Back
ANNOG DINASYDDION YR UE I YMGEISIO AM STATWS PRESWYLIO SEFYDLOG YR UE

Dim ond 4,000 o ragamcan o 25,000 o ddinasyddion yr UE sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd sydd wedi ymgeisio am statws preswylio'n sefydlog neu gyn-breswylio'n sefydlog hyd yma, cyn i Brexit ddigwydd o bosibl ar 31 Hydref.

Yn ôl ffigurau diweddaraf y Swyddfa Gartref, mae oddeutu miliwn o bobl ledled y DU wedi ymgeisio am Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, gafodd ei sefydlu i'w gwneud hi'n haws i ddinasyddion a'r UE ac aelodau o'u teuluoedd i warantu eu hawliau ar ôl i'r DU adael yr UE.

Mae angen i ddinasyddion yr UE gwblhau 3 cham allweddol i ymgeisio - profi eu hunaniaeth, dangos eu bod nhw'n byw yn y DU, a datgan unrhyw gollfarnau troseddol.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae dinasyddion Ewrop sy'n byw yng Nghaerdydd yn cyfrannu llawer at wneuthuriad ein dinas, a byddwn yn parhau i groesawu'r rhai sy'n dod yma i brifddinas Cymru i fyw, gweithio ac astudio.

"Blaenoriaeth allweddol yn y ddinas yn y misoedd nesaf fydd sicrhau bod dinasyddion yr UE, y mae Caerdydd wedi dod yn gartref iddynt, yn cael y statws mewnfudo y mae arnynt ei angen i aros yn y ddinas yn y blynyddoedd nesaf.

"I'w helpu nhw i wneud hyn, byddwn yn cynnal cyfres o sesiynau gwybodaeth yn y ddinas lle bydd pobl yn gallu cael yr atebion sydd eu hangen arnynt ar Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a'r broses ymgeisio. Bydd cyfranogwyr hefyd yn gallu siarad â sefydliadau lleol a darganfod sut i gael mynediad at gyngor a chymorth penodol yng Nghaerdydd."

 

Bydd sesiynau gwybodaeth Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn cael eu cynnal yn y ddinas yn y lleoliadau canlynol:

  • Hyb Grangetown, Dydd Iau, 29 Awst, 6pm-8pm;
  • Llyfrgell Ganolog Caerdydd, Dydd Sadwrn, 21 Medi, hanner dydd - 2pm;
  • YMCA, Neuadd Gymunedol Plasnewydd, Dydd Mercher, 2 Hydref, 5.30pm.- 6.30pm.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar Hyb GwybodaethCynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE Cyngor Caerdydd.

Crëwyd yr Hyb Gwybodaeth i godi ymwybyddiaeth o'r cynllun ac mae'n cael ei ddiweddaru wrth i ragor o wybodaeth am gymorth a chyngor ddod ar gael.Gallwch gael mynediad ato yma https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/cynllun-preswylio-sefydlog-UE/cymorth-gwneud-cais-cynllun-preswylio-sefydlog-UE/Pages/default.aspx

Mae ffigurau'r Swyddfa Gartref yn dangos bod y rhan fwyaf o geisiadau ledled y DU yn geisiadau gan ddinasyddion Pwylaidd, Rwmanaidd ac Eidalaidd.

Dywedodd Gweinidog Gwladol y Swyddfa Gartref, Brandon Lewis:"Mae dinasyddion yr UE wedi cyfrannu'n helaeth at ein gwlad - a dyna pam rwyf mor falch bod dros miliwn o bobl wedi cael statws, gan gyfreithloni eu hawliau." 

Ynghyd â Chanolfan Ddatrys Preswylio'n Sefydlog penodol, yn rhoi cymorth dros y ffôn ac e-bost i bobl sy'n ymgeisio, mae'r Swyddfa Gartref wedi rhoi cyllid hyd at £9 miliwn i 57 o elusennau a sefydliadau cymunedol i helpu dinasyddion yr UE i ymgeisio am gyfer Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Mae gan y Swyddfa Gartref 1,500 o aelodau staff yn gweithio ar y Cynllun, gan gynnwys tîm o bobl yn rhedeg gwasanaeth ffôn dynodedig saith diwrnod yr wythnos - Canolfan Ddatrys Preswylio'n Sefydlog yr UE.

Ar gyfer y rheiny nad oes ganddynt fynediad, sgiliau neu ddigon o hyder i lenwi'r ffurflen ar-lein - maent wedi gallu ymweld ag un allan o 200 o leoliadau Digidol â Chymorth ledled y DU.