Back
Dewiswyd Contractwr i Gynllunio Ysgol Uwchradd Fitzalan Newydd

 

 


Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi y dyfarnwyd y contract i gynllunio cartref newydd Ysgol Uwchradd Fitzalan i Kier. Dyma'r cynllun diweddaraf i'w gyflawni o dan Rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif ac Addysg Band B Caerdydd. 

Bydd y buddsoddiad £64 miliwn yn cymryd lle yr ysgol bresennol, a chaiff ei adeiladau ger Stadiwm Lecwydd yn ardal Treganna y ddinas.Bydd yn fynediad 10 dosbarth, gyda lle i hyd at 1,500 o ddisgyblion rhwng 11 ac 16 oed, ynghyd â chweched dosbarth.

Bydd hefyd yn cynnig cyfleusterau chwaraeon cynhwysfawr, gan gynnwys ardal gemau aml-ddefnydd, caeau 3G a phwll nofio dan do newydd, sy'n cael ei ddefnyddio eisoes yn helaeth gan yr ysgolion lleol a grwpiau cymunedol.Bydd y rhain, a chyfleusterau eraill yn yr ysgol, ar gael i'r cyhoedd eu llogi i'w defnyddio y tu allan i oriau ysgol. 

Disgwylir i waith gael ei gwblhau yn y Flwyddyn Academaidd 2022/2023.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Mae'r cyhoeddiad hwn yn garreg filltir gyffrous yn natblygiad yr Ysgol Fitzalan newydd ac yn rhoi hwb i gam nesaf ein buddsoddiad ysgolion Band B.

"Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Kier i gyflawni ysgol newydd sbon sy'n rhoi mynediad at gyfleusterau o'r radd flaenaf ac amgylchedd dysgu o'r ansawdd uchaf i ddisgyblion.Mae'r cynllun yn fuddsoddiad sylweddol yn ardal Treganna a bydd yn sicrhau y bydd y gymuned leol hefyd yn elwa ar amwynderau rhagorol a modern.

"Mae Band B, a ariennir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, yn cynrychioli'r buddsoddiad unigol mwyaf erioed yn ein hysgolion.Drwy'r buddsoddiad hwn gallwn adeiladu ar y momentwm o'r £164m rydym wedi'i roi tuag at ysgolion newydd dros y pum mlynedd diwethaf, a mynd â'n Rhaglen Ysgolion ac Addysg y 21ain Ganrif i lefel arall." 

Dywedodd Anthony Irving, Rheolwr Gyfarwyddwr Kier Regional Building Western and Wales:"Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Caerdydd i ddarparu cyfleusterau lle y gall pobl ifanc ddysgu a datblygu mewn amgylchedd ysbrydoledig a chydweithredol.

Bydd yr ysgol a'r cyfadeilad chwaraeon newydd yn helpu i ffurfio dyfodol pobl ifanc yng Nghaerdydd am flynyddoedd i ddod ac mae'n parhau â'n hymrwymiad i gyflawni etifeddiaeth o fewn y ddinas lle rydym yn bwriadu cyflawni prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi drwy gydol y project".