Back
Ysgol Gynradd Howardian yn agor yn swyddogol

Mae Ysgol Gynradd Howardian ym Mhen-y-lan, Caerdydd, wedi ei hagor yn swyddogol gan Ddirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd ac Aelod y Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry a Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams. 

Mae'r ysgol newydd wedi ei hariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, drwy raglen Addysg ac Ysgolion y 21ain Ganrif Band A £164m y ddinas.
 
Ymunodd plant, staff a llywodraethwyr â‘r Pennaeth, Dr Helen Hoyle, i groesawu gwesteion, yn cynnwys gwleidyddion lleol a phobl fu'n rhan allweddol o'r gwaith o godi'r ysgol.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Rwyf wrth fy modd yn gweld Ysgol Gynradd Howardian yn agor, un o'r ysgolion diweddaraf i agor ym ‘Mand A' ein Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, yn darparu cyfleusterau ac amgylchedd gwych ac addas at yr Unfed Ganrif ar Hugain i blant, mewn rhaglen werth £164. 

"Mae'n ysgol gynaliadwy, fydd yn ganolbwynt ac yn ysbrydoliaeth i'r gymuned, lle gall plant a phobl ifanc gyflawni eu potensial. Mae Ysgol Gynradd Howardian yn enghraifft arall o'n buddsoddiad mewn gwaith i wella ac ymestyn ein hysgolion drwy ein rhaglen Uchelgais Prifddinas."

Dywedodd y Pennaeth, Dr Helen Hoyle:
"Mae'n wych gweld yr ysgol yn agor yn swyddogol - dyma bennod gyffrous newydd yn agor i ddisgyblion a staff Ysgol Gynradd Howardian. Ers i'r plant gyrraedd eu hystafelloedd yn llawn cyffro ar y diwrnod cyntaf nôl ym mis Medi, maen nhw wedi bod wrth eu bodd yn eu hysgol newydd, a bu'n bleser eu gweld nhw'n mwynhau'r mannau dysgu a grëwyd yn arbennig ar eu cyfer, yn enwedig y man dysgu awyr agored.

"Mae'r cyfleusterau dysgu cyfoes yn mynd i wir gyfoethogi'r cyfleoedd sydd ar gael i blant, ac mae'r ysgol yn edrych tua'r dyfodol yn frwd. Hoffwn ddiolch i rieni, llywodraethwyr a staff, a'r gymuned ehangach, sydd wedi croesawu'r ysgol newydd ac wedi'n cefnogi ni gydol y broses."

Agorodd clwydi newydd Ysgol Gynradd Howardian am y tro cyntaf mewn cartref newydd gwerth £6.6m ym mis Medi, wedi i'r ysgol symud o'i chartref dros dro ar Hammond Way ym Mhen-y-lan dros yr haf.

Mae'r project wedi creu cartref newydd i'r ysgol, â lle i 420 o ddisgyblion mewn dau ddosbarth i bob blwyddyn, o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6, ynghyd â 96 o leoedd meithrin.
 Mae'r ysgol newydd hefyd yn cynnwys cyfleusterau sydd ar gael i'r gymuned ehangach, yn cynnwys ystafelloedd i'w llogi.Mae nifer o grwpiau cymunedol eisoes yn defnyddio'r gofod ar gyfer dosbarthiadau i grwpiau addysg, iechyd a lles oedolion a grwpiau chwarae i blant.

Yn siarad yn ystod yr agoriad, dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams:
"Mae'n bleser agor Ysgol Gynradd Howardian yn swyddogol heddiw, a gweld y cyfleusterau gwych sydd wedi eu creu drwy ein Rhaglen Ysgol ac Addysg yr 21ain Ganrif. 

"Bydd y cyfleusterau addysg ardderchog yn galluogi disgyblion i ddysgu ac athrawon i addysgu mewn amgylchedd sy'n addas ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain, yn sylfaen gadarn i ddysgwyr dyfu a chyflawni eu llan botensial.

"
Yn ogystal, bydd y cyfleusterau sydd wedi eu hymgorffori i ddyluniad yr ysgol o fudd enfawr i'r gymuned leol, gan wireddu ein hymrwymiad i wneud ysgolion yn fwy na mannau i ddysgu'n unig. Caiff y gymuned leol gyfleusterau o'r radd flaenaf i ddiwallu eu hanghenion."

Cyhoeddodd Cyngor Caerdydd gam nesaf rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ddiwedd y llynedd.Yn werth £284m, mae Band B yn cynrychioli'r buddsoddiad sengl mwyaf yn ysgolion Caerdydd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Sarah Merry:"Y buddsoddiad hwn gwerth £284m yn ein hysgolion yw'r un mwyaf erioed yng Nghaerdydd.Bydd yn ein galluogi i adfywio ein hysgolion, creu rhai newydd yn lle'r rhai sy'n dod i ddiwedd eu hoes, a darparu rhagor o leoedd ysgol ymhob sector.

"Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni - ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru - wedi darparu ystod cyffrous o ysgolion a bydd y cylch nesaf o fuddsoddi yn sicrhau bod momentwm yn cynyddu ac yn creu mwy o gapasiti, sydd mawr ei angen yn sgil y twf parhaus ym mhoblogaeth Caerdydd."