Mae cynllun newydd ar waith er mwyn adnabod, blaenoriaethu a gwella Hawliau Tramwy tan 2030.
Mae gan Gaerdydd rwydwaith o tua 200km/124 milltir o lwybrau hawl tramwy trwy'r sir, yn cynnwys llwybrau cerdded a llwybrau marchogaeth ac mae'r rhan fwyaf yng ngogledd a gogledd orllewin Caerdydd. Mae un rhan o dair o'r sir yn wledig ac mae pedwar cwm afon ac ager a ddiogelir, sef Afon Elái, Afon Taf ac afon lanw Rhymni a'r Nant Fawr.
Dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, mae cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i gynnal Map Diffiniol yn dangos y Rhwydwaith Hawliau Tramwy, sy'n dangos yn amlwg y llwybrau ac yn sicrhau bod y llwybrau ar agor i'r cyhoedd eu mwynhau.
Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori gyda'r cyhoedd er mwyn i ni allu deall eu blaenoriaethau ac o ganlyniad, mae rhestr o bum prif strategaeth a deuddeng prif nod wedi eu llunio dan y cynllun newydd.
Y 12 prif nod ydy:
Mae'r rhan fwyaf o'r rhwydwaith Hawliau Tramwy ar dir preifat felly bydd y cyngor yn gweithio gyda thir berchnogion i sicrhau camfeydd, gatiau a dodrefn eraill sydd mewn cyflwr teg at ddefnydd y cyhoedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae cynnal a gwella Hawliau Tramwy yng Nghaerdydd at safon uchel yn brif flaenoriaeth gan y Cyngor yn ogystal â chreu cysylltiadau at fannau glas a llwybrau teithio actif i ragor o bobl eu defnyddio a mwynhau.
"Caiff cynlluniau eu cynhyrchu, a fydd yn nodi'r gwaith sy'n mynd rhagddo gan y Cyngor i gynnal y llwybrau. Mae hefyd nifer o brojectau trwy arian grant a fydd yn plethu â'r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy, yn cynnwys rhoi ôl-ofal i ailosod Llwybr Arfordir Cymru, arian ychwanegol ar gyfer llwybrau canfod y ffordd a chynnal a chadw, gweithio gydag awdurdodau partner i wella llwybrau ceffyl a beic mynydd hir yn ogystal â gweithio â sefydliadau i wella bioamrywiaeth a chynefinoedd."
Caiff y Cynllun Gweithredu cyntaf ei gyhoeddi yn 2020-2021 ac eglurir rhai o uchafbwyntiau'r gwaith hwn isod:
Bydd Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Caerdydd 2020-30 ar gael i'w weld ar-lein ar wefan Cyngor Caerdydd o ganol mis Rhagfyr 2019 ac yna bydd ar gael i'r weld yn Neuadd y Sir, Neuadd y Ddinas a Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd.