Enillodd Cyngor Caerdydd wobr fawreddog am ei ymrwymiad i'r Cyflog Byw Gwirioneddol yng Ngwobrau Hyrwyddwyr Cyflog Byw blynyddol neithiwr yn Llundain.
Rhoddwyd y Wobr Hyrwyddwyr Lleoedd Byw i'r awdurdod yn sgil ei waith llwyddiannus wrth annog y Cyflog Byw Gwirioneddol, sef y gyfradd fesul awr a gyfrifir yn annibynnol sy'n seiliedig ar gostau byw. Y gyfradd ar hyn o bryd yw £9 ledled y DU a £10.55 yn Llundain.
Dechreuodd y Cyngor dalu'r Cyflog Byw i'w weithlu cyfan yn 2012 ac ers cael yr achrediad Cyflog Byw yn 2015, mae wedi mynd ati i hyrwyddo'r gyfradd wirfoddol hon ledled Caerdydd, gan gynnwys drwy ei Gynllun Cymorth Achredu'r Cyflog Byw er mwyn annog mwy o fusnesau bach a chanolig i dalu'r Cyflog Byw, a hynny drwy dalu am eu costau achrediad am dair blynedd.
Mae'r awdurdod wedi bod yn allweddol wrth gynyddu nifer y cyflogwyr achrededig yng Nghaerdydd o 20 yn 2015 i 93 yn 2019, sy'n cynrychioli tua 46% o gyfanswm y cyflogwyr achrededig yng Nghymru gyfan.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:"Rydym yn falch dros ben o fod yn gyflogwr Cyflog Byw ac o fod wedi ennill y Wobr Hyrwyddwyr Lleoedd Byw hon. Rydym yn ymroddedig iawn i hyrwyddo'r Cyflog Byw yng Nghaerdydd gan ein bod yn cydnabod bod angen i'n staff ennill cyflog sy'n ddigon i dalu'r costau a'r pwysau maent yn eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd.
"Ein nod yw dod yn Ddinas Cyflog Byw erbyn diwedd eleni, yr ail ddinas yn unig yn y DU ar ôl Dundee, a'r brifddinas gyntaf yn y DU. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ragor o sefydliadau ledled Caerdydd ddod yn gyflogwyr Cyflog Byw achrededig. Gwyddom fod nifer o sefydliadau yng Nghaerdydd eisoes yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i'w staff, a byddai'n wych pe bai modd iddynt gefnogi Caerdydd a dod yn gyflogwyr Cyflog Byw achrededig. Mae'r broses achredu yn syml ac mae cefnogaeth ar gael gan Cynnal Cymru a'r Sefydliad Cyflog Byw.
"Rydyn ni'n awyddus i ddylanwadu ar fusnesau'r ddinas i ddangos yr arferion cyflogaeth da hyno fewn eu sefydliadau eu hunain a hoffwn weld y Cyflog Byw yn dod yn rhan o'u gwead, yn yr un modd y mae bellach wedi'i ymgorffori o fewn arferion a strategaethau'r Cyngor ei hun."
Mae'r Cyngor wedi ymuno â Chod Ymarfer Llywodraeth Cymru:Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi Llywodraeth Cymru sy'n golygu annog cyflenwyr i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol ac mae wedi diwygio ei ddogfennaeth tendr i ofyn ystod o gwestiynau ar arferion gwaith teg i sefydliadau sy'n cyflwyno tendr, gan gynnwys a ydynt yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol.
Dywedodd Katherine Chapman, Cyfarwyddwr y Sefydliad Cyflog Byw:"Roedd hi'n flwyddyn arbennig o lwyddiannus i'r Sefydliad Cyflog Byw y llynedd ar ôl cyrraedd Achrediad Cyflog Byw rhif 5,000.Mae ein gwobrau'n gyfle i gydnabod y busnesau ardderchog sy'n parhau i weld pwysigrwydd rhoi cyflog sydd wir yn talu costau byw, a gwerth hyn i weithwyr a'u teuluoedd, yn ogystal â busnesau."
Am ragor o wybodaeth am GynllunCymorth Achredu'r Cyflog Byw, ewch i
https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/Y-Cyflog-Byw/Pages/default.aspx