Back
Mae'r ras ymlaen i sicrhau lleoliadau profiad gwaith ar gyfer pobl ifanc Caerdydd

Mae cyflogwyr o ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector yn cael eu hannog i gefnogi pobl ifanc yng Nghaerdydd trwy ddarparu ystod o leoliadau profiad gwaith.

Mae'r cais yn rhan o Addewid Caerdydd, menter sy'n gweithio gyda phartneriaid allanol i gyflwyno plant a phobl ifanc i'r ystod enfawr o gyfleoedd sydd ar gael iddynt ym myd gwaith.

Mae angen targed o 100 o leoliadau er mwyn galluogi disgyblion Blwyddyn 10 o Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd i gymryd rhan mewn lleoliadau sy'n para am wythnos fis Mehefin nesaf, 2020

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Cardiff Commitment\pics and videos\fb post 1.JPG

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:"Mae lleoliadau profiad gwaith yn ffordd amhrisiadwy i'n pobl ifanc ddysgu am wahanol ddiwydiannau a chael profiad drostynt eu hunain o'r cyfleoedd o ran gyrfaoedd sydd ar gael iddynt yng Nghaerdydd ac yn y rhanbarth ehangach.

"Maent hefyd yn ysbrydoli pobl ifanc i gynnal eu brwdfrydedd ar gyfer dysgu, gan eu galluogi i edrych ymlaen ac ystyried swyddi na fyddent wedi meddwl amdanynt o bosibl fel arall.Mae hyn yn codi dyheadau ar gyfer beth maent eisiau ei wneud pan fyddant yn gadael yr ysgol.

Mewn ymdrech i hybu nifer y busnesau a gofrestrwyd i'r cynllun, bydd Vicky Poole, Ymgynghorydd Ymgysylltu Busnes Addewid Caerdydd, yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd.

Yn unigryw, yn lle gofyn i bobl ei noddi gydag arian, mae Vicky wedi gofyn i fusnesau ei noddi gydag addewid o leoliad profiad gwaith ar gyfer yr wythnos sy'n dechrau 29 Mehefin 2020.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Cardiff Commitment\pics and videos\IMG_2165.JPG

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway:"Mae Addewid Caerdydd yn nodi sut y bydd y Cyngor, ynghyd ag ystod eang o bartneriaid yn cydweithio i sicrhau bod pen taith pob person ifanc yng Nghaerdydd yn gadarnhaol ar ôl yr ysgol, naill ai mewn cyflogaeth neu addysg bellach a hyfforddiant, gan eu hannog i gymryd mantais lawn o economi fodern a deinamig Caerdydd.

"Yn ogystal â hyn, mae'n darparu cyfoeth o fuddion i fusnesau, gan gynnwys cyfleoedd datblygu staff, ymwybyddiaeth brandiau a chysylltiadau busnes i genhedlaeth iau a'r cyfle i ddangos cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:"Yn y pen draw nod Addewid Caerdydd fydd sicrhau y gall pob person ifanc yn y ddinas maes o law gael swydd sy'n ei alluogi i gyrraedd ei botensial llawn wrth gyfrannu at dwf economaidd y ddinas ac mae'n rhoi cyfle i fusnesau gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifanc

"Rwy'n credu bod ymrwymiad Vicky i recriwtio cymaint o fusnesau â phosibl yn hollol wych a dw i'n dymuno pob lwc iddi yn y marathon."

Dywedodd y Pennaeth, Mr Martin Hulland:Gan weithio gyda'n naw Partner Creadigol, mae ein myfyrwyr wrthi'n cael budd o ystod o brofiadau sy'n gysylltiedig â'r economi greadigol, wrth i ni ganolbwyntio ar gwricwlwm sy'n canolbwyntio ar y gwaith. Fel ysgol greadigol arweiniol, gydag amrywiaeth enfawr o dalentau i'w cynnig i gyflogwyr posibl, byddem wrth ein bodd yn gweithio gyda chyflogwyr gynnig profiad uniongyrchol o'r gweithle, nad oes modd ei gael ond drwy leoliad. 

"Bydd Addewid Caerdydd yn ein galluogi i ddatblygu partneriaethau ar draws y ddinas i ehangu ac ymestyn ein cysylltiadau â nifer o agweddau gwahanol ar economi ffyniannus Caerdydd. Bydd ein hadeilad newydd gwych a'r cwricwlwm wedi'i gyfoethogi'n sicrhau bod ein myfyrwyr mewn lle unigryw i fanteisio ar y cyfleoedd a rydd y fenter wych hon. Diolch yn fawr i Victoria Poole am ddangos uchelgais a gwydnwch go iawn, dau o'n gwerthoedd craidd, wrth iddi baratoi at yr hanner marathon!"

Dywedodd Vicky:"Byddai hyn yn gyfle gwych i gwmnïau a sefydliadau waeth pa mor fawr neu fach, ddarparu lleoliadau gwaith sydd eu hangen yn fawr a all helpu pobl ifanc i gael mynediad at brentisiaethau, swyddi dan hyfforddiant, interniaethau, gwirfoddoli a chyfleoedd am swyddi yn ogystal â chynnig mewnwelediad a chyngor."

Os ydych â diddordeb mewn cofrestru lleoliad profiad gwaith ar gyfer yr wythnos sy'n dechrau 29 Mehefin 2020 a chefnogi menter Addewid Caerdydd ewch i;

https://www.eventbrite.co.uk/e/work-experience-june-2020-profiad-gwaith-mehefin-2020-tickets-68773335899

#ymrwymiadCdydd100