Back
Cyngor teithio ar gyfer Speedway ddydd Sadwrn 21 Medi

 

Mae Speedway yn dychwelyd i brifddinas Cymru ddydd Sadwrn ar gyfer Grand Prix Speedway FIM Prydain Adrian Flux.

Mae'r gystadleuaeth rasio'n cynnwys reidwyr yn mynd o gwmpas trac ar feiciau modur 500cc heb unrhyw freciau, gan gyrraedd cyflymderau hyd at 70 mya. Mae'r beiciau'n defnyddio methanol sy'n danwydd ecogyfeillgar.

Bydd y gatiau'n agor am 3.30pm a bydd y ras gyntaf yn dechrau am 5.00pm. Er diogelwch y rhai sy'n dod, bydd nifer fach o ffyrdd yn cau yng nghanol y ddinas ar gyfer y digwyddiad hwn.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 3pm a 9.30pm:

  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Heol Saunders o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair.
  • Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).
  • Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sy'n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ar eu hyd: Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Ar ôl y digwyddiad, gallai fod angen cau lôn neu ddal traffig yn Heol Ddwyreiniol y Bont-faen/Stryd y Castell ger gât 1.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 5pm ac 8pm i hwyluso Parth Cefnogwyr Speedway ar lawnt Neuadd y Ddinas

  • Rhodfa'r Brenin Edward VII o'r gyffordd â Neuadd y Ddinas i'r gyffordd â Boulevard de Nantes.

Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ar gau nes datrys y pryderon diogelwch hynny.

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheiny sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud. Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny. Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

Trenau

Mae Network Rail am roi gwybod i gwsmeriaid nad oes unrhyw waith peirianneg wedi'i gynllunio ar gyfer y digwyddiad hwn.

Cynghorir teithwyr i gynllunio eu taith ymlaen llaw ynwww.nationalrail.co.ukneu drwy ffonio Traveline Cymru ar 0800 464 0000.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhoi gwybod i'r holl gwsmeriaid y bydd trenau yn ardal Caerdydd yn brysur drwy'r dydd. Cynghorir y sawl sy'n teithio i'r ddinas i wylio'r gêm adael digon o amser ar gyfer eu taith.

Bydd Gorsaf Heol y Frenhines yn aros ar agor i'r cyhoedd ac ni fydd llawer o swyddogion rheoli tyrfa yn bresennol. Ni fydd system giwio ar waith.

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, ewch i https://trctrenau.cymru/cy/digwyddiadau   

Parcio a Theithio ar gyfer y Digwyddiad - Tŷ Wilcox

Bydd y cyfleuster parcio a theithio yn Nhŷ Wilcox, Dunleavy Drive, Bae Caerdydd, CF11 0BA.

Cyrraedd yno: Mynediad o Gyffordd 33 yr M4, yna dilynwch arwyddion i'r safle.

Man Gollwng: Taffs Mead Embankment, oddi ar Stryd Wood yng nghanol y ddinas - dwy funud ar droed i'r stadiwm

Pris: £8 drwy archebu ymlaen llaw drwy'r ddolen ganlynol:https://zeelo.co/rides?q=parkingneu £10 yn talu ar y dydd (arian parod yn unig)

Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 9am, yna bydd y safle'n agor gyda'r bws cyntaf yn gadael am 9.30am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu yng nghanol y ddinas am 10pm a bydd y maes parcio'n cau am 10.30pm.

 

Parcio ar gyfer y Digwyddiad

Gerddi Sophia- Bydd lle parcio i'r digwyddiad ar gael yng Ngerddi Sophia a bydd yn costio £15 mewn arian parod ar y dydd. Does dim angen archebu ymlaen llaw.

Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. I gyrraedd Gerddi Sophia, gadewch yr M4 wrth Gyffordd 32.

Canolfan Ddinesig- Caiff mynediad i'r Ganolfan Ddinesig ei reoli, gyda mynediad ar gyfer parcio i'r digwyddiad, llwytho ac i gyrraedd meysydd parcio preifat yn unig. Ymhlith y ffyrdd bydd hyn yn effeithio arnynt mae Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd. Y gost fydd £15 y car mewn arian parod ar y dydd neu £12 os ydych yn archebu ymlaen llaw ar https://zeelo.co/rides?q=parking

Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

Parcio i Fysiau

Mae lle parcio i fysiau yn y Ganolfan Ddinesig ac mae'n costio £25 y bws mewn arian parod ar y dydd. Gallwch archebu lle parcio i fws ymlaen llaw trwy'r ddolen ganlynol: https://zeelo.co/rides?q=parking

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lle ychwanegol hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol. Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Bysus Gwasanaeth

Caiff bysus eu dargyfeirio o safleoedd bysus canol y ddinas. Caiff bysus sy'n cael eu dargyfeirio o safleoedd ar strydoedd sydd ar gau eu dargyfeirio i Ffordd Churchill i fynd i'r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion i fynd i'r gogledd a Stryd Tudor i fynd i'r gorllewin. Ewch i wefannau'r gweithredwyr bysus amrywiol i weld newidiadau i'w gwasanaethau:

Mae Bws Caerdydd yn rhoi gwybod i gwsmeriaid y bydd gwasanaethau'n cael eu dargyfeirio o 3pm tan fod y gwasanaethau'n ailddechrau ddydd Sul 22 Medi. Ewch i www.cardiffbus.co.uk

Ar gyfer gwasanaethau New Adventure Travel, ewch i https://www.natgroup.co.uk

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i www.stagecoachbus.com

Parcio i Siopwyr

Argymhellir i siopwyr ddefnyddio'r safleoedd Parcio a Theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir.

Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd:

Meysydd Parcio Heol y Gogledd

Canolfan Siopa Dewi Sant

John Lewis

Canolfan Siopa Capitol

NCP - Adam Street, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion

National Express-Bydd bysusNational Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.

Tacsis- Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 3.00pm ac yn ailagor am 9.30pm.

Ni fydd hyn yn effeithio ar safle tacsis Lôn y Felin a fydd ar agor trwy gydol y dydd a'r nos.