Efallai nad ydych chi wedi cael gwared ar y pwmpenni hyd yn oed, ond mae'n dechrau edrych fel adeg y Nadolig nawr yng Nghaerdydd!
Gyda machlud yr haul ar 14 Tachwedd, bydd y ddinas yn camu i mewn i dymor yr Ŵyl gan gynnau goleuadau'r Nadolig, agor y stondinau pren a'u haddurniadau hyfryd yn y Farchnad Nadolig, a bydd Siôn Corn hefyd yn ymddangos yn ei groto.
Dywedodd llefarydd ar ran Croeso Caerdydd: "P'un a ydych chi'n dod am daith hela anrhegion drwy'r arcedau Fictoraidd, gyda gwydraid o win cynnes o'r Farchnad Nadolig, ac yn pennu'r diwrnod gyda noson o fale, neu'n ymweld â Sion Corn gyda'r plant ac yn mynd i sglefrio iâ a gwylio cynhyrchiad pantomeim mwyaf nodweddiadol erioed, Cinderella, bydd y Nadolig eleni yn hynod arbennig yng Nghaerdydd!"
Mae uchafbwyntiau hwyl yr ŵyl yn cynnwys:
Marchnad Nadolig
O 14 Tachwedd tan 23 Rhagfyr bydd canol dinas Caerdydd, sydd i gerddwyr yn unig, yn troi yn Farchnad Nadoligaidd fydd yn cystadlu â marchnadoedd dinasoedd Ewrop. Bydd rhesi ar resi o stondinau pren ag addurniadau hyfryd, o fewn tafliad carreg o brif hybiau trafnidiaeth y ddinas, yn cynnig amrywiaeth o anrhegion megis llechi Cymreig, canhwyllau crefft, cawsiau blasus, gwin ffrwythau a gwirodydd, fodca a jin â blas arbennig a gemwaith arian ac enamel, crochenwaith a chelf wreiddiol gan dros 200 o artistiaid talentog, crefftwyr, a chynhyrchwyr bwyd ac alcohol. Beth am flasu gwydriad o win cynnes wrth i chi edrych am anrheg arbennig?
Gŵyl y Gaeaf Caerdydd
Ni fyddai'r Nadolig yng Nghaerdydd yn gyflawn heb ymweliad â Gŵyl y Gaeaf, fydd yn dod yn ôl ar gaeau Neuadd y Ddinas eleni, gyda rhywbeth newydd - Llwybr Iâ Alpaidd unigryw 250m o hyd fydd yn galluogi sglefrwyr i fynd o gwmpas y safle hudolus heb dynnu eu sgidiau sglefrio!
Oes gennych chi sglefriwr bach? Peth am gasglu pengwin i'w helpu symud o gwmpas Llawr Sglefrio Admiral - mae'n hwyl i'r teulu cyfan, hyd yn oed ar ddiwrnod gwlyb!
A phan fydd y sglefrio'n dod i ben, beth am roi cynnig ar olygfeydd trawiadol o'r ddinas gyda'r olwyn fawr newydd sbon, a mwynhau'r bwydydd a'r diodydd yn yr awyrgylch aprés ski yn Sur La Piste - bar dau lawr gall groesawu hyd at 400 o ymwelwyr Nadoligaidd.
Tocynnau a rhagor o wybodaeth:http://cardiffswinterwonderland.com/cy/hafan/
Nadolig yn y Castell
Mae'r Nadolig yn un o'r adegau gorau i ymweld â Chastell Caerdydd. Yn ogystal â darganfod mwy am ei hanes, gall ymwelwyr hefyd weld y tŷ yn ei holl ogoniant tymhorol, wedi'i oleuo â chanhwyllau a'i addurno'n ysblennydd yn ysbryd y Nadolig.
Eleni, bydd Siôn Corn yn mwynhau Nadolig Fictoraidd yn y Castell - ac mae croeso i deuluoedd ymuno ag ef! Dewch i gwrdd â'r cymeriadau wedi'u gwisgo, yn awyddus i rannu traddodiadau Nadoligaidd y gorffennol, ewch ar daith drwy'r fflatiau Fictoraidd wedi eu haddurno yn draddodiadol a dilynwch y llwybr ffyn losin i'r Ystafell Groeso, lle bydd Siôn Corn ei hun yn aros gydag anrhegion i'r plant.
Tocynnau a gwybodaeth ychwanegol:www.castellcaerdydd.com
Mae'n werth mynd iFarchnad Ganolog Caerdydd, lle gwych i gael blas ar y ddinas, a phopeth dan un to gwydr. Mae'r Farchnad Fictoraidd yn cynnig profiad siopa unigryw yng nghalon dinas fodern llawn bywyd a byddwch yn dod o hyd i lu o nwyddau o rai bwydydd traddodiadol Cymreig i goffi arbennig a bwyd stryd, dilladvintagea recordiau ail law, ffrwythau a llysiau, a hyd yn oed cyfryngwr seicig!
Mae Marchnad Caerdydd wedi bod yn masnachu ar ryw ffurf neu'i gilydd ers dechrau'r ddeunawfed ganrif, ond mae'r Farchnad gyda'r Nos yn newydd. Ar 14 Tachwedd bydd y Farchnad yn agor gyda'r hwyr (o 6pm tan 9pm) ar gyfer ‘Pethau Nadolig' Bydd y digwyddiad yn cynnwys disgo'r 80au, eitemau a gwasanaethau ychwanegol o lawer o'r stondinau - a bydd peth hud y nos hefyd!
Diwrnod Dinas yr Arcedau
Ymunwch â ni ar gyfer Diwrnod cyntaf Dinas yr Arcedau, ddydd Sadwrn 16 Tachwedd 2019 a dechreuwch ar eich siopa Nadolig gyda'r profiad unigryw.
Dros y saith arcêd hanesyddol a phrydferth byddwch yn dod o hyd i gynigion arbennig, digwyddiadau cerddoriaeth fyw drwy gydol y dydd a chyda'r nos. Cynlluniwch eich ymweliad a dewch i ddarganfod rhagor o'r hyn sydd ar gynnig yng Nghaerdydd yn y siopau, bariau, bwytai a siopau annibynnolhttp://thecityofarcades.com/city-of-arcades-day/
Groto Siôn Corn
Bydd Siôn Corn yn dod i'r dref mewn caban pren hyfryd gyda'i gorachod cyfeillgar ar Heol-y-Frenhines o 14 Tachwedd. Dihangwch o brysurdeb y siopa Nadolig a chrëwch atgofion arbennig i'ch plant! Dim angen trefnu o flaen llaw.
Y Theatr Newydd
Pan fyddwch chi wedi cael llond bol ar yr holl siopa, beth am gymryd hoe i fwynhau un o'n sioeau tymhorol? Bydd Cinderella, y pantomeim Nadolig mwyaf nodweddiadol yn y Theatr Newydd. Gok Wan fydd yn chwarae rôl y Ddewines Dda, a Mike Doyle a Ceri Dupree fydd y chwiorydd hyll gyda Phil Butler yn rôl Buttons, bydd y cynhyrchiad hwn na ddylech ei fethu, yn dod â llawer o hwyl a chwerthin, effeithiau arbennig trawiadol, caneuon a dawnsiau heb eu hail yn ogystal â digonedd o hwtian a hisian!https://www.newtheatrecardiff.co.uk/
Neuadd Dewi Sant
Bydd Bale Gwladol Rwsia a Cherddorfa Siberia yn dychwelyd i Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru gyda thri pherfformiad bale hudolus mewn un tymor llawn gwefr.
Bydd y tymor yn dechrau gydaCoppélia(19-20 Rhagfyr).Yn ddelfrydol i'r rheiny sy'n mynd i'r bale am y tro cyntaf, teuluoedd a phawb arall, bydd y comedi swynol hwn yn dilyn Swanilda, ei hymgeisydd drygionus Franz a'r gwneuthurwr teganau rhyfedd Dr Coppelius drwy chwedl ysgafn am garwyr dryslyd a hunaniaeth wedi'i chymysgu.
The Nutcracker,(21 - 24 Rhagfyr) yn dechrau gyda'r hwyr ar Noswyl Nadolig. Wrth i'r plu eira gwympo a'r tân agored yn anfon cysgodion yn dawnsio dros yr anrhegion dan y goeden a phan fo'r gloch yn canu canol nos cawn ein tywys i mewn byd chwedlonol lle nid oes dim byd yn hollol iawn. Daw doliau yn fyw ar y set, mae brenin y Llygod a'i fyddin o lygod yn brwydro yn erbyn y Tywysog Torrwr Cnau ac fe deithiwn trwy Diroedd yr Eira i le lledrithiol lle mae'r hud yn dechrau go iawn.
Bydd y tymor anhygoel hwn yn dod i ben gyda'r bale mwyaf rhamantaidd erioed,Swan Lake.O ystafell ddawnsio fawreddog y Palas i'r llyn dan olau'r lleuad lle mae'r elyrch yn symud yn ddigynnwrf mewn patrwm perffaith, mae'r cwbl i'w gael yn y stori ramant drasig hon. 27 Rhagfyr - 31 Rhagfyr.
https://www.stdavidshallcardiff.co.uk/
Canolfan y Mileniwm
Yn dilyn taith hynod lwyddiannus 2018 a'r rhediad ar lwyfan yn Llundain, mae Nativity! Bydd The Musical yn dod i Gaerdydd am flas Nadoligaidd cynnar!
Bydd cynhyrchiad arobryn BroadwayLes Misérablesgan Cameron Mackintosh hefyd yn dod yn ôl i'r Ganolfan bron i ddegawd ar ôl cael ei werthu allan yn y DU.
Cei'r Fôr-Forwyn
Ewch am reid ar Drên Siôn Corn ym Mae Caerdydd - mae'r trên stêm lliwgar hwn yn cael ei yrru gan goblyn ac mae'n tynnu dau gerbyd sy'n llawn anrhegion, coeden Nadolig gydag addurniadau arni, oll wedi'i wneud gyda bron 300,000 o friciauLEGO®!
Dewch arno a thynnu hun-lun Nadoligaidd ar Sgwâr Tacoma, yng nghalon Cei'r Fôr-Forwyn o 30 Tachwedd i 5 Ionawr.
Am ddim.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Mae'r Nadolig yn amser gwych o'r flwyddyn i ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Os byddwch yn ymweld â Gŵyl Y Gaeaf yng Nghaerdydd a Llawr Sglefrio Admiral, beth am ddod i'r amgueddfa wedyn, dros y ffordd a manteisio ar y digwyddiadau gwych a'r arddangosfeydd arbennig sydd ar gynnig. Bydd y teulu cyfan yn cael hwyl a chewch weld Dippy, sgerbwd y deinosorDiplodocus enwog, sy'n ymweld â Chaerdydd tan 26 Ionawr.
Mae Tymor Ffotograffiaeth 2019-20 yr Amgueddfa yn cyflwyno gwaith gan bedwar o'r ffotograffwyr mwyaf dylanwadol yn hanes y cyfrwng; August Sander, Bernd a Hilla Becher a Martin Parr. Yn bennaf, mae'r arddangosfeydd yn cynnwys lluniau wedi'u benthyg a dyw llawer ohonynt erioed wedi cael eu harddangos o'r blaen. Byddan nhw i gyd yn cael eu harddangos am y tro cyntaf yng Nghymru.
Dydd Sadwrn Teg
Caiff Dydd Sadwrn Teg ei gynnal ar 30 Tachwedd, y diwrnod ar ôl Dydd Gwener y Gwario Gwirion. Mae'n fudiad byd-eang a sefydlwyd yn Bilboa i ddathlu grym y celfyddydau, y diwylliant a'r dreftadaeth er mwyn newid y byd a chreu cymdeithas decach. Ymunodd Caerdydd â'r mudiad Dydd Sadwrn Teg yn swyddogol eleni ac mae nawr yn rhan o rwydwaith byd-eang o ddinasoedd a chymunedau o Lima ym Mherw i Madrid yn Sbaen.
I bennu'r diwrnod, bydd Arglwydd Faer Caerdydd yn cynnal digwyddiad rêf i godi arian dros elusen. Bydd y rêf a gaiff ei gynnal yn yr Hen Lyfrgell ar yr Ais yn cynnwys setiau DJ gan: un o hen bennau'r sîn ddawns yng Nghaerdydd, Craig Bartlett; Esyllt o'r noson glwb Dirty Pop, sefydlydd noson glwb Shangri-la, Nick Saunders; criw cydweithredol o Gaerdydd, Ladies of Rage, ac ymddangosiad arbennig gan y gŵr â'r gadwyn aur, yr Arglwydd Faer ei hun.
Bydd yr holl elw o'r digwyddiad, sy'n cael ei hyrwyddo gan The DEPOT, yn mynd i'r ddwy elusen o ddewis yr Arglwydd Faer, Cymorth i Fenywod Cymru a BAWSO.
Mae tocynnau ar gyfer y rêf ar gael yma:https://shangri-la.eventcube.io/events/21895/lord-mayors-rave/
AM ragor o wybodaeth ynghylch Dydd Sadwrn Teg, ewch i:https://fairsaturday.org/en
I weld yr holl ddigwyddiadau Nadoligaidd yng Nghaerdydd ewch i:www.coresocaerdydd.comneu @CroesoCaerdydd ar y cyfryngau cymdeithasol.