Back
Gŵyl Straeon Ditectif a Choffi: Y Gyfres Nesaf

 

Mae'r gyfres nesaf o Ŵyl Straeon Ditectif a Choffi Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd ar ei ffordd.

 

Yn dilyn gŵyl lwyddiannus y llynedd, a ddenodd rai o'r enwau mwyaf yn y genre, mae'r digwyddiad yn ôl fis nesaf gyda gwledd o drosedd a chyffro.

 

Bydd yr ŵyl ymlaen o 3-8 Mehefin yn Hyb y Llyfrgell Ganolog ac mewn hybiau cymunedol a llyfrgelloedd ledled y ddinas.

 

Wedi'i gefnogi gan gydweithfa awduron Crime Cymru a chyhoeddwyr Cymreig, bydd y digwyddiad yn cynnwys sgyrsiau, darlleniadau a thrafodaethau panel, ynghyd â gweithdy lle gall awduron ddatblygu eu sgiliau gydag awdur cyhoeddedig.

Atyniadau mwyaf y digwyddiad, mae'n siŵr, yw'r awduron Belinda Bauer, sy'n dychwelyd am yr eildro, a Jasper Fforde. Bydd Amy Lloyd, Heidi Perks, Kate Hamer, John Lincoln a llawer mwy yn ymuno â nhw hefyd.

Mae tocynnau ar gyfer yr ŵyl ar werth nawr ynwww.ticketsource.co.uk/cdfcrimefest19

Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael ym mhob digwyddiad felly archebwch o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Roedd yr Ŵyl Straeon Ditectif a Choffi gyntaf y llynedd yn llwyddiant ysgubol ac mae'n wych croesawu'r digwyddiad yn ôl am flwyddyn arall.Mae tîm yr hybiau a'r llyfrgelloedd wedi llunio amserlen wych ar gyfer yr wythnos, gan fynd â'r ŵyl i mewn i'n hybiau cymunedol am y tro cyntaf eleni hefyd.

"Mae llenyddiaeth drosedd yn boblogaidd dros ben yn ein llyfrgelloedd a'n hybiau ac, unwaith eto, rydym yn edrych ‘mlaen at groesawu rhai o'r ysgrifenwyr gorau yn y maes i Gaerdydd fis nesa'."

Bydd y coffi yn cael ei weini gan Uncommon Ground, aGriffinBookso Benarth yw gwerthwr llyfrau swyddogol y digwyddiad.

 

Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau unigol a thocynnau ewch iwww.ticketsource.co.uk/cdfcrimefest19

Tocynnau ar gael o £3.