Back
Dweud eich dweud!


Bydd Diwrnod Etholiadau Senedd Ewrop ddydd Iau, 23 Mai.

 

Mae gan breswylwyr tan Ddydd Mawrth, 7 Mai i gofrestru i bleidleisio os nad ydynt eisoes ar y Gofrestr Etholwyr.Y dyddiad cau i wneud cais ar gyfer pleidlais drwy'r post yw dydd Mercher, 8 Mai ac ar gyfer pleidleisiau drwy ddirprwy, dydd Mercher, 15 Mai.

 

Dywedodd Paul Orders, y Swyddog Canlyniadau Lleol:"Mae'n hollbwysig bod pobl yn cael y cyfle i gymryd rhan yn yr etholiad hwn, ac yn osgoi colli allan oherwydd nad ydynt wedi cofrestru.Mae ein Tîm Gwasanaethau Etholiadol profiadol ar gael i ddarparu cyngor a gwybodaeth i bleidleiswyr.

 

"Ni ddylai pobl gymryd arnynt y gallent bleidleisio oherwydd eu bod wedi cofrestru i bethau eraill megis Treth y Cyngor.Os oes amheuaeth, dylai preswylwyr gysylltu â'n Tîm Gwasanaethau Etholiadol i wirio a ydynt wedi cofrestru i bleidleisio."

 

Dim ond ychydig o funudau y mae'n cymryd: cofrestrwch ar-leinhttps://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisioneu ffoniwch y Tîm Gwasanaethau Etholiadol ar 029 2087 2088.

 

Caiff cerdyn pleidleisio ei anfon yn fuan at yr holl etholwyr cymwys, sy'n cynnwys gwybodaeth am eich gorsaf bleidleisio, ynghyd â manylion ynghylch sut gallwch bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy os nad ydych yn gallu pleidleisio eich hun ar y diwrnod.

Os ydych yn Ddinesydd yr UE cymwys sy'n byw yng Nghaerdydd, byddwch hefyd wedi cael llythyr a ffurflen yn eich gwahodd i gofrestru ar gyfer Etholiadau Ewrop o'ch cyfeiriad yng Nghaerdydd.

Rhaid i'r ffurflen gael ei chwblhau a'i chyflwyno erbyn dydd Mawrth 7 Mai 2019 i'r Gwasanaethau Etholiadol gan ddefnyddio'r amlen barod neu dros e-bost i gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk

 

 

Mae rhestr lawn o ymgeiswyr ar gael yma:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Pleidleisio-ac-etholiadau/Etholiadau-a-phleidleisiau-wediu-trefnu/Pages/Scheduled-elections-and-polls.aspx