Back
Paratoi pobl ifanc at y diwydiannau creadigol

 


Mae gwaith ar droed i ailfodelu Pafiliwn Ieuenctid Butetown i greu hwb cymunedol newydd ar gyfer pobl ifanc yr ardal.

 

Bydd gwelliannau mawr yn cael eu gwneud i'r cyfleuster ar Dumballs Road i greu gofod newydd lle gellir ategu'r ddarpariaeth bresennol ar gyfer pobl ifanc gyda gwasanaethau newydd i helpu pobl ifanc i baratoi at y byd gwaith, gyda ffocws ar yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol. Bydd hefyd yn cynnig ystod eang o gyfleoedd hyfforddi.

 

Sicrhawyd cyllid wedi'i dargedu ar gyfer Adfywio a Buddsoddi gan Lywodraeth Cymru i ariannu'r project yn rhannol. Bydd y project yn canolbwyntio ar gyflwyno gwasanaethau cyflogadwyedd a datblygu sgiliau gwell, yn enwedig yn y sector creadigol i bobl ifanc.Bydd yr hyb newydd hefyd yn cynorthwyo pobl gyda hyfforddiant, cyfleoedd gwirfoddoli, mentora a chyngor ar arian.

 

C:\Users\c080012\Desktop\Butetown Pavillion - Social Space 04.png

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:"Y diwydiannau creadigol yw'r maes sy'n tyfu gyflymaf yn yr economi, yn cael ei yrru'n aml gan gynnwys y mae oedolion ifanc yn ei greu eu hunain. Gyda phencadlys newydd BBC Cymru yng nghanol y ddinas, a'r diwydiant wedi hen sefydlu mewn mannau eraill yn y ddinas a'r bae, mae cyfoeth o gyfleoedd ar gyfer pobl ifanc. Rhaid i ni sicrhau bod gennym y cyfleusterau a'r llwybrau cywir yn y ddinas i ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen i gael swyddi yn y diwydiant hwn, a chynyddu hyder ein pobl ifanc ynddo.

 

"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wella cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc a bydd yr hyb creadigol hwn yn cyflawni hynny mewn ffordd sy'n gysylltiedig â gweddill ein gwasanaethau, gyda ffocws cryf ar ymgysylltu mewn ffordd gadarnhaol ac sy'n codi hyder a lleihau rhwystrau a chynnig mwy o gyfleoedd i bobl ifanc 16-25 oed."

 

O ailfodelu'r adeilad presennol, bydd canolfan ar gael sydd â gofodau y gellir eu defnyddio mewn sawl ffordd. Bydd yr awyrgylch yn un anffurfiol a bydd gweithgareddau a digwyddiadau pobl ifanc yn gallu parhau ochr yn ochr â chyfleodd i ddatblygu sgiliau gwaith.

 

Bydd yr adeilad newydd yn ganolfan lle gall oedolion ifanc eu harfogi eu hunain mewn ffordd sy'n eu galluogi i'w mynegi eu hunain a bod yn greadigol mewn awyrgylch fydd yn parch a datblygu eu syniadau.

 

Bydd cynllun newydd i'r adeilad, a bydd ynddo gyfleuster golygu ffilm, ardal gymdeithasol a bydd mynediad ychwanegol yn cael ei greu i'w ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol gyda'r nos.Disgwylir y bydd y ganolfan yn barod erbyn Gwanwyn 2020.