Back
Wythnos Ymwybyddiaeth Dyslecsia yn Llyfrgelloedd Cymru


 

Caiff adnoddau, gwybodaeth a gwasanaethau ychwanegol i gefnogi pobl sydd â dyslecsia eu hyrwyddo mewn llyfrgelloedd ledled Caerdydd drwy gydol Wythnos Ymwybyddiaeth Dyslecsia eleni.

Bydd llyfrgelloedd cyhoeddus ledled y ddinas yn cynnal hyrwyddiadau stoc arbennig yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Dyslecsia (7—13 Hydref) i amlygu'r ystod o lyfrau sy'n gyfeillgar i ddyslecsia, teitlau gan awduron sydd â dyslecsia, gwybodaeth ffeithiol ar y pwnc a gwasanaethau cymorth eraill sydd ar gael.

Mae'r wythnos codi ymwybyddiaeth yn ffurfio rhan o ymgyrch Byw'n Dda yng Nghymru Llyfrgelloedd Cymru, sy'n ceisio helpu Cymru i fod yn genedl hapusach ac iachach trwy hyrwyddo'r rôl gadarnhaol y gall llyfrgelloedd ei chwarae mewn lles pobl.

Mae'r ymgyrch yn cynnwys pedwar digwyddiad ymwybyddiaeth ac mae wedi canolbwyntio eisoes ar Wythnos Gweithredu ar Ddementia gyda Chymdeithas Alzheimer Cymru ym mis Mai ac wythnos Gwybod eich Rhifau!ym mis Medi gyda Blood Pressure UK.Yn ogystal â chefnogi Cymdeithas Dyslecsia Prydain y mis hwn, mae'r ymgyrch yn annog pobl i gymryd rhan yn niwrnod Gwnewch Rywbeth gwahanol er mwyn gwella eu lles corfforol a meddyliol ar 21 Ionawr, sydd, yn ôl pob sôn, ‘diwrnod mwyaf diflas y flwyddyn'.

 

Mae Dyslecsia yn anhawster dysgu cyffredin a all achosi problemau, gyda darllen, ysgrifennu a sillafu.  Mae'n bosibl bod pobl â dyslecsia yn cael anhawster wrth brosesu a chofio gwybodaeth maent yn ei gweld ac yn ei chlywed a all effeithio ar sgiliau dysgu a llythrennedd.

 

Ond gyda'r gefnogaeth gywir, gan gynnwys cymorth llyfrgelloedd hygyrch a chefnogol, gall cryfderau a thalentau pobl fod yn ddisglair.

 

Yn ogystal â'r ystod o eitemau plant, teitlau oedolion a llyfrau cyfeirio a chymorth dyslecsia sydd ar gael mewn llyfrgelloedd a hybiau, mae gan bob Cyfrifiadur sydd ar gael i'r cyhoedd raglenni i helpu pobl ddyslecsig, gan gynnwys chwyddwydr i helpu i wahaniaethu rhwng llythrennau a rhifau'n haws, a llefarydd sy'n darllen y testun yn uchel.

Mae bysellfyrddau cyferbynnedd uchel ar gael i alluogi gweld llythrennau'n gliriach nag ar fysellfyrddau arferol ac mae prennau mesur darllen a throshaenau lliw hefyd ar gael i leihau llacharedd tudalennau.

Mae piniau darllen electronig, sy'n cael eu defnyddio i olrhain geiriau a'u darllen i'r defnyddiwr ar gael ar gais mewn llyfrgelloedd a hybiau.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Gall Dyslecsia effeithio'n fawr ar lawer agwedd ar fywyd pob dydd ac mae'n bwysig bod ein llyfrgelloedd a'n hybiau yn amgylcheddau cefnogol sy'n ystyried y ffordd orau o helpu pobl sydd â dyslecsia.

 

"Mae llawer o aelodau staff wedi dilyn hyfforddiant ymwybyddiaeth dyslecsia gan Gymdeithas Dyslecsia Prydain er mwyn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael y profiad gorau posibl wrth ddefnyddio ein llyfrgelloedd a hybiau.

"Rydyn ni'n falch iawn o fod yn rhan o ymgyrch Llyfrgelloedd Cymru, yn gweithio gyda Chymdeithas Dyslecsia Prydain i hyrwyddo adnoddau yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Dyslecsia. Gobeithio y bydd y llyfrau, y wybodaeth a'r gwasanaethau sydd gennym yn ddefnyddiol i bobl ac y byddan nhw'n eu galluogi i wneud yn fawr o'u llyfrgell neu hyb lleol."

 

Dywedodd Helen Boden, Prif Swyddog Gweithredol, Cymdeithas Dyslecsia Prydain:"Er bod dyslecsia yn dod â heriau ynghylch darllen ac ysgrifennu, mae llawer iawn o bobl sydd â dementia yn dwlu'n fawr ar lenyddiaeth, barddoniaeth a llenyddiaeth ffeithiol ac mae llawer yn mynd ymlaen i ysgrifennu gwaith eu hunain, gan gynnwys rhai o'r teitlau mawr. 

"Mae'n fendigedig gweld Llyfrgelloedd Cymru yn annog y genhedlaeth nesaf o ddarllenwyr sydd â dyslecsia. Mae cael llyfrau sy'n gyfeillgar i ddyslecsia, arddangos awduron sydd â dyslecsia a chynnal digwyddiadau ar ddyslecsia yn gwneud gwahaniaeth.

"Bob blwyddyn, rydym yn deall mwy am sut mae dyslecsia yn ffordd wahanol o ddeall ein byd, gyda chryfderau a gwendidau.Mae'n dod yn gynyddol gliriach bod angen i ni rymuso meddwl am ddyslecsia yn yr ysgol ac ymlaen i'r gweithle os ydym yn mynd i adeiladu'r sefydliadau gorau posibl. 

"Nid yw grymuso dyslecsia yn fater o reoli gwendidau a chydymffurfio â'r gyfraith yn unig, mae'n ymwneud â dod ynghyd fel sefydliad ar bob lefel, ac archwilio'r gwerth y mae dyslecsia yn dod ag ef nawr a sut i wneud y gorau o hynny yn y dyfodol."