Back
Cynllun tai arloesol yn cael golau gwyrdd gan yr Adran Gynllunio

Project tai modwlar yn Crofts Street, Plasnewydd fydd yn darparu 100% o dai fforddiadwy 

Rhan o bartneriaeth Cyngor Caerdydd gyda'r datblygwr cenedlaethol Wates Residential 

Mae cynllun peilot arloesol fydd yn arwain at adeiladu'r tai modwlar cyntaf yn cael eu hadeiladu yn rhan o raglen adeiladu tai Cyngor Caerdydd wedi cael cadarnhad gan y Pwyllgor Cynllunio.

Bydd y project tai 100% fforddiadwy ar Crofts Street ym Mhlasnewydd yn arwain at naw o dai dwy ystafell wely yn cael eu hadeiladu i'w rhentu gan y Cyngor.

Mae'n rhan o'r bartneriaeth 10 mlynedd ‘Cartrefi Caerdydd' rhwng y datblygwr cenedlaethol, Wates Residential a Chyngor Caerdydd i ddarparu oddeutu 1,500 o dai ledled y ddinas i helpu i daclo'r galw cynyddol am dai.Crofts Street fydd y cynllun modwlar peilot cyntaf.

Caiff tai modwlar eu dylunio a'u manwerthu oddi ar y safle dan amodau a reolir gan ddefnyddio'r dechnoleg a'r deunyddiau adeiladu diweddaraf.Mae'r dull adeiladu arloesol hwn yn arwain at fanteision sylweddol gan gynnwys llai o amser ar y safle a lefelau uchel o gynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni.

Ym Mhlasnewydd, mae hyn yn golygu rhaglen sylweddol lai o waith ar y safle gan gynnwys llai o draffig ar y safle, gan leihau'r tarfu ar gymunedau presennol a chan leihau allyriadau.Bydd gan bob tŷ systemau awyru peirianyddol a naturiol, gan gynnig cyfforddusrwydd ledled y flwyddyn, ac mae disgwyl i'r biliau gwres fod oddeutu 90% yn llai na thai traddodiadol, gan helpu i leihau tlodi tanwydd. 

Bydd y project yn cael ei ddarparu drwy Wates Residential a Homeshell, menter ar y cyd rhwng penseiri Rogers Stirk Harbour + Partners ac AECOM.Bydd disgwyl i'r gwaith ar y safle tir llwyd, oedd yn arfer bod yn labordy, ddechrau'n nes ymlaen eleni.

Daw'r penderfyniad cynllunio ar ôl i'r cynllun gael grant Rhaglen Tai Arloesol, sy'n cefnogi arloesedd o ran adeiladu, gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2018. Mae'r project hefyd wedi cael ei adolygu gan Gomisiwn Dylunio Cymru.

Ym mhob rhan o'r project ‘Cartrefi Caerdydd' bydd 40% o'r tai a ddarperir yn dai cyngor fydd ar gael i'w rhentu drwy'r broses ddyrannu presennol neu i brynu drwy gynllun Perchentyaeth â Chymorth y Cyngor.

Yn rhan o'r project, mae Wates Residential hefyd wedi gwneud addewid ar y cyd â Chyngor Caerdydd i greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i breswylwyr lleol, gan gynnwys prentisiaethau ar y safle, lleoliadau profiad gwaith a rhaglenni hyfforddiant wedi'u strwythuro.

Dywedodd Edward Rees, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Wates Residential: 

"Mae'n wych gweld bod y project tai fforddiadwy hwn wedi cael caniatâd, sy'n rhan o'n partneriaeth hir dymor gyda Chyngor Caerdydd.Bydd y dyluniad modwlar yn cynyddu effeithlonrwydd ynni ac yn lleihau ein hamser ar y safle, gan helpu i leihau allyriadau a lleihau'r tarfu ar breswylwyr presennol.

"Mae hyn yn un ffordd y gall datrysiadau arloesol helpu i daclo'r galw cynyddol am dai ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r cyngor i ddarparu mwy o dai dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:

"Bydd y datblygiad Crofts Street yn cynnig naw o dai cyngor newydd yn y ddinas, ac mae'n helpu ni ar ein ffordd tuag at adeiladu 2,000 o dai cyngor newydd, ac mae oddeutu 600 ohonynt yn cael eu darparu drwy ein partneriaeth Cartrefi Caerdydd gyda Wates Residential.

"Rydym wastad yn chwilio am gyfleoedd a ffyrdd newydd o ddatblygu mwy o dai fforddiadwy i daclo'r galw cynyddol yn y ddinas ac i wneud hynny cyn gynted â phosibl.Bydd modd cyflawni'r cynllun cyffrous hwn, sef y tro cyntaf yr ydym wedi defnyddio system adeiladu modwlar sy'n effeithlon iawn o ran ynni, mewn llai o amser na phroject adeiladu tai traddodiadol ac mae wedi cael Cyllid Tai Arloesol gan Lywodraeth Cymru.

"Ymhlith manteision y cynllun mae biliau ynni is i denantiaid, gan helpu i drechu tlodi tanwydd, tra bod cyfanswm yr amser adeiladu ar y safle yn sylweddol is, sy'n fantais amlwg i bobl sy'n byw yn y gymuned o amgylch y datblygiad."

Dywedodd John Lewis, Pennaeth Masnachol - Adeiladau a Lleoedd, AECOM:

"Mae'r cynllun Crofts Street yn bwrw ymlaen â datblygiad tai cymdeithasol a fforddiadwy, gan ddefnyddio dyluniad arloesol i greu datrysiadau preswyl perfformiad uchel i bobl Caerdydd.Rydym yn edrych ymlaen at ddod â'n cydweithrediad gyda Rogers Stirk Harbour + Partners i Gyngor Caerdydd, yn gweithio gyda Wates Residential i ddarparu'r cynllun ac i ddangos beth sy'n bosibl wrth ddefnyddio technegau modwlar ansawdd uchel, wedi'i weithredu'n ofalus i helpu i fodloni'r galw mawr yn y DU am dai newydd."

Dywedodd Andrew Partridge, Partner Cysylltiol, Rogers Stirk Harbour + Partners:

"Mae hwn yn gyfle gwych i weithio gyda Chyngor Caerdydd gyda chefnogaeth WDA ac wedi'i hwyluso gan Wates i osod cynsail newydd i dai Cyngor y DU."