Back
Cau ffyrdd ar gyfer Pride Cymru Ddydd Sadwrn 24 Awst

Bydd Pride Cymru yn dathlu ei 20ed pen-blwydd eleni ar sail diogelwch y cyhoedd, bydd caul llawn ar ffyrdd canol y ddinas ar gyfer yr orymdaith a gaiff ei chynnal rhwng 11am a 1.30pm yng nghanol y ddinas.

Ar Ddydd Sadwrn 24 Awst rhwng 9am a 2pm bydd ffyrdd canol y ddinas i gyd yn cael eu cau yn yr un modd ag ar gyfer digwyddiad yn Stadiwm y Principality, ond ar ben hynny bydd Heol y Gogledd o Boulevard de Nantes i'r gyffordd â Column Road hefyd wedi cau.

Cau ffyrdd

Bydd y ffyrdd canlynol ynghau rhwng 9am a 2pm ar Ddydd Sadwrn 24 Awst

  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Heol Saunders o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair.
  • Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).
  • Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sy'n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.
  • Heol y Gogledd i fyny rhwng Boulevard De Nantes i'r gyffordd â Column Road
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

Bydd mynediad i fysiau a phreswylwyr yn cael ei gynnal ar Heol y Porth.