Back
Hwb bioamrywiaeth i Fferm y Fforest

Mae bioamrywiaeth am dderbyn hwb yn Fferm y Fforest yn cilyn cynnig llwyddiannus am gyllid a fydd yn golygu ystod o gynefinoedd yn y warchodfa natur boblogaidd yn cael eu gwella a'u hadfer. 

Bydd coetir, prysgwydd, pyllau, gwlypdiroedd, perllan, cloddiau a glaswelltir ar y safle oll yn manteisio ar grant o £60,000 gan  Raglen Greater West Network Rail.

Gan weithio gyda'r sefydliadau partner Buglife a Plantlife yn ogystal â Chyfeillion Fferm y Fforest, mae'r project hefyd yn cynnwys cynlluniau i wneud arolwg o'r safle a hyfforddi cronfa o wirfoddolwyr i gynorthwyo gydag arolygon yn y dyfodol fel y bydd effaith y gwaith ar blanhigion ac anifeiliaid y safle yn gallu cael ei fesur.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:"Mae diogelu a gwella gofod gwyrdd Caerdydd yn un o'n prif flaenoriaethau a bydd y gwaith a fydd yn cael ei wneud fel canlyniad i'r arian hwn yn cael effaith gadarnhaol ar ystod amrywiol y cynefinoedd yn Fferm y Fforest, yn ogystal â gwella gwerth hamdden a phrofiad ymwelwyr â'r safle.

Dwedodd Rheolwr Amgylcheddol Network Rail, Emmanuel Deschamps:"Mae'n wych gallu cefnogi'r project hwn a fydd yn chwyddo ystod y cynefinoedd yn y warchodfa natur boblogaidd hon.Mae projectau fel hyn yn amhrisiadwy ac yn helpu i gynnal a gwella mannau gwyrddion er budd pobl a bywyd gwyllt."

Mae safle Fferm y Fforest yn goridor cysylltu pwysig, gan gysylltu â B-Lines (coridor cysylltedd ledled Cymru ar gyfer peillwyr a bywyd gwyllt arall) sy'n golygu y bydd y buddion a gaiff eu creu gan y project hwn ar gyfer bioamrywiaeth yn mynd y tu hwnt i ffiniau'r safle 59.68 hectar.