Back
Cynllun bwyd cynaliadwy Caerdydd

Cefnogaeth i fentrau tyfu bwyd lleol, datblygu cynllun bwyd yng nghanol y ddinas, 'parthau gwahardd' bwyd cyflym o amgylch ysgolion Caerdydd, ymestyn cyflwyno rhaglen sy'n cynnig prydau bwyd iach i blant yn ystod gwyliau'r ysgol, a mwy o gyfyngiadau ar hysbysebu bwyd sothach yw rhai o'r syniadau sydd wedi'u cynnwys mewn strategaeth fwyd newydd ar gyfer Caerdydd.

Mae'r strategaeth arfaethedig, sydd i fod i gael ei thrafod mewn cyfarfod Cabinet yr wythnos nesaf, wedi'i datblygu fel rhan o weledigaeth Cyngor Caerdydd i alluogi pawb yng Nghaerdydd i gael mynediad at fwyd fforddiadwy o ansawdd da.

Ei nod yw dathlu diwylliant bwyd Caerdydd, mynd i'r afael â materion gordewdra ac anghydraddoldeb, cyfrannu at ostwng ôl troed carbon y ddinas a, thrwy bartneriaeth fwyd leol y ddinas, Bwyd Caerdydd, helpu'r ddinas i gyflawni Statws Dinas Gynaliadwy Arian.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor:  "Diffinnir dinasoedd yn ôl ansawdd, argaeledd a fforddiadwyedd eu bwyd. Mae'n fater sylfaenol i bawb sy'n byw yma, neu'n ymweld."

 

"Mae yna lawer o waith da eisoes yn cael ei wneud o fewn y cyngor - er enghraifft darparu rhandir a gardd gymunedol, y Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol sy'n darparu prydau bwyd iach dros wyliau'r haf i blant mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol, a'n Llw Llysiau i gynyddu faint o lysiau sy'n cael eu gweini yn ein lleoliadau - ond gall bwyd wneud cymaint mwy o bosib."

 

"Gall bwyd effeithio ar dwristiaeth, anghydraddoldebau, iechyd a lles, datblygu economaidd a chwarae rhan yn ymateb Caerdydd i'r argyfwng hinsawdd - dyna pam rydym am arwain trwy esiampl, helpu i ysgogi newid ledled y ddinas a sicrhau bod Caerdydd yn cael y bwyd da o ansawdd, sy'n fforddiadwy a chynaliadwy, mae ei angen arni."

Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar 5 maes allweddol ar gyfer gweithredu - maethu partneriaethau bwyd, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau bwyd, cynyddu cynhyrchiant bwyd lleol, bwyta allan yn dda, a bwyd fel sbardun ar gyfer ffyniant.

 

Mae'r camau a nodwyd yn y strategaeth yn cynnwys:

 

  • Datblygu cynllun clir ar gyfer tyfu bwyd mewn gofodau lle mae gan y Cyngor reolaeth (e.e. rhandiroedd, parciau, Hybiau, ysgolion a thir ‘defnyddio yn y cyfamser').
  • Datblygu cynllun bwyd yng nghanol y ddinas gyda ffocws ar ddarparu economi fwyd amrywiol a bywiog - nodi lleoliadau priodol lle bydd bwyd stryd yn cael ei gynnal, ailwampio Marchnad Caerdydd fel marchnad fwyd gynaliadwy (gyda dewisiadau bwyta i mewn, prydau parod a choginio gartref).
  • Datblygu a gweithredu polisi i gyfyngu ar hysbysebu bwyd sothach ledled y ddinas (ar ofod hysbysebu a reolir gan y Cyngor).
  • Mapio anialwch bwyd y ddinas (ardaloedd, fel arfer mewn cymunedau difreintiedig, heb siopau bwyd, marchnadoedd a darparwyr gofal iechyd) ac ardaloedd wedi'u trwytho ag allfeydd bwyd cyflym.
  • Cynhyrchu nodyn canllaw cynllunio o amgylch allfeydd bwyd cyflym - ystyried terfynau dirlawnder ar gyfer ardaloedd a pharthau gwahardd o amgylch ysgolion.
  • Integreiddio polisi / safonau ar ddarparu lle ar gyfer tyfu'n lleol o fewn y polisi cynllunio ar gyfer datblygiadau mawr.
  • Cyflwyno'r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol ar draws mwy o ysgolion Caerdydd.
  • Treialu dewis siopau naid gwerthwyr stryd gydag ‘opsiwn bwyd cynaliadwy' ar gyfer digwyddiadau mawr.
  • Sicrhau bod dŵr ar gael yn rhwydd i staff ac ymwelwyr mewn gorsafoedd ail-lenwi yn adeiladau'r cyngor.
  • Adolygu'r darpariaethau amser cinio ysgol cyfredol a chefnogi ysgolion i fabwysiadu dull bwyd ysgol gyfan.
  • Datblygu prosbectws dinas fwyd.
  • Cefnogi cyflwyno pantrïoedd cymunedol yn strategol yng Nghaerdydd.
  • Asesu opsiynau i ddatblygu parc bwyd - hyb ar gyfer bwyd sy'n dod ag eiriolwyr dros fwyd ynghyd, o bobl enwog i entrepreneuriaid bwyd, cogyddion ac arweinwyr busnes.
  • Cynyddu cyfleoedd tyfu a chynhyrchu bwyd masnachol yn y ddinas.