Yn cyd-daro â Diwrnod Moroedd y Byd ddydd Sadwrn, bydd yr ymgyrch yn datblygu ar y gwersi a ddysgwyd ynghylch cynaladwyedd yn ystod Ras Fôr Volvo y llynedd – gyda’r nod o ysbrydoli busnesau’r sector hamdden a thwristiaeth, ac ymwelwyr â'r ddinas, i newid ymddygiad.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:“Mae gan Gaerdydd enw da iawn fel dinas wych ar gyfer cynnal digwyddiadau ynddi ond roedd yr awydd i sicrhau bod effaith amgylcheddol Ras Fôr Volvo mor isel â phosibl yn hwb i ni ddechrau ystyried sut y gallwn ni wneud ein holl raglen ddigwyddiadau'n fwy cynaliadwy.
“Mae rhaglenni fel Blue Planet wedi cynyddu ymwybyddiaeth am faterion fel y rhain – ac mae 'na alw go iawn am newid. Felly roedden ni am rannu o’n profiad a’r datrysiadau rydyn ni wedi eu llunio ar gyfer rhai o’r materion hyn gyda busnesau ac ymwelwyr er mwyn i ni helpu'r sector hamdden a thwristiaeth yma yng Nghaerdydd i addasu at y newidiadau mae'n cyhoedd mor frwd dros eu gweld yn digwydd."
“Bob blwyddyn, mae Awdurdod Harbwr Caerdydd yn casglu tua 430 o dunelli o sbwriel o Fae Caerdydd, a llawer ohono'n blastig. Gobeithio y bydd y canllawiau hyn yn rhywfaint o help i fusnesau ac unigolion i chwarae eu rhan i ostwng y ffigur hwnnw.”
Bydd y digwyddiad brecwast, gyda Lucy Owen wrth y llyw, yn cynnwys:
Meddai Louise Tambini, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cadwch Gymru'n Daclus: “Rydym wrth ein bodd yn cael bod yn rhan o Ymgyrch Ecodwristiaeth Croeso Caerdydd. Roedd Ras Fôr Volvo yn arloesol o ran ei hagwedd tuag at gynaladwyedd, ac mae'n wych gweld bod hynny wedi gadael ei ôl ar Gaerdydd.
“Mae gyda ni i gyd gyfrifoldeb dros ofalu am ein hamgylchedd, felly mae’n gwbl angenrheidiol ein bod yn dod at ein gilydd i fynd i’r afael â llygredd plastig a sicrhau byd cynaliadwy i genedlaethau'r dyfodol. Ein gobaith yw y bydd ymgyrch Croeso Caerdydd yn ysbrydoli busnesau twristiaeth ac ymwelwyr i weithredu mewn ffordd gadarnhaol a newid eu hymddygiad yn barhaol."
Bydd dau ganllaw, yn cynnwys cyngor ar gynaladwyedd gan randdeiliaid allweddol a galwad ar fusnesau a thwristiaid i rannu eu profiadau o ran cynaladwyedd, yn cael eu lansio yn ystod y digwyddiad.
Mae’r
canllaw i fusnesau ar gael o: www.meetincardiff.com ac mae’r canllaw i ymwelwyr
ar gael o:www.croesocaerdydd.com
a gellir rhannu profiadau drwy e-bostio ecotourism@visitcardiff.com