Back
Pla o lygod wedi’i ganfod mewn ystorfa blawd becws yn y ddinas

5/12/2019

Waliau budron, llwyni a phla mawr o lygod.

Dyma gafwyd hyd iddo ym Mecws Allens y Rhath, lle cafodd arolwg rheolaidd ei gynnal gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar 31 Hydref 2018.

Arweiniodd yr hyn a ganfuwyd yn ystod yr arolwg i gytundeb gwirfoddol i gau'r busnes, ac roedd llawer o faw llygod ar y waliau, ar baledi pren ac ar y tu allan i'r bagiau blawd yn ystorfa'r eiddo.

Gan bledio'n euog i 15 trosedd hylendid bwyd yn Llys yr Ynadon Caerdydd, gorchmynnwyd i John George Allen, 61 oed, o Hillside Court, Pen-y-lan, i dalu £3,000 ar ddydd Iau 5 Rhagfyr.

Mae Becws Allens yn cynhyrchu ac yn gwerthu cynhyrchion pob ffres, gan gynnwys torthau bara a rholiau i tua 20 o fusnesau yng Nghaerdydd yn ogystal â gwerthu pasteiod, sosej rôls a chacennau'n uniongyrchol i gwsmeriaid o'r busnes.

Dywedodd Llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Yn hanesyddol mae'r busnes hwn wedi cael sgorau hylendid bwyd gwael yn mynd yn ôl i 2016, pan roedd y sgôr hylendid bwyd yn 2, a olygai fod ‘angen gwelliant'.

"Pan gafodd y busnes ei arolygu am yr eildro ar ddiwedd 2017, roedd diffyg cynnydd ar y gwaith yr oedd angen ei wneud a disgynnodd y sgôr hylendid bwyd i 1. Bryd hynny, roedd y problemau'n ymwneud yn bennaf â diffyg glendid y becws ei hun."

Pan gynhaliwyd yr ymweliad dirybudd ar 31 Hydref y llynedd ac y canfuwyd llawer o faw llygod yn yr ystordy, roedd y swyddog ymchwilio'n fodlon bod risg go iawn o halogi'r bwyd a oedd yn cael ei gynhyrchu a chaewyd y busnes.

Mae llygod yn cludo chwain, gwiddon a throgod yn ogystal â bacteria a firysau all ladd, gan gynnwys Salmonella, E.coli, Cryptosporidiwm a bacteria all achosi'r diciáu.

Yn dilyn yr ymweliad dirybudd, galwodd Mr Allen gwmni rheoli plâu a chafodd wybod bod llygod yn mynd i'r ystorfa drwy fwrdd ochr a thrwy wal geudod.

Yn dilyn ymweliad pellach ar 6 Tachwedd, nid oedd o swyddog o hyd yn fodlon ar lendid y busnes ac er bod gweithdrefnau ysgrifenedig ar waith, roedd yn amlwg ar ddiwedd y shifft nad oedd tasgau glanhau'n cael eu cyflawni.

Cysylltwyd eto â Mr Allen i ail-arolygu'r busnes ar 28 Tachwedd, 2018. Cwblhawyd y gwaith strwythurol i'r ystorfa ac roedd yr ystafell wedi cael ei gwagio a'i glanhau'n drylwyr. Roedd contractwyr glanhau masnachol wedi glanhau'r becws yn drylwyr gyda'r waliau wedi'u hail-beintio â phaent gwrth-lwydni.

Rhoddwyd sgôr hylendid bwyd newydd o 3 i'r busnes, sef ‘boddhaol yn gyffredinol'.

Pan aeth Mr Allen i Lys yr Ynadon Caerdydd ar 5 Rhagfyr a phledio'n euog i 5 trosedd, cafodd ddirwy o £2,000, gorchymyn i dalu costau o £460, a thâl dioddefwr o £120.