Back
Gŵyl y Crys Melyn yn Dathlu'r Arwr Lleol Geraint Thomas OBE

Heddiw cynhelir gŵyl gelf, gerddoriaeth a dawns i ddathlu gyrfa a chyflawniadau'r beiciwr o Gaerdydd Geraint Thomas OBE yng Nghanolfan Better, yn y Maendy.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Geraint Thomas schools yellow jersey project\2019-07\IMG_2029.JPG

Foto:Iolo Williams Ysgol Mynydd Bychan, Cathays Councillors Norma Mackie, Deputy Leader Cllr Sarah Merry, Chris Weaver and Maindy Flyers coach Debbie Wharton.

Bron flwyddyn i'r diwrnod ers ei fuddugoliaeth hanesyddol yn y Tour De France yn 2018, yng Ngŵyl y Crys Melyn dadorchuddiwyd gofeb weladwy barhaol sy'n mesur 74 metr o amgylch Canolfan Better Maendy, cartref y Maindy Flyers lle dechreuodd y Cymro ei yrfa.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Geraint Thomas schools yellow jersey project\2019-07\IMG_2036.JPG

Wedi ariannu gyda grant o £12,500 gan Gyngor Celfyddydau Cymru fel rhan o'r Cynllun Cydweithredu Creadigol, denodd yr ŵyl dros 150 o blant o saith ysgol leol sydd wedi bod yn gweithio ar y prosiect ers mis Ionawr.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Geraint Thomas schools yellow jersey project\2019-07\IMG_2060.JPG

Mae'r prosiect wedi gweld llu o artistiaid, cerddorion a beirdd yn cydweithio gyda disgyblion o Ysgol Uwchradd Cathays, Ysgol Gynradd Albany, Ysgol Gynradd Allensbank, Ysgol Gynradd Gladstone, Ysgol Gynradd Gatholig Joseff Sant, Ysgol Gynradd y Santes Monica yr Eglwys yng Nghymru ac Ysgol Mynydd Bychan.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Geraint Thomas schools yellow jersey project\2019-07\IMG_2049.JPG

Artistiaid - Siôn Tomos Owen

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Dyma enghraifft ardderchog o gydweithio sydd wedi dod â nifer o ysgolion lleol ynghyd i ddathlu un o bencampwyr mwyaf adnabyddus Caerdydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

"Bydd y murlun yn ysbrydoli'r holl blant a phobl ifanc hynny sy'n defnyddio'r trac beicio, ac yn eu hatgoffa o'r hyn y gallant ei gyflawni drwy fod yn frwdfrydig, yn benderfynol a thrwy weithio'n galed."

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Geraint Thomas schools yellow jersey project\2019-07\IMG_2052.JPG

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury:"Mae Caerdydd yn ddinas lawn balchder ac mae hi bob tro'n cefnogi ei dynion a'i menywod o fyd y campau. Mae dathlu Geraint yn y modd hwn yn arbennig.

"Mae'r murlun etifeddiaeth sydd wedi'i osod yng Nghanolfan Better Maendy yn tynnu sylw at y trac hefyd ac yn dangos y cyfleusterau a'r modd y caiff chwaraeon ar lawr gwlad ei ddatblygu gan fagu cynifer o feicwyr talentog, a bydd yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol."

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Geraint Thomas schools yellow jersey project\2019-07\IMG_2050.JPG

Dywedodd Deian Jones, Cadeirydd Clwb Beicio Iau Maindy Flyers: "Mae gan Glwb Beicio Iau Maindy Flyers hanes arbennig gyda llwyddiant Geraint gyda'r Le Tour yr uchafbwynt amlwg. "Heb amheuaeth, bydd y gwaith celf hwn yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o feicwyr ac yn helpu ein clwb i fynd o nerth i nerth."

Dywedodd Miss Siân Evans, Pennaeth Ysgol Mynydd Bychan: "Bydd y prosiect hwn yn sicrhau y bydd yna gofeb barhaol o lwyddiant Geraint Thomas ynghyd â phob cyn-aelod o'r Maindy  Flyers sydd wedi mynd ymlaen i fwynhau gyrfaoedd llwyddiannus fel beicwyr proffesiynol.

"Breuddwydiwch, ewch amdani, peidiwch â gadael i unrhyw beth eich dal yn ôl" oedd un o brif negeseuon Geraint Thomas yn dilyn ei fuddugoliaeth. Mae gan y prosiect y potensial i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o feicwyr ac athletwyr awyddus.  Bydd hefyd yn sicrhau y bydd gan blant yr ardal rywbeth i'w hatgoffa bob amser bod angen iddyn nhw anelu'n uchel a dyfalbarhau wrth iddyn nhw ddilyn eu breuddwydion.

"Gall pawb lwyddo trwy weithio'n galed, pa faes bynnag y maen nhw'n dymuno arbenigo ynddo."

Dywedodd Anthony Hayes, rheolwr Canolfan Maendy: "Mae Canolfan Maendy yn hynod o falch i fod yn rhan o'r prosiect celf cyffrous hwn - prosiect fydd yn dathlu cyflawniad aruthrol ein harwr lleol a Phersonoliaeth y Flwyddyn y BBC. Bydd yn gyfle i blant a phobl ifanc ardal Cathays arddangos eu hedmygedd a'u cefnogaeth i daith Geraint.

"Cyfle i ddathlu'r ffaith ei fod wedi gwireddu ei freuddwydion ers oedd yn llanc ifanc gyda'r Maindy Flyers ar yr unig drac beicio awyr agored yng Nghaerdydd. Trwy'r celfyddydau, gall pobl ifanc gael eu hysbrydoli i ddilyn yr un daith er mwyn llwyddo."