Back
Hafan ‘hudol’ yn y môr
Ydych chi erioed wedi breuddwydio am ddianc o brysurdeb bywyd bob dydd a diflannu i ynys anghysbell?Dyna’n union wnaeth 26 o bobl yn ddiweddar pan aethant ar benwythnos llesol ar Ynys Echni.

Cynhaliodd therapyddion sesiynau reiki, adweitheg, ioga ac ymwybyddiaeth ofalgar a chafwyd bwydlen flasus o fwydydd figan o The Greenery, busnes sy’n gweithredu o farchnad Caerdydd.  Cafodd y cyfranogwyr cyfle hefyd i fynd ar daith anhygoel o’r ynys yng nghwmni wardeiniaid preswyl yr ynys.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:  “Am rywle mor agos i’r tir mawr, mae Ynys Echni yn teimlo’n hynod o anghysbell, mae’n unigryw dros ben, ac am le mor fach mae ganddi gymaint o nodweddion hanesyddol, naturiol a diwylliannol.

“Hoffwn sicrhau bod yr ynys ar gael i gynifer o bobl â phosibl.Mae’r penwythnosau hyn yn ffordd wych o ddod â phrofiad Ynys Echni i gynulleidfaoedd cwbl newydd.”

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas, “Yn ystod Blwyddyn o Ddarganfod Cymru rydym yn annog pobl i ddarganfod rhywbeth newydd am Gymru – ac amdanynt eu hunain hefyd.Mae’r penwythnosau hyn yn berffaith i wneud hynny ac mae’n dda gweld ein bod wedi gallu cefnogi eu datblygiad.  Mae ein gallu i farchnata Cymru i farchnadoedd newydd a newidiol yn dibynnu ar adrodd stori wych – a rhan o hynny yw buddsoddiad mewn profiadau a llefydd sy’n apelio i ymwelwyr yn y dyfodol.”

Mae yna restr aros ar gyfer yr enciliad nesaf yn barod, fydd yn digwydd rhwng dydd Gwener 6 Medi a dydd Sul 8 Medi.Mae rhagor o benwythnosau encilio wedi’u cynllunio ar gyfer yr haf nesaf ac mae Awdurdod yr Harbwr Caerdydd yn gofyn i bobl sy’n ystyried dianc i’r ynys gofrestru eu diddordeb yn https://cardiffharbour.com/cy/events/encil/  

Dywedodd Kate McCarthy, un o’r bobl a ruthrodd draw o ochr arall Môr Hafren er mwyn cymryd rhan:“Roedd hi’n brofiad mor hudol.Roedd popeth mor ddi-dor.Roedd y staff yn hyfryd ac yn barod i helpu.Roedd hi’n brofiad arbennig iawn a chefais benwythnos bythgofiadwy a hapus dros ben."

Mae’r project hwn wedi derbyn arian pellach drwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.