Bydd y digwyddiad dau ddiwrnod, sydd yn rhad ac
am ddim i ymwelwyr, yn dechrau gyda chystadleuaeth yr ysgolion ddydd Gwener (22
Tachwedd), gaiff ei hagor eleni gan y rhwyfwr o Gymru, a chyn gystadleuydd
PRhDDC, Iwan Hadfield, a enillodd fedel efydd yn ddiweddar yn cynrychioli tîm
GB ym Mhencampwriaeth Rhwyfo'r Byd i bobl iau yn Tokio.
Yn ystod y prif ddigwyddiad ddydd Sadwrn, bydd
cystadleuwyr uchel eu parch yn rasio o flaen cynulleidfa gan gynnwys nifer o
hyfforddwyr perfformiad uchel, sy'n chwilio am enillwyr Olympaidd y dyfodol ac
yn gobeithio am ailadrodd y digwyddiad o'r llynedd pan osodwyd saith record
Cymreig newydd a thorrwyd un Record y Byd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Ers
cael ei lansio gan Ganolfan Gweithgareddau Dŵr Bae Caerdydd 20 mlynedd yn ôl,
mae'r digwyddiad hwn wedi mynd o nerth i nerth, gan gynnig tir profi i
gystadleuwyr sy'n ceisio datblygu eu gyrfaoedd rhwyfo. Mae'r awyrgylch yn
arbennig bob tro ac mae'n gyfle gwych i weld rhai o'r athletwyr lefel uchel yn
agos."
Mae o leiaf wyth rhwyfwr o dîm GB wedi cael
blas cynnar ar gystadlu yn y PRhDDC yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, ac yng
Nghanolfan Gweithgareddau Bae Caerdydd, a chaiff ail ddigwyddiad rhwyfo dan do
ei lansio ym mis Ebrill 2020, fydd yn rhoi cychwyn ar Gyfres Dan Do Cymru.
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i:https://www.wirc.wales/