Back
Dewch i gwrdd â’r ymgyrchwr gwrth-sbwriel ysbrydoledig sy’n arwain yr ymgyrch baw cŵn
Mae’n bleser gan Gyngor Caerdydd groesawu Penny Bowers yn gennad gwirfoddol ar gyfer yr ymgyrch Gadewch ond Ôl Pawennau, y ffordd gyfeillgar, di-wrthdaro o fynd i’r afael ag agweddau ac ymddygiadau’n ymwneud â baw cŵn.


Mae Penny, o Ystum Taf, yn dod o gefndir sy’n cynnwys gweithio gyda chŵn ac mae ei phrofiad sylweddol yn cynnwys bod yn Gadeirydd Cyfeillion Parc Hailey, Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol Grŵp Gweithredu Cŵn Caerdydd a Gofalwr Maeth a Swyddog Codi Arian Four Paws. Mae Penny hefyd yn cynnal dwy sioe gŵn y flwyddyn yng Nghaerdydd ac mae wedi bod yn maethu cŵn am 17 mlynedd.

 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd, “Rydym wrth ein bodd o groesawu Penny yn arweinydd mewn enw ar gyfer yr Ymgyrch Gadewch ond Ôl Pawennau. Mae Penny o blaid siarad am fod yn berchennog cyfrifol, a hithau wedi bod yn berchen cŵn ei am 50 mlynedd.

 

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Penny ar flaen y gad, yn hyrwyddo ein neges Gadewch ond Ôl Pawennau ledled y ddinas. Byddwn yn cydweithio â hi er mwyn cwrdd â grwpiau, rhwydweithiau ac elusennau cŵn a milfeddygon. Yn y Flwyddyn Newydd byddwn yn lansio digwyddiadau untro a gynhelir ledled parciau Caerdydd a byddwn yn annog trigolion i ddod draw, cwrdd â phobl eraill sy’n mynd â chŵn am dro a dysgu mwy am yr ymgyrch.

 

Dywedodd Penny, “Rwy’n falch o fod yn rhan o’r ymgyrch Gadewch ond Ôl Pawennau. Mae llawer o berchenogion cŵn sy’n ymddwyn yn gyfrifol yng Nghaerdydd, ond mae dal ambell un sydd ddim yn glanhau baw eu cŵn ac felly rwy’n falch o fod yn rhan o ymgyrch sy’n helpu i annog a chefnogi pobl eraill sy’n mynd a chŵn am dro.

 

Tri Awgrymiad Gorau Penny ar gyfer Ymddwyn yn Gyfrifol wrth Fynd â Chŵn am Dro

 

1.    Prynwch fagiau cewyn yn hytrach na bagiau baw cŵn, rydw i’n prynu 300 am ddim ond 35c yn fy archfarchnad leol.

2.    Prynwch fag o siop elusen ac os bydd eich ci yn gwneud ei faw pan fyddwch allan am dro, gallwch roi’r bagiau baw cŵn yn syth yn y bag nes byddwch yn dod at fin. Cofiwch y gallwch ddefnyddio unrhyw fin sbwriel, does dim rhaid iddo fod yn fin baw cŵn.

3.    Cofrestrwch i ddod yn eiriolwyr Gadewch ond Ôl Pawennau a gwneud addewid i gludo bag ychwanegol ar eich taith i’w roi i bobl eraill sy’n mynd â chŵn am dro os bydd angen.

Mae’r ymgyrch Gadewch ond Ôl Pawennau yn annog perchenogion cŵn a’u cŵn i gofrestru a dod yn Eiriolwyr lleol, y gellir eu hadnabod gyda’u bathodynnau Gadewch ond Ôl Pawennau a gaiff eu gwisgo gan y ci a’i berchennog. 

Mae Eiriolwyr Gadewch ond Ôl Pawennau yn cludo bagiau ychwanegol felly os nad oes bag gan berchennog ci arall gall ofyn i Eiriolwr am un. I ddysgu mwy, neu i ddod yn eiriolwr, ewch i https://www.keepcardifftidy.com/cy/ neu cysylltwch â’r tîm Carwch Eich Cartref yn carwcheichcartref@caerdydd.gov.uk