Back
Cynigion ar gyfer Strategaeth Gwasanaethau Plant Caerdydd 2019 - 2022 newydd

Caiff strategaeth dair blynedd newydd i gyflawni canlyniadau gwych yn y Gwasanaethau Plant ei hystyried gan Gabinet yr Awdurdod Lleol pan fydd yn cwrdd ddydd Iau 11 Gorffennaf.

Os cytunir arno, bydd Cynllun Strategol Gwasanaethau Plant Caerdydd 2019-2022 yn uno ystod o brojectau gwella gwasanaethau drwy greu un rhaglen; 'Cyflawni Canlyniadau Gwych yn y Gwasanaethau Plant'.Mae'n ategu'r gwaith o gyflawni ymrwymiadau eraill y Cyngor sydd wedi hen ennill eu plwyf megis y Cynllun Rhianta Corfforaethol, Uchelgais Prifddinas y Cyngor a Strategaeth Dinas sy'n Dda i Blant Caerdydd sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ei pholisïau a'i phenderfyniadau.

Mae'r strategaeth yn nodi prif heriau Caerdydd a, gyda'r gwaith gwella eisoes ar y gweill, yn ymrwymo i gynnal rhaglen o weithgarwch uchelgeisiol.Caiff y gwelliannau hyn eu cyflawni, ar y cyd gyda phartneriaid, dros y tair blynedd nesaf ac maent yn cynnwys:

-         Cefnogi a datblygu ein gweithlu i fynd i'r afael â recriwtio a chadw staff.

-         Parhau i ddarparu Gwasanaeth Cymorth Cynnar gwell a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ymwybodol o'u hawliau yn rhan o ymrwymiad Caerdydd i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF.

-         Gwella'r ffordd mae teuluoedd yn cael mynediad at gyngor, cymorth a chefnogaeth.

-         Dilyn y plentyn ar ei siwrnai a sicrhau bod y plentyn bob amser wrth wraidd yr holl newidiadau rydym yn eu gwneud.

-         Parhau'r gwaith o ddatblygu ein trefniadau diogelu lleol a rhanbarthol, sicrhau bod gan y gweithlu fynediad at hyfforddiant priodol.

-         Gweithio gyda'r Gydweithfa Fabwysiadu Ranbarthol i wella ein gweithdrefnau mabwysiadu mewn ffordd ddiogel

-         Sicrhau pontio llwyddiannus cyson i fod yn oedolyn a byw'n annibynnol 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cynghorydd Graham Hinchey:"Mae'r strategaeth hon yn nodi'r cyd-destun mae'r Gwasanaethau Plant yn gweithredu ynddo a'r prif heriau rydyn ni'n eu hwynebu sy'n cynnwys mwy o alw a chymhlethdod, pwysau ar gyllidebau ac ystod gynyddol o ddeddfwriaeth, rheoliadau, polisi a chanllawiau mae angen cydymffurfio â nhw.

"Yn bwysig, mae'r strategaeth hefyd yn rhoi manylion ar y gwelliannau rydyn ni'n ymrwymo i'w cyflawni i symud y canlyniadau gorau ar gyfer plant a phobl ifanc yn eu blaen, adeiladu ar ein cryfderau a sicrhau bod y cymorth iawn ar gael ar yr adeg iawn.

"Rydym yn gwybod bod Caerdydd eisoes yn lle da i lawer o blant a phobl ifanc dyfu i fyny: mae gennyn ni wasanaethau iechyd da, cyfradd troseddu isel, cymunedau cynhwysol cryf a mynediad at fannau gwyrdd, chwaraeon a diwylliant.Fodd bynnag, rydyn ni am sicrhau bod ein holl blant yn ddiogel ac wedi'u hamddiffyn, gan wneud ein dinas yn lle hyd yn oed gwell i fyw ynddo fel y gall pob plentyn a pherson ifanc gyflawni ei botensial ac arwain bywyd diogel, hapus ac iach."