube i'ch helpu.

 

  1. Defnyddiwch ddail a chelyn i addurno anrhegion, gwnewch yn siŵr y gellir rhoi'r eitemau yr ydych yn eu defnyddio yn eich gwastraff gardd ar ôl i'r anrheg gael ei agor.

 

  1. Cofiwch am y cardiau Nadolig - anfonwch gardiau plaen heb rubanau, addurniadau neu gliter gan na ellir ailgylchu'r eitemau hyn neu os yn bosibl, sicrhewch fod y derbynnydd yn gallu eu tynnu cyn eu rhoi yn eu bagiau gwyrdd i'w casglu.  Fel arall, anfonwch e-gerdyn Nadolig.

Gwnewch y newidiadau bach hyn i helpu i leihau eich ôl troed carbon yn hwyrach ymlaen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gwelerCyngor ar ailgylchu dros y Nadoligar ein gwefan am gyngor pellach o ran pa eitemau y gellir eu hailgylchu.