Fel rhan o Gynllun Perchentyaeth â Chymorth Cyngor Caerdydd, mae nifer o dai newydd yn y ddinas ar gael i helpu prynwyr i fynd ar ris cyntaf yr ysgol dai.
Mae dyluniad ac ansawdd y tai newydd hyn i deuluoedd o safon uchel iawn ac yn fwy effeithlon o ran ynni na thai newydd arferol.
Nid oes rhent na chost arall i'w thalu ar y gyfran o 30%.
Mae'r tai eraill sydd ar gael trwy'r cynllun yn dai dwy ystafell wely ar ddatblygiad Highfields yn Hen Llaneirwg sy'n cael eu gwerthu ar sail ecwiti a rennir a hynny ar ran Cymdeithas Tai United Welsh.
I fod yn gymwys, mae'n rhaid i'r ymgeiswyr fod yn prynu tŷ am y tro cyntaf, yn 18 oed neu'n hŷn ac wedi byw neu weithio yng Nghaerdydd ers o leiaf y chwe mis diwethaf.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne:"Gan fod prisiau tai yn parhau i gynyddu yng Nghaerdydd, mae llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd cynilo blaendal digonol ac ni allant fforddio morgais ddigon mawr i brynu eu cartref cyntaf.Mae rhai pobl yn cael anhawster fforddio rhenti uchel yn y sector rhentu preifat tra bo eraill yn gorfod byw yng nghartref y teulu am flynyddoedd lawer er mwyn cynilo blaendal.
"Golyga'r holl ffactorau hyn ei bod hi'n anodd iawn i bobl ifanc y dyddiau hyn allu mynd ar ris cyntaf yr ysgol eiddo. Ond, trwy'r cynllun hwn, gallwn ni helpu pobl sydd yn y sefyllfa hon i symud i un o'n tai newydd o ansawdd, ysblennydd hyn.
"Hefyd, gallwn helpu prynwyr newydd gyda'n modelau Perchenogaeth a Rennir a Rhentu i Brynu fel ei bod hi'n haws i bobl allu prynu eu cartref cyntaf."
Gellir gweld yr holl dai sydd ar gael trwy'r CynllunPerchentyaeth â Chymorth yn
https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Tai/Perchentyaeth-a-Chymorth/Pages/default.aspx
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y cynllun hwn ac am gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 029 2087 1948 neu cofrestrwch ar wefan y cyngor gan ddefnyddio'r ddolen uchod.