Mae’r parc, sy’n barc rhestredig Gradd II ac yn un o 12 parc Baner Werdd y ddinas, wedi elwa yn ddiweddar ar £495,000 o arian y Loteri Genedlaethol, y defnyddiwyd rhan ohono i wella mynediad i’r parc - ond ganrif yn ôl, roedd y tir yma mewn dwylo preifat.
Yn wreiddiol, prynwyd y tir - yr ydym ni yn ei adnabod heddiw fel Parc Cefn Onn - ym 1910 gan Ernest Prosser, Cyfarwyddwr y ‘Rhymney Valley Railway’. Ei fwriad fel gŵr gweddw oedd adeiladu cartref newydd ar y safle i fyw yno gyda’i fab, Cecil. Bu farw ei wraig ym 1896 yn fuan wedi rhoi genedigaeth i’w mab.
Ar ôl gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, canfuwyd fod Cecil yn dioddef o TB a daeth adref i geisio gwella - mewn gardd a oedd erbyn hynny yn cynnwys pwll nofio a thŷ haf, i’w helpu i wella.
Yn anffodus, bu farw Cecil yn 1923, ond daliodd ei dad ati i ddatblygu’r ardd - er nas adeiladwyd fyth mo’r tŷ a gynlluniwyd yn wreiddiol ganddo.
Ar ôl marwolaeth Ernest ei hun, symudodd perchnogaeth y tir i nai a oedd yn byw yn Llundain, ond arhosodd Tom Jenkins, y garddwr, ar y safle i ofalu am yr ystâd a’r ardd.
Maes o law, ym 1944, rhoddwyd y tir ar y farchnad. Dywedodd Tom Jenkins wrth un o’i ffrindiau am hyn - y ffrind hwnnw oedd Bil Nelmes, Prif Swyddog Parciau Cyngor Caerdydd.
Cysylltodd Bil â dau Uwch Gynghorydd, y prynodd un ohonynt, sef yr Henadur George Williams, y safle am £7,500 ac ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, fe’i gwerthodd am yr un swm i’r cyngor, gan roi’r ystâd yn nwylo’r Cyngor yn ffurfiol ar 31 Hydref 1944.
Nid dyma ddiwedd hanes y parc - yn 1952, adeiladwyd mynediad newydd ar Cherry Orchard Road, gan gynnig mynediad i adran ddeheuol newydd y parc lle y plannwyd detholiad o rywogaethau coed, Rhododendronau ac Asalea.
Yn ystod y 1970au a’r 1980au, roedd y parc yn enwog am ei ‘Lwybr Asalea’ oedd yn cysylltu rhannau uchaf ac isaf y parc.
Mae’r pwll nofio gwreiddiol a adeiladwyd gan y teulu Prosser, yn dal i fod ar y safle ac mae nawr yn rhan o brif bwll y Dingle – sydd, er nad yw’n 7 troedfedd o ddyfnder mwyach, wedi ei glirio’n rhannol o’r llaid a oedd wedi cronni yno er mwyn gallu amlygu ei ffurf wreiddiol.
Mae’r tŷ haf hefyd wedi ei adfer i raddau, gyda linteli newydd cerfiedig yn dangos hanes y parc. Mae llythrennau cyntaf enwau Ernest Prosser, ei fab, ei nai a’r garddwr Tom Jenkins hefyd wedi eu cerfio ar wal garreg gyfagos - gwaith Tom Jenkins ei hun mae’n fwy na thebyg!
Yn fwy diweddar derbyniodd y parc rhestredig Gradd 2,
arian gan y Loteri Genedlaethol sydd wedi arwain at nifer o welliannau i
ymwelwyr, gan gynnwys gwell mynediad, arwyddion
gwell, ynghyd â gwelliannau i’r pyllau a’r llwybrau dŵr. Disgwylir i welliannau
eraill gael eu cwblhau yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf, gan gynnwys
uwchraddio’r toiledau.