Back
Neges Arweinydd Caerdydd ar YouthStrike4Climate

 

"Pe bawn i o oedran ysgol o hyd, fe fyddwn i ar streic heddiw. Er bod ysgolion Caerdydd wedi cael cyngor i gofnodi ‘Absenoldeb' ar gyfer disgyblion sydd ar streic, rwy'n gobeithio y byddan nhw'n dangos synnwyr cyffredin a thrugaredd tuag at y disgyblion hynny sy'n gorymdeithio dros yr Hinsawdd - fe ddylen nhw fod yn falch o'u habsenoldeb.

O safbwynt y Cyngor, rydyn ni'n benderfynol o arwain y ffordd yng Nghymru o ran newid yn yr hinsawdd. Roedd datgan Argyfwng Hinsawdd yn gam cyntaf pwysig ond ry'n ni nawr yn gweithredu yn sgil hyn, gan gynnwys -

         Dangos dymuniad y Cyngor i waredu ei Gronfeydd Pensiwn sy'n gysylltiedig â Thanwyddau Ffosil.

         Adeiladu Fferm Solar 10mw yn Ffordd Lamby. Bydd y gwaith adeiladu'n dechrau'r mis yma.

         Buddsoddi mwy nag erioed mewn seilwaith teithio llesol a datblygu gweledigaeth drafnidiaeth sy'n cynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn aruthrol.

         Cyflwyno cynllun gwresogi rhanbarthol arloesol a pharhau i wella ein statws fel dinas fawr orau'r DU o ran ailgylchu.

Y Newid yn yr Hinsawdd yw'r mater pwysicaf sy'n ein hwynebu fel rhywogaeth, ac yn yr ychydig fisoedd nesaf bydd Cyngor Caerdydd yn datblygu strategaeth ‘Caerdydd Un Blaned' i sicrhau bod Caerdydd yn chwarae rhan lawn yn y datrysiadau."

 

Y Cyng |Cllr Huw Thomas

Arweinydd Cyngor Caerdydd | Leader, Cardiff Council