Back
Y FONESIG SHIRLEY BASSEY DBE YN DERBYN RHYDDFRAINT Y DDINAS YN NEUADD Y DDINAS CAERDYDD

Heddiw, Ddydd Gwener 17 Mai 2019, anrhydeddwyd y Fonesig Shirley Bassey DBE â Rhyddfraint Dinas a Sir Caerdydd.

 



 

Wedi'i henwebu am ei gwasanaeth amlwg i Gaerdydd a Chymru a'i chefnogaeth i elusen Arch Noa a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, y wobr ryddfraint anrhydeddus yw'r clod uchaf y gall Cyngor Prifddinas Cymru ei chyflwyno.

 

Aeth y Fonesig Shirley i seremoni arbennig yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, gydag Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cyng. Huw Thomas, a Gwir AnrhydeddusArglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Dianne Rees.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd,"Gyda gyrfa nodedig sy'n ymestyn dros saith degawd, yn ddiamau mae'r Fonesig Shirley yn un o allforion gorau Cymru erioed.Nid yn unig y mae cyflwyno anrhydedd Rhyddfraint y Ddinas iddi yn cydnabod ei chyfraniad i gerddoriaeth ond mae hefyd yn cydnabod ei chefnogaeth barhaus i'r celfyddydau yng Nghymru a'i nawdd ymrwymedig i'r elusen leol, Arch Noa.

"Wedi'i chydnabod fel seren ryngwladol, mae'r Fonesig Shirley wedi cadw'i balchder dros ei  gwreiddiau yng Nghaerdydd a'i threftadaeth Gymreig.Mae ei henwi'n Ryddfreinydd Anrhydeddus y Ddinas yn dathlu ei chysylltiadau â'r ddinas tra'n mynegi balchder Caerdydd ym mhob dim mae hi wedi'i gyflawni."

 

Dywedodd Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Dianne Rees,"Rwyf wedi cael pleser mawr wrth helpu i groesawu'r Fonesig Shirley yn ôl i Gaerdydd heddiw er mwyn derbyn anrhydedd seremonïol Rhyddfraint y Ddinas, achlysur sydd mor bwysig i falchder dinesig Caerdydd.

"Mae'r digwyddiad arbennig hwn yn cydnabod cyfraniad y Fonesig Shirley i Gaerdydd a'i chymunedau yn ogystal â dathlu oes ryfeddol o gyflawni pethau.Rydym hefyd yn cydnabod ei chefnogaeth barhaus ar gyfer yr elusen Arch Noa, achos yr wyf wedi mwynhau ei chefnogi fy hun dros y flwyddyn ddiwethaf, sy'n helpu cynifer o blant a phobl ifanc i gael y gofal sydd ei angen arnynt i gael y dechrau gorau posib mewn bywyd."

 

Meddai'r Fonesig Shirley,"Mae'n anrhydedd o'r mwyaf i mi fod yng Nghaerdydd i dderbyn Rhyddfraint y Ddinas. 
Mae gen i atgofion melys o gael fy magu yn nociau Tiger Bay, o'r bobl a'm teulu.Mae'n wefreiddiol gweld sut mae fy nhref enedigol wedi tyfu gyda chymaint o asbri! 

"Trwy gydol fy ngyrfa, pryd bynnag rwy'n dychwelyd i Gymru, mae pobl mor garedig a hael i mi. Rydych yn fy nghroesawu â breichiau agored, a chyda hynny, rwy'n hyrwyddo'r gymuned hyd eithaf fy ngallu trwy gefnogi elusennau, gan gynnwys yCBCDCac Arch Noa.Rhaid i ni barhau i gefnogi'r genhedlaeth nesaf a meithrin eu doniau, a chyda'n gilydd bydd Caerdydd yn parhau i ffynnu fel y ddinas arbennig ag yw hi!

"Diolch eto am fy anrhydeddu gyda'r traddodiad bendigedig hwn."
 

 

Wrth gyrraedd, cafodd y Fonesig Shirley ei chyfarch gan Mia Lloyd, merch 12 oed o Geredigion. Treuliodd Mia bron iawn i flwyddyn yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru ar gyfer math prin o ganser ac ym mis Tachwedd 2017, cafodd lawdriniaeth i dorri ymaith ran o'i choes chwith. Mia yw llysgennad ifanc cyntaf erioed i Elusen Arch Noa ac mae wedi codi miloedd o bunnau ac wedi cynrychioli'r elusen mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau. 

 

Darparwyd cerddoriaeth gan gôr Gwasanaeth Cerddoriaeth Cyngor Caerdydd a Bro Morgannwg a rhoddwyd ffanffer gan drympedwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Elusen Arch Noa, Suzanne Mainwaring, "A hithau'n enw chwedlonol yn y byd adloniant, mae'r Fonesig Shirley wedi profi ei bod yn ffyddlon i'w gwreiddiau ac wedi hyrwyddo Cymru, Caerdydd a'i helusennau ledled y byd.Mae'n anrhydedd mawr i ni dderbyn ei nawdd a'i chefnogaeth ffyddlon. Mae hi'n aelod gwirioneddol o deulu Arch Noa ac rydym wrth ein boddau ei bod hi wedi derbyn Rhyddfraint Dinas Caerdydd, yr anrhydedd uchaf y gall y ddinas ei rhoi i unrhyw unigolyn. Edrychwn ymlaen at ddathlu gyda'r Fonesig Shirley yn Nawns Wanwyn Elusen Arch Noa heno (nos Wener 17 Mai)."

Wrth ei holi am ei phrofiad yn cwrdd â'r Fonesig Shirley, dwedodd Mia Llotd: "Ro'n i wedi cyffroi i gwrdd â'r Fonesig Shirley, fe wnes i ei llongyfarch hi a rei anrhydedd ac fe siaradon ni am ddillad, fe ddwedodd ei bod hi'n hoffi'n ffrog."

Bydd Neuadd y Ddinas yn croesawuDawns Wanwyn Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Dianne Rees, ar ran yr elusen Arch Noa yn hwyrach heno (Gwener 17 Mai).Mae'r Foneddiges Shirley Bassey wedi'i gwahodd fel gwestai arbennig i'r digwyddiad a gaiff ei gyflwyno gan Gethin Jones ac a fydd yn cynnwys adloniant gan rai o berfformwyr gorau Cymru, gan gynnwys Only Men Aloud, Catrin Finch a Suzanne Packer.

MaeDdawns Wanwynyn dathlu 18 mlynedd ers sefydlu'r elusen Arch Noa ac yn nodi diwedd partneriaeth lwyddiannus o flwyddyn gyda GwirAnrhydeddusArglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Dianne Rees, a ddewisodd gefnogi'r elusen pan gafodd ei hurddo yn Arglwydd Faer ym mis Mai 2018.