Back
Brwydro yn erbyn digartrefedd


 

Mae'r frwydr yn erbyn digartrefedd wir wedi dechrau yng Nghaerdydd gan fod rhaglen focsio newydd yn helpu unigolion i gael eu bywydau'n ôl ar y trywydd iawn.

 

Mae Brwydro Digartrefedd yn broject newydd wedi'i chreu gan weithiwr allweddol hosteli'r Cyngor, Rob Green, a Chlwb Paffio Phoenix Llanrhymni, sy'n manteisio ar fuddion cadarnhaol ymarfer corff ar iechyd meddwl person a llesiant cyffredinol.

 

Bob wythnos, mae grŵp o breswylwyr hostel, mae llawer ohonynt wedi treulio cyfnodau hir ar y strydoedd, yn ymuno â Rob a hyfforddwrPhoenix Llanrhymni, Tony Richards, i gael prawf ar eu galluoedd am awr yn y gampfa. Mae'r cynllun 10 wythnos yn cynnwys profion paffio a ffitrwydd cyffredinol, yn ogystal ag amser ar ôl pob sesiwn yn dysgu am fwyta'n iach trwy baratoi pryd o fwyd ynghyd. 

 

 

Dywedodd Rob, sy'n ymuno â'r sesiwn ymarfer corff wythnosol yn y gampfa:"Mae'r gwahaniaeth mae'r rhaglen wedi'i wneud i rai o'r dynion yn anhygoel. Rydyn ni wedi cael canlyniadau gwych - mae rhai ohonyn nhw wedi mynd ymlaen i brofiad gwaith, a rhai i waith â thâl.Mae un o'n preswylwyr eraill wedi cael ei drawsnewid - mae'n gwneud yn hynod dda ac mae'n fodel rôl go iawn i breswylwyr eraill.

 

"Wrth i'r wythnosau fynd heibio, mae cyfeillgarwch go iawn wedi datblygu ymysg pawb sy'n dod.Mae wedi dod yn beth cymdeithasol iawn a rhywbeth y gall y dynion deimlo eu bod yn rhan ohono.Rwy'n disgrifio'r rhaglen fel trosiad o'u bywydau.Pan maen nhw yn y cylch neu'r gamfa, maen nhw'n dysgu am ddyfalbarhad ac i beidio â rhoi'r gorau sy'n gallu eu helpu i barhau i roi pen ar eu taith ddigartref.

 

"Yn naturiol, gall lesiant meddwl pobl gael ei effeithio gan ddigartrefedd.Gall pobl ddioddef o iselder a gorbryder felly rydyn ni'n gweld yr effeithiau cadarnhaol mae'r rhaglen hon yn ei chael nid yn unig ar iechyd corfforol pobl ond ar eu llesiant meddwl hefyd.Mae hynny'n amhrisiadwy."

 

 

Dywedodd preswylydd yr hostel, Liam Liddell, 29:"Ro'n i'n mynd yn ôl ac ymlaen i'r carchar, yn gaeth i gyffuriau, yn cysgu ar y stryd am flynyddoedd, allwn ni ddim dweud am faint.

 

"Ond ‘dw i wedi bod yn paffio gyda Rob dros yr ychydig wythnosau diwethaf ac mae'n clirio fy mhen.Mae'n cadw fi i ffwrdd o'r cyffuriau, a'r alcohol hefyd.Mae'n fy rhoi mewn hwyliau gwell, gan fy ngwneud yn falch ohonof i fy hun.Mae wedi fy helpu mewn sawl ffordd wahanol."

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:"Da iawn i Rob sydd wedi gwneud gwaith gwych yn sefydlu'r rhaglen hon.Mae'r effaith ar y grŵp o breswylwyr sy'n cymryd rhan wedi bod yn anhygoel ac mae'n wych gweld pobl yn cael eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn.

 

"Rydym yn ddiolchgar iawn i Glwb Paffio Phoenix Llanrhymni am eu cefnogaeth o'r project sy'n

creu ffordd werthfawr o ymgysylltu â phobl, mae gan rai ohonynt anghenion cymhleth iawn.Mae hyn yn rhoi hwb gwych i hyder unigolion yn ogystal â'u llesiant corfforol a meddwl ac mae'n helpu i oresgyn yr heriau mae llawer o bobl yn eu hwynebu wrth wrthdroi eu bywydau."