Mae cynlluniau newydd wedi eu datgelu a allai gyflwyno casgliadau gwastraff yng Nghaerdydd ar ddydd Llun Gŵyl y Banc.
Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i breswylwyr Caerdydd y cesglir eu gwastraff ar ddydd Llun aros tan y dydd Mawrth cyn casglu eu biniau yn dilyn Gŵyl y Banc. Gall hyn achosi effaith ganlynol ar rai casgliadau trwy'r ddinas, a tharfu ar y gwasanaeth a pheri dryswch i rai preswylwyr.
Yn ôl y cynlluniau newydd, byddai'r timau rheoli gwastraff dan gontract i weithio ddydd Llun Gŵyl y Banc a dyddiau dal i fyny ‘angenrheidiol' yn dilyn gwyliau statudol eraill megis y Nadolig a Dydd Calan, a thrwy hynny byddai llai o gasgliadau hwyr.
Dywedodd y Cyng. Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu: "Mae hyn yn newyddion da i breswylwyr yr ydw i'n sicr y bydd wrth eu boddau o glywed am ein cynlluniau i symleiddio'r diwrnodau casglu. Rydym eisiau cynnig gwasanaeth rheoli gwastraff sy'n ymateb i anghenion ein dinasyddion ac rydym yn credu bydd y newidiadau hyn yn arwain at welliant mawr.
"Rydym wedi gweithio'n agos â'n cydweithwyr yn yr Undebau Llafur a gwnaethom gynnydd da o ran y cynigion hyn. Rydym nawr mewn sefyllfa lle mae'r Cynrychiolwyr Undebau Llafur yn fodlon i gynnig pleidlais i'w haelodau er mwyn dod i Gytundeb Cyffredinol.
"Mae'r gwaith hwn wedi cynnwys trafodaethau hirfaith gyda'n cydweithwyr yn yr Undebau Llafur dros y misoedd diwethaf a hoffwn gydnabod eu hagwedd gadarnhaol tuag at helpu i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl i bobl Caerdydd.
"Er na allwn ni ragdybio canlyniadau pleidlais yr Undebau Llafur, rydym yn gwerthfawrogi'r argymhelliad unfryd o du'r Undebau Llafur i'w haelodau gefnogi'r cynnig ar y cyd. Mae hyn yn dangos ymrwymiad clir wrth weithio mewn partneriaeth a chefnogi ein gweithlu i ddarparu dros y ddinas."
Nawr caiff yr holl staff y byddai hyn yn effeithio arnynt ac sy'n aelodau o Undeb Llafur bleidlais ar y cynigion i newid telerau ac amodau tua 260 o staff rheoli gwastraff. Os cytunir ar hyn, bydd staff dan gontract i weithio dydd Llun Gŵyl y Banc a diwrnodau dal i fyny yn dilyn Diwrnod y Nadolig, Dydd Gŵyl San Steffan a Dydd Calan. Bydd dydd Gwener y Groglith, sydd eisoes yn ddiwrnod gwaith arferol, hefyd yn cael ei gynnwys yn ysgrifenedig yng nghontractau staff.
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd yr Undebau Masnach: "Mae GMB, Unison ac Unite yn croesawu ymrwymiad gweinyddiaeth y Cyngor i greu swyddi llawn amser, y mae'r undebau wedi ymgyrchu'n galed i'w gyflawni am nifer o flynyddoedd. Mae cyhoeddiad heddiw yn dangos bod y gwaith hwn wedi bod yn llwyddiannus.
"Rydym yn falch iawn y bydd gweithwyr asiantaeth bellach yn cael y cyfle i sicrhau cyflogaeth yn y Cyngor, gan leihau dibynadwyedd yr awdurdod lleol ar oriau asiantaeth. Mae'r Adran Strydlun yn cael ei hail-lunio i'w gwneud yn addas i'r 21ain Ganrif. Mae'r Cyngor wedi ymgynghori ag aelodau undebau ar gynlluniau i gynnwys gwyliau banc yn yr wythnos waith, yn unol ag amodau a thelerau statws sengl.
"Mae'r Cyngor wrthi'n cynnal trafodaethau i foderneiddio'r adran, sy'n amddiffyn swyddi tra'n cynnig gwasanaethau o'r radd flaenaf i ddinasyddion y ddinas. Mae GMB, Unison ac Unite wedi argymell bod eu haelodau'n derbyn y cynigion a gynigir."
Os cytunir ar hyn, aiff gwaith rhagddo i weithredu'r system newydd a rhoi gwybod i breswylwyr am y newid cyn ei gweithredu.