Back
Estyn: ‘Gofal, cymorth a chanllawiau o safon uchel' yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica yn Cathays wedi cael 'da' ymhob un o'r pump maes, wedi'u harolygu gan Estyn, arolygiaeth addysg Cymru.  

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\St Monicas\dsc03745 (1).jpg

Dyma'r sgôr uchaf posibl ond un, gydag arolygwyr yn nodi bod disgyblion yr ysgol yn cael 'gofal, cymorth a chanllawiau o safon uchel'. Mae'r adroddiad yn mynd ymlaen i ddweud bod hyn yn ‘codi lefelau lles a hyder y disgyblion mewn modd effeithiol, gan greu agweddau positif at ddysgu.'  

Nododd yr adroddiad bod ‘disgyblion yn gwneud cynnydd da wrth iddynt symud drwy'r ysgol ac mae disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys y rheiny â Saesneg fel iaith ychwanegol, yn gwneud cynnydd da o ddechrau yn yr ysgol.'

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\St Monicas\img_3694 (1).jpg

Yn ogystal, nododd yr arolygwyr bod ‘disgyblion yn cael profiadau dysgu diddorol a chyffrous ym mhob rhan o'r cwricwlwm' a bod y pennaeth, uwch arweinwyr a'r corff llywodraethu yn 'gweithredu gweledigaeth yr ysgol drwy arweinyddiaeth gref, sensitif a chefnogol gyda thîm clos iawn'. 

Gan ymateb i'r canlyniad positif, dywedodd y Pennaeth, Mrs Abigail Beacon: "Rwy'n falch iawn o'r adroddiadau diweddar sydd wedi'u hysgrifennu am St Monica's.  Roeddwn yn falch iawn o weld ymroddiad a gwaith caled y staff, llywodraethwyr a'r disgyblion yn cael ei gydnabod yn eu hasesiadau o'r ysgol.

"Rydym yn ysgol aml-ddiwylliannol, aml-ffydd iawn mewn rhan drefol o Gaerdydd.  Heb unrhyw eithriadau bron, mae rhieni wedi gwneud penderfyniad amlwg i anfon eu plant i St Monica's.  Rydym yn credu bod hyn am fod gennym enw da iawn am sefydlu cymuned ysgol sydd â dehongliad effeithiol a datblygedig iawn o ffydd, sydd yn bennaf yn goresgyn unrhyw rhwystrau posibl o ran ieithoedd a diwylliannau gwahanol, amgylchiadau teuluol a chrefyddau gwahanol."

"Rwy'n falch iawn o bob plentyn yn yr ysgol wrth iddynt addasu i amgylchiadau gwahanol a chroesawu pawb i'r ysgol i'w helpu nhw i deimlo'u bod nhw'n perthyn. Mae safonau'r ysgol yn dda iawn, ac mae bron pob disgybl yn gwneud cynnydd da wrth iddynt fynd drwy'r ysgol.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\St Monicas\DSC02669.JPG

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae hwn yn ganlyniad gwych i St Monica's ac rwy'n falch iawn o ddysgu am ganlyniad Estyn positif arall i un o ysgolion ein dinas. 

"Mae'r aelodau staff, llywodraethwyr a'r rhieni yn amlwg wedi gweithio'n galed gyda'i gilydd, a dylent fod yn falch iawn o'u hymdrechion."