Back
SIPCOM i sefydlu hyb technoleg newydd ym Mhrifddinas Cymru

Mae'n bleser gan Gyngor Caerdydd gyhoeddi y bydd y cwmni technoleg rhyngwladol, SIPCOM, yn sefydlu hyb technoleg newydd yng Nghaerdydd i wasanaethu'r sylfaen cwsmeriaid sy'n ehangu'n gyflym.

Gyda'r pencadlys yn Llundain a swyddfa Efrog Newydd wedi'i hagor, mae'r cwmni'n arbenigo mewn dylunio a gweithredu atebion cyfathrebu a chydweithredu unol i'w gleientiaid. Mae'n cynnwys dod â llais, fideo, negeseuon unionsyth, e-bost a chynadledda ynghyd mewn un profiad cydweithredol sy'n cynorthwyo pobl i weithio'n well ac yn gallach gan ddefnyddio atebion cwmwl preifat a chyhoeddus.

Mae cleientiaid SIPCOM yn cynnwys y Swyddfa Gartref, yr Awdurdod Hedfan Sifil, SEGA, Ralph Lauren, Smith & Williamson ac ystod o fusnesau o gwmnïau rhyngwladol bach a chanolig eu maint sy'n gweithio ar draws y byd. Mae SIPCOM yn gweithio gyda sefydliadau technoleg byd-eang megis Microsoft, Cisco a CenturyLink drwy roi llwyfannau llais cyfoes i fusnesau ymhob diwydiant i gyfanwerthwyr ac yn uniongyrchol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway:

"Mae'r penderfyniad gan SIPCOM i sefydlu hyb technegol yng Nghaerdydd sy'n creu i ddechrau hyd at 15 o swyddi da yn newyddion da i'r ddinas ac yn dangos apêl barhaus Caerdydd i fuddsoddwyr er gwaethaf ansicrwydd economaidd y DU. Y llynedd, crëwyd 15,000 swydd newydd yng Nghaerdydd ac mae SIPCOM wedi dod yma oherwydd y dalent o safon uchel sydd yn y ddinas ac argaeledd lle addas yng Nghanolfan Technoleg Fusnes y Cyngor sy'n eu galluogi i recriwtio staff yn gyflym."

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredu SIPCOM, James Davidson:

‘Mae SIPCOM yn parhau i dyfu'n gyflym gyda thwf o 140% flwyddyn ar flwyddyn yn ystod y cyfnod ariannol hwn. Ar ôl adolygiad helaeth o leoliadau yn y DU, dewisodd SIPCOM Gaerdydd ar gyfer ei Ganolfan Gweithrediadau 24 awr â rhagoriaeth oherwydd y farchnad sgiliau technoleg fywiog, yr amgylchedd cystadleuol ac arweiniad a chyngor y cyngor. Mae SIPCOM yn bwriadu ehangu ein gweithrediadau i gefnogi ein cleientiaid byd-eang yn Asia, Ewrop a Gogledd America. Mae gan SIPCOM ddyfodol cyffrous o'i flaen, ac mae Caerdydd wedi dod yn rhan o'r daith.