Mae Ysgol Gynradd Baden Powell yn Nhremorfa, wedi ennill gwobr am ddarparu gofal wych i blant a phobl ifanc sydd â diabetes Math 1.
Cafodd yr ysgol ei dewis ar gyfer ‘Gwobr Gofal Diabetes Da mewn Ysgolion' oherwydd y gefnogaeth mae'n ei rhoi i ddisgyblion sydd â'r cyflwr, y cymorth y mae'n ei gynnig i reoli eu diabetes yn ddiogel, a'r gofal y mae'n ei gymryd i'w cynnwys yn holl weithgareddau'r ysgol.
Dywedodd Ceri Gibbon, Pennaeth dros dro Ysgol Gynradd Baden Powell, "Roedd plentyn gyda ni drwy yn y feithrin, y dosbarth derbyn a blwyddyn 1 gyda diabetes Math 1, a'n gadawodd ni i symud i ysgol arall yr haf diwethaf. Buon ni'n gweithio'n agos iawn gyda'r ysbyty a'r nyrs Paediatreg arbenigol i gynnig cymaint o gefnogaeth i'r teulu ag y gallen ni.
"Cynhalion ni hyfforddiant ysgol-gyfan i staff er mwyn sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o'r cyflwr ac yn gallu adnabod arwyddion a phryderon. Roedd staff yn gefnogol wrth sicrhau y cymerwyd darlleniadau, bod inswlin yn cael ei roi a bod pob carbohydrad yn cael ei gyfrif er mwyn sicrhau bod y plentyn oedd â diabetes yn iach ac yn iawn.
"Fel ysgol rydym yn blaenoriaethu lles ein holl blant ac roeddem wrth ein bod yn derbyn gwobr i gydnabod hyn."
Mae diabetes Math 1 yn gyflwr difrifol, gydol oes lle y mae lefelau glwcos yn y gwaed yn rhy uchel oherwydd na all y corff gynhyrchu hormon o'r enw inswlin. Nid oes neb yn gwybod yn union beth sy'n ei achosi ond nid yw'n ymwneud â bod yn ordew ac nid yw'n bosibl ar hyn o bryd ei atal. Caiff ei drin gan ddosau inswlin bob dydd - wedi'u cymryd naill ai drwy bigiadau neu bwmp inswlin.
Mae angen i bobl sydd â diabetes Math 1 i wirio eu lefelau glwcos yn y gwaed gan ddefnyddio dyfais profi glwcos yn y gwaed sawl gwaith y dydd. Mae hyn yn bwysig oherwydd dros gyfnod hir o amser, gall lefelau glwcos uchel yn y gwaed arwain at gymhlethdodau. Ond gyda'r driniaeth a'r gofal cywir, gellir rheoli effeithiau hirdymor diabetes a lefelau glwcos uchel.
Nod y cynllun cydnabod yw codi ymwybyddiaeth o'r rôl hanfodol y mae gofal diabetes da yn yr ysgol yn ei chwarae wrth gadw disgyblion yn ddiogel, gan eu cefnogi i gyflawni eu potensial academaidd llawn ac i hyrwyddo eu datblygiad personol.
I gael rhagor o wybodaeth am y Wobr Gofal Diabetes Da yn yr Ysgol ewch i: www.diabetes.org.uk/care-award.