Back
Pa un yw eich hoff lyfr, bobl Caerdydd?


Mae Wythnos y Llyfrgelloedd yn ceisio darganfod beth yw hoff lyfr Caerdydd.

 

Dathlu'r llyfrgelloedd sydd mor bwysig i fywydau pobl yw nod Wythnos y Llyfrgelloedd (7-12 Hydref), ac yn ystod yr wythnos eleni mae Llyfrgelloedd a Hybiau Caerdydd yn holi pobl ledled y ddinas pa un yw ei hoff lyfr erioed.

 

Bydd oedolion a phlant sy'n ymweld â llyfrgelloedd a hybiau'r ddinas yn ystod yr wythnos yn cael cyfle i nodi beth yw eu hoff lfyr a gall cwsmeriaid hefyd gwblhau arolwg byr ar-lein arhttps://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=156881360718i roi gwybod pa lyfr maen nhw wedi ei ddewis.

 

Wedi i'r pleidleisiau cael eu cyfrif, bydd hoff lyfr yr oedolion a hoff lyfr y plant yn cael eu datgelu.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae Wythnos y Llyfrgelloedd yn gyfle gwych i annog pawb yn y gymuned i ddarganfod yr hyn y gall eu llyfrgell neu hyb leol ei wneud ar eu cyfer nhw.  Yn ogystal â miloedd o lyfrau, e-lyfrau, llyfrau sain a llawer iawn mwy o adnoddau, mae'r gwasanaeth hefyd yn trefnu llwyth o ddigwyddiadau a gweithgareddau i oedolion a phlant drwy gydol y flwyddyn. Mae Wythnos y Llyfrgell yn gyfle gwych i ddysgu mwy am y cyfleuster lleol gwych hwn.

 

"Mae gan bawb ei hoff lyfr. Yn un rydyn ni'n dychwelyd ato dro ar ôl tro, efallai, neu'n un sydd wedi cael dylanwad mawr arnon ni ac wedi aros gyda ni dros y blynyddoedd. Efallai mai llyfr i blant yw e, un roedden ni'n ei ddarllen pan oedden ni'n iau, neu'n un rydych chi wrth eich bodd yn ei ddarllen i'ch plant. Neu gall fod yn llyfr diweddaraf awdur poblogaidd, yn un sy'n amhosibl peidio â'i ddarllen. Pa fath bynnag o lyfr ydyw, rydyn niam wybod am eich hoff lyfr."

 

Bydd ymwelwyr â Llyfrgell Cangen a Threftadaeth Cathays ar ddydd Mercher, 9 Hydref (3pm) yn ystod Wythnos y Llyfrgell yn cael cyfle i glywed am hanes y Swffragetiaid, drwy

setiau pen rhithwyr wedi eu benthyca wrth y BBC. Mae'r setiau pen ar gael i bobl dros 13 oed. Bydd angen i bobl ifanc 13-16 oed fod yng nghwmni oedolyn i gymryd rhan.

 

Bydd arddangosfa ynghylch y swffragetiaid o Amgueddfa Caerdydd hefyd yn cael ei gynnal yn Cathays rhwng 7 a 24 Hydref.

 

Bydd Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (10 Hydref) hefyd yn ystod Wythnos y Llyfrgell. I godi ymwybyddiaeth am y diwrnod a'r rôl gadarnhaol y gall llyfrgelloedd a hybiau ei chyflawni o ran iechyd a lles pobl, bydd Gwasanaeth Llyfrgelloedd Caerdydd yn cynnal byrddau trafod neu 'Mannau Trafod' mewn hybiau a llyfrgelloedd ar hyd a lled y ddinas.

 

Nod y Mannau trafod yw hwyluso sgwrsio a chreu rhwydweithiau cymorth agosach i bobl yn eu cymunedau, fydd yn eu tro yn lleihau unigrwydd a gwella lles meddyliol. Mae croeso o ddefnyddwyr hybiau a llyfrgelloedd alw heibio am sgwrs ymhlith ei gilydd neu gydag aelod staff am unrhyw beth o gwbl yn ystod y diwrnod.