Back
Argymhelliad i'r Cabinet fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer campws addysg newydd yn y Tyllgoed

Rhoddir ymatebion i ymgynghoriad ar ailddatblygu Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Arbennig Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands mewn adroddiad a gaiff ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Caerdydd yn eu cyfarfod ar 13 Mehefin, ddydd Iau.

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell i'r Cabinet symud ymlaen i gam hysbysiad statudol ar gyfer y cynigion canlynol:

-         Newid adeiladau Ysgol Uwchradd Cantonian gyda llety adeilad newydd ar yr un safle gan ehangu'r ysgol o chwe dosbarth derbyn i wyth dosbarth derbyn gyda darpariaeth chweched dosbarth ar gyfer hyd at 250 o ddisgyblion;

-         Ehangu Canolfan Adnoddau Arbenigol ar gyfer dysgwyr ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistaidd, sydd wedi ei lletya yn Ysgol Uwchradd Cantonian o 20 lle i 30 lle mewn llety a adeiladir yn bwrpasol yn adeiladau newydd yr ysgol;

-         Adleoli Ysgol Arbennig Woodlands i'r safle ar Doyle Avenue o'r safle presennol gyfagos â Pharc Trelái a chynyddu'r capasiti o 140 i 240 lle mewn adeilad newydd;

Adleoli Ysgol Arbennig Riverbank i'r safle ar Doyle Avenue o'i leoliad presennol ger Parc Trelái, gan gynyddu'r capasiti o 70 i 112 o leoedd mewn adeilad newydd.Mae'r Cyngor wedi cynnig ehangu Ysgol Riverbank i 140 lle, ond byddai gosod cap o 112 yn gostwng ôl troed yr adeiladau, cynyddu'r gofod awyr agored i ddysgwyr ac yn lleihau effaith traffig i'r safle.Câi llefydd arbenigol ychwanegol eu cynnig mewn ysgol arall i ateb y tŵf a ragwelir yn y galw am lefydd mewn ysgolion cynradd arbennig yn y blynyddoedd nesaf.

Yn rhan o Fand B y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, nodwyd bod angen rhagor o leoedd mewn ysgolion uwchradd a lleoedd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ar gyfer plant ag anghenion cymhleth,

Ym mis Rhagfyr 2018, cytunodd y Cabinet ar argymhelliad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion i adeiladu campws addysg yn y Tyllgoed a fyddai'n sicrhau llety adeiladau newydd ar gyfer addysg i dair ysgol Caerdydd.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Gyda mwy na 11 o hectarau, mae'r safle ar Doyle Avenue yn cynnig cyfle cyffrous i greu campws addysg cyntaf o'i fath yng Nghaerdydd, gan ddarparu cartrefi newydd i Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Arbennig Woodlands ac Ysgol Arbennig Riverbank.

"Mae'r adeiladau presennol y tair ysgol wedi cyrraedd diwedd eu bywydau gweithredol ac mae angen rhai newydd.Byddai hyn yn ein galluogi i ddarparu cyfleusterau yr 21ain Ganrif newydd sbon yn ogystal â bodloni'r galw uwch am leoedd mewn ysgolion uwchradd a ragamcanir yn yr ardal a'r galw cynyddol i ddarparu ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol."

"Ar y cyfan, cawsom ymatebion hynod gadarnhaol i'r ymgynghoriad gan dderbyn dros 750 o ymatebion.O'r ymatebwyr rhanddeiliaid ehangach, roedd 94% yn cefnogi'r cynlluniau i amnewid ac ehangu Ysgol Uwchradd Cantonian ac roedd 80% yn cefnogi cynigion i symud ac ehangu Ysgol Arbennig Woodlands ac Ysgol Arbennig Riverbank i'r safle ar Doyle Avenue.

"Roeddwn i'n benodol falch o weld yr ymateb uchel gan bobl ifanc, a gwblhaodd nid yn unig yr arolwg ar-lein ond hefyd a ddaeth i gyfarfodydd ymgynghori. Mae hyn yn cadarnhau ein nod o roi llais i ddisgyblion ar destun eu hysgolion ac mae'n amlygu strategaeth Dinas sy'n Dda i Blant Caerdydd, sy'n gosod llais a hawliau plant fel rhan annatod o'r broses penderfynu.

"Bu'r ymgynghoriad yn gyfle ardderchog i ni gael safbwyntiau a barn gan ystod o randdeiliaid ac mae'r adborth wedi llywio cynigion y project a gyflwynwyd i'r Cabinet ei ystyried.

"Os caiff y cynigion eu gweithredu, bydd yr holl ymatebion, gan gynnwys y rhai a gafwyd gan arolygon i ddisgyblion, yn llywio'r cynlluniau, a fyddai'n amodol ar gynllunio."