Back
Fferm solar newydd

 

Bydd fferm solar newydd Caerdydd - maint 20 cae Stadiwm Principality - yn creu digon o ynni Gwyrdd i bweru tua 2,900 o gartrefi bob blwyddyn am 35 o flynyddoedd.

Hefyd, bydd y fferm solar 42 erw arfaethedig ar hen safle tirlenwi Ffordd Lamby yn helpu Cyngor Caerdydd i fwrw targedau amgylcheddol trwy wrthbwyso 2,972 o dunelli o Garbon Deuocsid (C02)

Bydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd yn ystyried cais cynllunio am y cyfleuster newydd ar 15 Mai ar ôl i Gyfoeth Naturiol Cymru dynnu pryderon ynghylch adar yn clwydo yn ôl. Os caiff caniatâd cynllunio ei roi, yna gofynnir i'r Cabinet gymeradwyo canlyniadau proses dendro i adeiladu fferm solar yn ei gyfarfod ar 16 Mai.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu: "Mae'r project yn dangos y gall y Cyngor barhau i chwarae ei ran i leihau ei allyriadau carbon a chyfrannu at y gwaith o gynyddu mwy o ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.Mae Argyfwng Hinsawdd wedi'i ddatgan gan y Cyngor a chan Lywodraethau Cenedlaethol ac mae'r project hwn yn gam sylweddol ymlaen yn y maes anodd hwn. Mae'r ffigurau'n dangos y gallwn ni hefyd greu ychydig o incwm dros ben ar gyfer y Cyngor o safle a fyddai'n anodd ei ddatblygu fel arall.

"Yn gyntaf, cyfrifwyd y byddai'r fferm solar yn gallu creu 7.5 MW o drydan bob blwyddyn, ond yn dilyn y broses dendro, mae'r cynigydd a ffefrir i ddylunio ac adeiladu'r cynllun yn cynnig cyfleuster mwy sy'n gallu cynhyrchu 8.99MW o drydan y flwyddyn.

"Er bod hyn yn cynyddu cyfanswm y costau o adeiladu a chynnal y fferm solar dros gyfnod o 35 o flynyddoedd o £14.9m i £16.3m, mae'r incwm gaiff ei dderbyn trwy werthu trydan gwyrdd yn cynyddu o £21.2m i £24.8m yn ystod yr amser hwn - sy'n sicrhau na fydd cyfnod talu yn ôl y Cyngor yn newid.

"Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n agos gyda Dŵr Cymru ar gynlluniau i ddefnyddio 5MW o drydan gwyrdd o'r fferm solar i helpu i bweru ei gyfleuster dŵr gwastraff dros gyfnod o 20 o flynyddoedd ac mae cytundeb bellach ar waith.Wedyn caiff y 3.99MW o drydan sy'n weddill eu gwerthu i'r Grid Cenedlaethol.Mae'r Cyngor hefyd wedi cael cefnogaeth Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru trwy gydol camau dichonoldeb a chaffael y project ac i helpu i ddatblygu'r achos busnes ar gyfer y cynllun.

"Ar ddiwedd y cyfnod o 20 mlynedd, bydd y 8.99 MW o ynni a gynhyrchir yn cael ei werthu i'r Grid Cenedlaethol am y 15 mlynedd sy'n weddill o'r project. "

Disgwylir i'r contractwyr a ffefrir gael eu penodi ar ddiwedd mis Mai, gyda'r rhan fwyaf o'r gwaith adeiladu ar y safle'n cael ei gwblhau erbyn mis Hydref 2019. Bydd hyn yn galluogi rhoi'r broses gomisiynu ar waith ym mis Tachwedd eleni.

Ychwanegodd y Cyng Michael: "Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi'n amlwg fod yn rhaid i bob sefydliad sector cyhoeddus fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Erbyn 2030, dywedwyd wrthym fod yn rhaid i 70% o'r holl ynni a ddefnyddir yng Nghymru ddod o ffynonellau ynni adnewyddadwy gydag o leiaf 1 Gigawat o'r trydan hwn yn eiddo i'r ardal leol. Heb amheuaeth, bydd y cynllun hwn yn helpu i fwrw'r targed hwn a chyfrannu tuag at arbedion carbon Caerdydd."

Caiff yr ynni gwyrdd gaiff ei werthu'n uniongyrchol i Ddŵr Cymru ei ddarparu trwy ddefnyddio ‘wifren breifat' fydd yn gysylltiad cebl foltedd uchel dynodedig rhwng y fferm solar a Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Rover Way.Ni fydd yr ynni a ddarperir trwy'r wifren breifat yn destun y trethi a'r costau arferol sy'n berthnasol i ynni a ddosberthir trwy'r Grid Cenedlaethol sydd bellach yn creu mwy na 50% o dariffau trydan cyfan. Mae hyn yn sicrhau bod yr incwm i'r Cyngor yn cynyddu trwy ddefnyddio'r trefniant hwn ac mae'r gost i Ddŵr Cymru yn llai na phrynu oddi wrth y Grid Cenedlaethol.