Mae Gwasanaeth Gwaed Cymruwedi diolch i fyfyrwyr a staff Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd am dorchi llewys a rhoi gwaed i helpu cleifion mewn angen.
Gwnaed dros 60 rhodd o waed yn ddiweddar yn y sesiwn rhoi gwaed gyntaf a gafodd ei chynnal yn arbennig ar gyfer myfyrwyr a staff yn yr ysgol, gan achub o bosibl, neu wella dros 180 bywyd.
Cofrestrodd 18 rhoddwr gwaed arallar Gofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymrugan ymuno â chronfa ddata o dros 35 miliwn o roddwyr ar draws y byd y gallai eu rhinweddau unigryw olygu mai nhw ydy'r unig berson yn y byd a allai achub bywyd rhywun y mae angen trawsblaniad arno.
Dywedodd y rhoddwr gwaed a phennaeth Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, Mr Mark Powell:"Rydym i gyd yn falch iawn ac wrth ein boddau o fod yn rhan o'r fenter hon a does dim os nac oni bai y bydd yn parhau i dyfu o nerth i nerth. Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn darparu gwasanaeth hanfodol i bobl Cymru ac fe wnawn bopeth y gallwn i wneud cyfraniad cadarnhaol at ei ymdrechion.
"Rydym yn ysgol sy'n gwasanaethu cymuned ac rydym yn gwneud popeth y gallwn i feithrin gwerthoedd cymunedol cryf yn ein myfyrwyr." Rydym bob tro'n gwneud ymdrech i wneud cyfraniad cadarnhaol i fywydau pobl, felly mae gweld ein myfyrwyr yn dod i helpu yn yr ymdrech hon yn brawf o'u parodrwydd fel unigolion i wneud gwahaniaeth - maen nhw wir yn grŵp o bobl ifanc anhygoel.
"Rwy'n falch iawn ohonyn nhw bob un wrth i ni gychwyn ar ein taith achub bywydau yma gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru."
Ar ôl rhoi gwaed am y tro cyntaf, dywedodd y fyfyrwraig yn y chweched dosbarth, Darcy: "Ro'n i mor nerfus cyn dechrau oherwydd dydw i ddim yn rhy dda gyda nodwyddau ond doedd dim angen i mi boeni, mae'r staff yn eich gwneud i deimlo mor gyfforddus.
"Ro'n i eisiau rhoi gwaed yma heddiw gan fod fy mam wedi gorfod cael trallwysiad gwaed flynyddoedd yn ôl. Heddiw rydw i'n helpu rhywun mewn angen fel fy mam."
Drwy gynnal ei sesiwn rhoi gwaed ei hun, Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yw'r wythfed ysgol i ymuno â menter Gwasanaeth Gwaed Cymru i gynnig sesiynau rhoi gwaed mewn detholiad o leoliadau addysg ôl-6 mwyaf Cymru.
Dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwasanaeth Gwaed Cymru: "Fe hoffem ni ddiolch i'r disgyblion ac aelodau staff a gyfrannodd yn anhunanol tuag at y 100,000 uned y mae eu hangen arnon ni yng Nghymru eleni. Maen nhw wedi dangos ymroddiad ardderchog ac ysbryd cymunedol gwych.
"Maen hanfodol ein bod yn cyfleu pwysigrwydd cyfrannu gwaed i'r genhedlaeth iau. Drwy gael cefnogaeth rhai o'r ysgolion mwyaf yng Nghymru, gallwn annog mwy o fyfyrwyr i roi cynnig ar roi gwaed fel rhan o'u diwrnod yn yr ysgol. "Rydyn ni'n gobeithio y bydd gweithredoedd y disgyblion yn annog mwy o bobl sy'n byw yn y fwrdeistref sirol i ystyried rhoi gwaed yn y dyfodol.
Nid yn unig ar gyfer damweiniau ac argyfyngau y defnyddir y gwaed a gesglir; caiff ei ddefnyddio hefyd ar gyfer cleifion canser a liwcemia y mae arnyn nhw angen trallwysiadau rheolaidd, felly mae hi'n hanfodol ein bod ni'n sicrhau bod cyflenwad cyson ar gael i helpu cleifion mewn angen trwy'r wlad."
Os nad ydych erioed wedi rhoi gwaed o'r blaen, mae nawr yn amser gwych i roi cynnig arni."
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wbs.wales/schools neu ffoniwch 0800 252 266.