Back
Cyfrinach roc a rôl maer du cyntaf Caerdydd


Bydd Arglwydd Faer du cyntaf Caerdydd yn cael ei urddo mewn seremoni yn Neuadd y Ddinas Caerdydd fydd ychydig yn fwy roc a rôl na rhai'r gorffennol...

Yn hanesyddol, mae'n bosibl y byddai urddo Arglwydd Faer yn cynnwys cerddoriaeth gan gerddorfa leol neu gôr ysgol, ond mae'r Cynghorydd Dan De'Ath sy'n cynrychioli ward Casnewydd, yn bwriadu gwneud ei flwyddyn fel Arglwydd Faer yn eithaf gwahanol - bydd ei noson fawr yn cynnwys cerddoriaeth gan James P. Davies, prif ganwr band lleol o'r enw Shop Girls, y mae eu EP newydd wedi'i gynhyrchu gan ddrymiwr y Super Furry Animals gynt, Dafydd Ieuan yn Strangetown Studios.

Mae gan y Cynghorydd De'Ath gysylltiad â cherddoriaeth sy'n mynd yn ôl i'w ddyddiau ysgol, pan fuodd yn canu mewn band gyda'r cerddor enwog, Pete Doherty.

Roedd Doherty'n enwog yn y 2000au cynnar fel canwr a chwaraewr gitâr gyda'r band roc The Libertines, gydag albwm rhif un yn 2004, ac roedd yn y newyddion yn aml diolch i'w ffordd o fyw drwg-enwog a'i berthynas â'r model rhyngwladol, Kate Moss.

Mae'r Cynghorydd De'Ath, y mae ei lun ym mywgraffiad Doherty,‘The Books of Albion',hefyd wedi'i gynnwys yn y cylchgrawn cerddoriaeth, NME. Roedd rhifyn mis Mai 2009 yn cynnwys erthygl '40 awesome (and well random) rock facts'- a dyma rif 20:

 

Pre-Libertines, Peter Doherty tried his hand at stand-up, performing in a duo with his schoolmate, the splendidly named Daniel De'Ath 

I gwblhau'r cylch, cefnogodd James P. Davies Pete Doherty unwaith ar daith o'r DU yn ystod ei amser yn aelod o fand arall, a dywed ei fod yn hoff o'i waith yn ysgrifennu caneuon - yn ôl y sôn, roedd yr enwog Doherty yn awyddus i ddefnyddio un o'i ganeuon - cynnig y gwnaeth canwr y Shop Girls ei wrthod.

 

‘Dyw hyn oll ddim yn cynrychioli'r Arglwydd Faer arferol - ac mae hynny cyn hyd yn oed cyrraedd y ffaith hanesyddol mai'r Cynghorydd De'Ath fydd maer du cyntaf Caerdydd yn ôl cofnodion hanesyddol.

Dywedodd y Cynghorydd De'Ath:"Rwy'n blentyn o'r nawdegau, felly roedd Britpop yn beth mawr i mi. Ond cefais fy magwraeth yn Swydd Warwig, felly os oeddech am weld cerddoriaeth fyw, neu chwarae mewn gig, yr unig ffordd i wneud hynny oedd mynd ar drên i Coventry neu Birmingham. ‘Dw i'n meddwl bod hynny'n rhywbeth dwi'n ei garu am Gaerdydd... ei sin gerddoriaeth."

Ychwanegodd y Cynghorydd De'Ath: "Rwy'n falch iawn o fod yn Arglwydd Faer du cyntaf Caerdydd, mae'n fraint go iawn i gael cyfle i wasanaethu pobl Caerdydd fel hyn, ond ‘dw i'n meddwl ei fod yn dweud rhywbeth am bobl Caerdydd nad ydynt wedi synnu am y peth - nid yw pobl yn synnu bod gan Gaerdydd faer du, ond yn hytrach nad yw wedi digwydd o'r blaen."

Un peth sydd yn gyson â'r traddodiad yw y bydd llawer o flwyddyn y Cyng. De'Ath yn y swydd yn cynnwys codi arian i elusen.  Caiff enwau'r elusennau mae'r Cyng. De'Ath wedi'u dewis eu cyhoeddi nos Iau.

"Ond rwy'n bwriadu gwneud rhai pethau'n wahanol. Byddaf yn gwisgo'r cadwyni, a'r wisg, maen nhw'n rhan o'r swydd, ond Caerdydd yw prifddinas ieuengaf Ewrop, mae'n amrywiol, yn greadigol ac mae ganddi ysbryd - byddai'n wych pe gallwn helpu i ddangos hynny dros y 12 mis nesaf."

Bydd yn cael ei urddo yn Neuadd y Ddinas ddydd Iau, 23 Mai, a bydd rhannau o'r noson yn cael eu darlledu'n fyw ar wefan y Cyngor ac ar ei dudalen Facebook.