Back
Dirwy o £2,000 i ddeiliad trwydded WOW Bar

Cymerwyd camau yn erbyn WOW Bar yn dilyn nifer sylweddol o gwynion am sŵn cerddoriaeth a chanu uchel, yn hwyr y nos ac ymlaen i'r oriau mân drannoeth.

Ni wnaeth Mrs Roffi sef Deiliad Trwydded Wow Bar ar Ffordd Churchill, Caerdydd, fynychu Llys Ynadon Caerdydd Ddydd Gwener diwethaf (Mai 10) ac fe dderbyniodd ddirwy o £2,000 yn ei habsenoldeb am ddwy drosedd am dorri hysbysiad atal sŵn.

Cymerwyd camau cyfreithiol yn erbyn WOW Bar, yn dilyn nifer o gwynion yn dyddio nôl i orffennaf y llynedd.

Ymwelodd swyddogion o'r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir â'r lleoliad sawl gwaith i geisio datrys y broblem, ond parhaodd y cwynion felly doedd dim dewis arall ond i gymryd camau cyfreithiol.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir: "Mae dyletswydd statudol ar y Cyngor i ymchwilio i gwynion sŵn a gofynnwn i bob lleoliad a drwyddedir i weithio gyda'r cyngor pan ddaw cwynion i law.

"Mewn sawl achos, byddwn yn cytuno â'r lleoliad ar lefel y system gerddoriaeth sy'n dderbyniol yn hwyr y nos ac mewn rhai achosion, rydym wedi mynnu bod lleoliad yn gosod cyfyngydd sain ar eu system PA.

"Mewn achos fel hyn, os byddwn yn parhau i dderbyn cwynion, bydd gofyn i ni ymchwilio ymhellach. Byddwn yn cymryd camau cyfreithiol pellach, os oes angen hynny."

Cafodd Mrs Roffi ddirwy o £2,000, a'i gorfodi i dalu costau o £850 a gordal dioddefwr o £100.