Back
Mae Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd yn ôl!
Mae dathliad gwreiddiol Caerdydd o gynnyrch cartref a bwyd stryd anhygoel yn ôl am yr 20fedflwyddyn gydag ystod eang o fwyd gan dros 100 o gynhyrchwyr o'r ardal leol a phob cwr o'r byd.

Mae'r digwyddiad poblogaidd, sydd ar gynllun newydd eleni, yn cael ei gynnal yn Roald Dahl Plass ym Mae Caerdydd o 5 -7 Gorffennaf, a bydd pobl sy'n dwlu ar fwyd yn siŵr o ddod o hyd i rywbeth at eu dant!

Bydd y wledd o fwyd stryd yn cynnwys rhai o enwau mwyaf sîn bwyd stryd y DG, gan gynnwys The Mighty Softshell Crab, Puckin Putine, Purple Poppadom a Meat and Greek.

Ffair y Cynhyrchwyr a Marchnad y Ffermwyr yw'r lle i fynd i gael popeth o alcohol cartref a chyffaith cartref i ddanteithion melys a chynnyrch o'r fferm i'r bwrdd bwyd ac os ydych chi eisiau ymlacio a mwynhau diod yn yr haul, bydd cerddoriaeth o'r llwyfan yn drac sain perffaith i chi.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury:"Mae pobl sy'n hoffi eu bwyd wedi bod yn ymhyfrydu yng Ngŵyl Bwyd a Diod Caerdydd ers dros ugain mlynedd bellach ac ni fydd eleni yn eithriad. 

"Bydd y ddinas dan ei sang trwy'r haf gyda llu o ddigwyddiadau llawn hwyl, ond mae ochr ddifrifol i'r holl lawenydd; mae digwyddiadau yn hanfodol i economi Caerdydd, maen nhw'n rhan o'r hyn sy'n gwneud y brifddinas yn lle cystal i fyw a gweithio ynddi ac i ymweld â hi."