Mae Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol (SHEP) Cyngor Caerdydd wedi ei chyflwyno mewn mwy o ysgolion nag erioed eleni, gyda’r neges fod y cynllun yn cynnig llawer mwy na phrydau iach yn unig.
Bellach yn ei phumed flwyddyn, mae Bwyd a Hwyl yn rhoi
cyfle i blant gymdeithasu a mwynhau prydau bwyd maethlon ac iachus yn ystod
gwyliau’r ysgol, gyda’r nod o leihau’r baich ariannol ar deuluoedd. Mae hefyd yn rhoi cyfle i
blant gael profiadau newydd i’w rhannu gyda ffrindiau wedi iddynt ddychwelyd
i'r ysgol ar gyfer y tymor newydd.
Yn rhan o’r cynllun, caiff plant fudd o weithgareddau chwaraeon ac addysg a dysgu sgiliau newydd gyda sefydliadau lleol a chenedlaethol yn ystod y sesiynau Bwyd a Hwyl.
Roedd yr uchafbwyntiau eleni, o wahanol rannau o’r ddinas, yn cynnwys y canlynol:
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd
Cyngor Caerdydd, a’r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:“Y syniad sydd wrth wraidd y cynllun yw rhoi addysg drwy
hwyl a gweithgareddau chwaraeon i blant, gyda phrydau bwyd iachus o safon mewn
amgylchedd diogel a gofalgar yn ystod gwyliau’r ysgol.
“Cyfoethogi eu profiad yw’r nod. Rydyn ni’n gwybod bod cyfnodau hir i
ffwrdd o’r ysgol yn gallu arwain at blant llai actif sy’n dibynnu ar fwydydd
afiach. Mae Bwyd a Hwyl yn eu galluogi i gael prydau iachus a maethlon, a
dysgu sgiliau newydd drwy chwaraeon a gweithgareddau addysgol eraill, gyda hyn
oll yn hybu cynhwysiant cymdeithasol."
Ers y
llynedd rydyn ni wedi bod yn dysgu sgiliau adfywio cardio-pwlmonaidd i blant i
gyfeiliant y gân #babyshark er mwy iddyn nhw ddeall pa mor gyflym mae angen
cyflawni CPR.
<0}
Dyma un o ddisgyblion CA2 Ysgol Gynradd Bryncelyn. Mae llwyddiant y rhaglen yn dibynnu ar gefnogaeth partneriaid sy’n darparu llwyth o weithgareddau difyr a sgiliau bywyd i’r plant ac rwyf yn ddiolchgar iawn i bob un o’r sefydliadau hynny sydd eisoes wedi gwirfoddoli amser ac adnoddau. Mae wir yn cael effaith gadarnhaol ar y plant, eu teuluoedd a'r gymuned leol."
Mae Bwyd
a Hwyl bellach yn cael ei chynnig mewn 16 o ysgolion Caerdydd, ac mae’n
bartneriaeth ar y cyd rhwng Cyngor Caerdydd, Bwyd Caerdydd, Chwaraeon Caerdydd,
Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Os ydych
chi’n fusnes neu’n sefydliad sydd â diddordeb mewn cefnogi’r cynllun Bwyd a
Hwyl, cysylltwch â Judith Gregory jgregory@caerdydd.gov.uk