Back
Cynlluniau ar gyfer 450 o gartrefi cyngor newydd yn cael eu datgelu

Bydd cynlluniau ar gyfer 450 o gartrefi cyngor newydd ar gyrion canol dinas Caerdydd yn cymryd cam arall ymlaen, yn ôl adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd.

Nod cynllun adfywio Heol Dumballs yw darparu 2,000 o gartrefi newydd ar safle tir llwyd 40 erw yn y ddinas gyda 450 o'r cartrefi hynny'n eiddo i'r cyngor.

Mae'r rhan fwyaf o'r safle adfywio, sy'n gyfochr â'r afon Taf tuag at y bae o Heol Penarth, yn eiddo i ddatblygwyr eiddo Vastint. Mae'r Cyngor yn berchen ar 8.5 erw o dir ar y safle.

Mae'r Cyngor yn bwriadu gwerthu ei ddaliad tir i Vastint er mwyn i'r cartrefi cyngor newydd gael eu hintegreiddio i gynllun defnydd cymysg cynhwysfawr a rennir ar draws y safle.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cyng Russell Goodway: "Ar y cam hwn o'r broses, rwy'n gofyn i'm cydweithwyr yn y Cabinet am ganiatâd i weithio gyda'r datblygwr i gytuno ar Benawdau Telerau'r Gytundeb i sefydlu'r berthynas waith a'n disgwyliadau o'r datblygiad hwn. Unwaith y cytunir ar hyn mewn egwyddor, bydd adroddiad arall yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet i ofyn am ganiatâd i fwrw ymlaen â'r gwerthu tir."

Mae safle Heol Dumballs o bwys strategol i'r Cyngor, gan y bydd yr ailddatblygu a'r gwelliannau i goridor yr afon yn gwella'r cysylltiad rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd yn sylweddol.

Disgwylir i gais cynllunio gael ei gyflwyno ar gyfer y safle yng ngwanwyn 2020. Os rhoddir caniatâd, bwriedir i'r rhaglen adeiladu ddechrau yn yr haf 2021.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Gennym ni mae'r rhaglen adeiladu tai cyngor fwyaf yng Nghymru. Bydd y datblygiad hwn yn ein helpu i gyflawni'r gwaith o greu tua 450 o dai Cyngor newydd mewn ardal y mae galw mawr amdanynt. Mae'r cynllun hwn yn dangos mor barod ydym i arloesi, gweithio gyda phartneriaid sector preifat a datblygwyr, er mwyn cyflawni'r targed uchelgeisiol hwnnw."