Back
Arglwydd Faer newydd Caerdydd yn datgelu'r elusennau sydd wedi eu dewis ar gyfer ei flwyddyn yn y swydd

Mae Arglwydd Faer Caerdydd, sydd newydd gael ei benodi, wedi cyhoeddi maiCymorth i Fenywod Yng Nghymru a Bawso fydd y ddwy elusen y bydd yn eu cefnogi yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

Gwnaeth y GwirAnrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Daniel De'Ath addewid i weithio'n galed iawn i godi arian dros y ddau achos da, yn ystod ei seremoni urddo neithiwr. Addawodd gynnal digwyddiadau codi arian arbennig a digwyddiadau allweddol amserlenni'r elusennau.Mae hefyd wedi addo hybu proffiliau'r elusennau, yn ogystal â chodi arian sydd mawr ei angen arnynt ac a gaiff ei rannu rhwng y ddau achos da.

Cymorth i Fenywod yng Nghymru yw'r elusen sy'n cefnogi rhwydwaith o wasanaethau arbenigol lleol ledled y wlad gyda'r nod o helpu a chefnogi menywod, plant a theuluoedd sydd wedi dioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae Bawso yn sefydliad Cymru gyfan sy'n cynnig gwasanaethau arbenigol i bobl o gefndiroedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig sydd wedi dioddef pob math o arferion traddodiadol niweidiol gan gynnwystrais rhywiol, trais domestig, anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod, trais ar sail anrhydedd a masnachu pobl.

Mae Bawso hefyd yn cefnogi ffoaduriaid a theuluoedd sydd wedi dianc rhag trais a chamdriniaeth ac a ddaeth i ymgartrefu yng Nghymru, yn ddiogel rhag niwed.

Meddai'r Cynghorydd De'Ath:"Mae Trais Domestig yn bwnc rwy'n teimlo'n gryf iawn amdano ac yn ystod fy nghyfnod fel Aelod y Cabinet, arweiniais gais llwyddiannus y Cyngor i fod yn Gyngor Rhuban Wen Achrededig yn 2014.

"Drwy wirfoddoli gyda Bawso, rwyf wedi cael profiad o lygad y ffynnon o'r gwaith hollbwysig y maen nhw'n ei wneud yn cefnogi dioddefwyr masnachu pobl, caethwasiaeth fodern a thrais domestig.

Ychwanegodd y Cynghorydd De'Ath:"Mae'r elusennau hyn yn gwneud gwaith hynod bwysig ac rwy'n bwriadu gweithio'n galed iawn drostyn nhw yn ystod y flwyddyn hon.Mae Arglwyddi Faer blaenorol wedi codi llawer o arian dros yr elusennau o'u dewis a gobeithio y galla i wneud yr un peth."

Dywedodd Eleri Butler, Prif Swyddog Gweithredol Cymorth i Fenywod yng Nghymru:"Rydym ni wrth ein boddau bod Arglwydd Faer Caerdydd wedi dewis Cymorth i Fenywod yng Nghymru yn un o'r elusennau y bydd yn eu cefnogi eleni.Mae trais a cham-drin yn dinistrio bywydau unigolion a theuluoedd yn ogystal ag effeithio ar ein cymunedau lleol."Mae hyn yn fusnes i bawb, gan fod gan bawb yr hawl i fyw'n rhydd rhag ofn a chamdriniaeth.Cefnogwch yr apêl hon a helpwch ni i atal trais a chamdriniaeth, a gwneud Caerdydd y lle mwyaf diogel yng Nghymru, a rhoi terfyn ar gam-drin domestig a rhywiol am byth."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Bawso:"Mae'n anrhydedd fawr i Bawso gael ei dewis yn elusen yr Arglwydd Faer eleni.Bydd yr holl arian a gaiff ei godi yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r bobl hynny sy'n dianc rhag  trais domestig, a ffurfiau eraill ar drais yn erbyn menywod gan gynnwys masnachu pobl/caethwasiaeth fodern, priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod."

I ddysgu rhagor am Cymorth i Fenywod yng Nghymru ewch ihttps://www.welshwomensaid.org.uk/cy/ 

I gael gwybod mwy am Bawso, ewch iwww.bawso.org.uk

Bydd croeso mawr i unrhyw roddion.Anfonwch sieciau, yn daladwy i 'Elusen Arglwydd Faer Cyngor Caerdydd' i:

Swyddfa Brotocol
Y Plasty
Richmond Road
CaerdyddCF24 3UN.

Os hoffech drefnu digwyddiad codi arian i gefnogi Elusennau'r Arglwydd Faer, e-bostiwch:YSwyddfaBrotocol@caerdydd .gov.uk neu ffoniwch 029 2087 1543.