Back
Ysgol Gynradd Oakfield; Estyniad newydd bellach ar agor

Mae estyniad £1 miliwn newydd yn Ysgol Gynradd Oakfield yn Llaneirwg wedi'i agor yn swyddogol heddiw. 

 

Roedd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cyng. Sarah Merry, yng nghwmni Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Addysg, Kirsty Williams yn ystod yr agoriad, ynghyd â staff, disgyblion a gwesteion arbennig eraill.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Oakfield Primary\190710Oakfield031_NTreharne.jpg<0}

Mae'r datblygiad newydd, sydd wedi'i ariannu gan grant Llywodraeth Cymru, yn cynnig pedwar man dysgu newydd ac ystafelloedd ychwanegol ar gyfer grwpiau a fydd yn lleihau meintiau dosbarthiadau babanod yn yr ysgol. 

Dywedodd y pennaeth, David Harris; "Rwy'n falch ein bod ni'n gallu agor ein hystafell ddosbarth newydd yn swyddogol a fydd yn helpu i sicrhau ein bod yn bodloni anghenion pwysig ein disgyblion a thwf yr ysgol.

"Bydd yr adeilad newydd yn galluogi pob dosbarth i gael ei fan penodol ei hun yn yr ysgol ac yn sicrhau bod disgyblion yn cael mynediad at gyfleoedd addysg newydd a gwell yn y llety newydd.

"Hefyd, mae'r estyniad wedi creu ardal ar gyfer darpariaeth gofal plant 30 awr i blant meithrin rydyn ni'n bwriadu ei gweithredu y flwyddyn nesaf.Bydd y gwelliannau hyn

yn cael effaith sylweddol ar ddisgyblion, rhieni a staff yn ogystal â bod o fudd i'r gymuned leol."

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Oakfield Primary\190710Oakfield047_NTreharne.jpg

Dywedodd y Cyng. Merry:"Yn ystod y broses ddylunio, roedd y Cyngor yn gweithio gydag Ysgol Gynradd Oakfield i greu ardaloedd dysgu newydd sydd ag anghenion a thwf yr ysgol a'i chymuned mewn cof.

"Bydd y mannau ychwanegol hyn yn helpu i leihau meintiau ystafelloedd babanod wrth ddarparu darpariaeth ddysgu wych mewn amgylchedd dymunol a modern hefyd."

"Mae cynnig darpariaeth ddysgu wych o'r cyfnodau cynnar hyd at addysg ôl 16 yn flaenoriaeth.

"Trwy'r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg sy'n cael ei darparu ym mhob rhan o'r ddinas gydaLlywodraeth Cymru, mae plant a phobl ifanc yn cael mynediad at gyfleusterau ac amgylcheddau dysgu gwych. 

"Yn werth £284m, Band B yw cam nesaf y rhaglen ac mae'n cynrychioli'r buddsoddiad unigol mwyaf yn ysgolion Caerdydd."

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Oakfield Primary\190710Oakfield052_NTreharne.jpg

Yn siarad yn ystod yr agoriad, dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams: "Roedd lleihau maint dosbarthiadau babanod yn rhan allweddol o'r Cytundeb Blaengar a gyrhaeddwyd rhwng finnau a Phrif Weinidog Cymru.Felly rwyf wrth fy modd o agor yr estyniad newydd sbon yn Ysgol Gynradd Oakfield yn swyddogol heddiw.

"Dim ond un o'r ysgolion sy'n elwa ar ein cronfa £36m i leihau maint dosbarthiadau babanod yng Nghymru yw Ysgol Gynradd Oakfield.Yn gyfan gwbl bydd y grant yn ariannu dros 100 o athrawon ychwanegol, 35 o gynorthwywyr addysgu ychwanegol a 54 o ystafelloedd dosbarth ychwanegol, yn ogystal â gwella cyfleusterau presennol.

"Mae lleihau maint dosbarthiadau babanod yn elfen allweddol o'n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau.Trwy ddarparu'r ystafelloedd dosbarth newydd a'r athrawon ychwanegol y mae eu hangen ar ysgolion, gallwn ni alluogi athrawon i roi mwy o amser a sylw i ddisgyblion unigol.