Back
Camu ymlaen yn yr ymgyrch yn erbyn trais domestig

Unwaith eto bydd strydoedd canol dinas Caerdydd yn cynnal digwyddiad blynyddol Cerdded Milltir yn Ei Sgidiau Hi y mis nesaf.

Caiff dynion o bob oedran eu hannog i gofrestru ar y daith gerdded ddydd Gwener, 20 Medi er mwyn dangos eu cefnogaeth dros yr ymgyrch i gael gwared ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol trwy gwblhau taith filltir o amgylch canol y ddinas yn gwisgo esgidiau menywod, er caiff dynion wisgo eu sgidiau eu hunain os ydynt yn dymuno.

Bellach yn ei chweched flwyddyn, mae'r digwyddiad yn rhan o'r ymgyrch Rhuban Gwyn - mudiad rhyngwladol a ddechreuwyd gan ddynion i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, a'i atal; ac mae'n un o sawl digwyddiad sy'n arwain at Ddiwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd.

Mae'r daith gerdded yn broject partneriaeth rhwng y Cyngor, Cymdeithas Tai Cadwyn a Chyngor Bro Morgannwg ac mae wedi dod yn fwyfwy llwyddiannus o flwyddyn i flwyddyn.

Bydd y digwyddiad eleni'n dechrau yng Nghastell Caerdydd a bydd cyfranogwyr yn cerdded i lawr Heol y Frenhines, Ffordd Churchill, ar hyd Heol y Bont ac ymlaen i'r Aes cyn dychwelyd i'r castell ar hyd Heol yr Eglwys a'r Stryd Fawr.Bydd y digwyddiad yn dod i ben yng Nghastell Caerdydd gydag areithiau cyweirnod a lluniaeth.

Gall dynion sy'n dymuno cymryd rhan gofrestru ar gyfer y digwyddiad yn www.walkinhershoes.cymru.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Susan Elsmore: "Mae Cyngor Caerdydd yn ymrwymedig i roi terfyn ar drais a cham-drin yn erbyn menywod a chawsom statws y Rhuban Gwyn y llynedd, ar y cyd â Chyngor Bro Morgannwg, i gydnabod yr ymrwymiad hwnnw.

"Mae digwyddiad Cerdded Milltir yn Ei Sgidiau Hi yn rhan o'r wythnos rydyn ni'n ei chynnal i godi ymwybyddiaeth o'r pwnc ac i dynnu sylw at y gwasanaethau sydd ar gael i'r rhai mae trais domestig yn effeithio arnynt.Er ein bod am i bawb mwynhau'r digwyddiad, mae neges ddifrifol iawn wrth ei wraidd wrth gwrs a hynny yw bod trais yn erbyn menywod yn gwbl annerbyniol.

"Mae'r daith gerdded yn ffordd wych o sbarduno sgyrsiau am drais domestig, herio agweddau ac annog dynion i ystyried y pwnc.Gobeithiwn y bydd cefnogaeth dros y digwyddiad eleni yn parhau i dyfu ac rydyn ni'n gwahodd busnesau a sefydliadau yng nghanol y ddinas i gefnogi'r digwyddiad hefyd."

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth a Hyrwyddwr Rhuban Gwyn Cyngor Caerdydd,"Er gall trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol effeithio ar unrhyw un, mae tystiolaeth yn dangos bod hyn yn effeithio ar nifer anghymesur o fenywod a merched, felly mae'n bwysig bod dynion yn dangos eu gwrthsafiad yn erbyn pob math o drais tuag at fenywod.

"Cerdded Milltir yn Ei Sgidiau Hi yw ein cyfle ni i wneud hynny yn gyhoeddus.Fel Cennad Rhuban Gwyn, rwyf am annog mwy o ddynion - y rhai ifanc a hen fel ei gilydd - i ymuno â'r niferoedd cynyddol sy'n fodlon dangos cefnogaeth dros hawl pawb i fyw bywyd cadarnhaol, annibynnol heb ddioddef trais a cham-drin.

Meddai Keith Palmer, Prif Weithredwr Tai Cadwyn,"Mae Cerdded Milltir yn Ei Sgidiau Hi wedi tyfu o ddechrau dinod pan gymerodd dyrnaid o ddynion o Cadwyn ran yn y daith gerdded gyntaf yn 2014. Bellach yn ei chweched flwyddyn, rydym yn gobeithio, ynghyd â'n partneriaid yng Nghyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg, y bydd mwy na 150 o ddynion yn ymuno â ni mewn ymdrech i godi ymwybyddiaeth o Ymgyrch y Rhuban Gwyn i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Dewch i ymuno â ni i gefnogi'r ymgyrch hynod bwysig hon."

Er mwyn darparu ar gyfer pawb sydd am gymryd rhan yn y daith gerdded y mis nesaf, mae'r trefnwyr yn gofyn am bobl i gyfrannu sgidiau menywod mewn maint 9 neu uwch i ddynion eu gwisgo ar y dydd. 

Gellir cyfrannu sgidiau yn y lleoliadau canlynol:

 

-         Unrhyw hybiau Cyngor Caerdydd - ceir y cyfeiriadau llawn yma:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/hybiau-a-swyddfeydd-tai/Pages/default.aspx

-         Cyngor Caerdydd - Tŷ Willcox, Rhodfa Dunleavy CF11 0BA

-         Cyngor Caerdydd - Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd CF10 4UW

-         Prif Swyddfa Cadwyn, 197 Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 1AJ 

 

Am fwy o wybodaeth am Ymgyrch y Rhuban Gwyn neu er mwyn cofrestru fel llysgennad ewch iwww.whiteribbon.org.uk

Os ydych chi neu rywun y gwyddoch amdano/amdani yn dioddef o drais domestig gallwch geisio cymorth a chefnogaeth gan y llinell gymorth Byw Heb Ofn: 0808 10 800 (llinell gymorth gyfrinachol 24 awr am ddim) https://bywhebofn.llyw.cymru/