Back
Tai Cyngor y dyfodol

Mae Julie James AC, y Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol, heddiw wedi gweld drosti'i hun sut mae cynllun adeiladu tai Cyngor uchelgeisiol Cyngor Caerdydd yn mynd rhagddo, gan gyfrannu at dargedau cenedlaethol i gynnig mwy o dai fforddiadwy ledled Cymru. 

Mae cynlluniau gan y Cyngor i godi dros 2,000 o dai cyngor newydd sydd mawr eu hangen, yn y cynllun mwyaf uchelgeisiol a welwyd yn y ddinas ers 40 mlynedd. Mae disgwyl i'r 1,000 cyntaf gael eu codi erbyn 2022. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o godi 20,000 o dai fforddiadwy erbyn diwedd tymor y Cynulliad yn 2021 ac fe welodd y Gweinidog  heddiw sut mae cynllun uchelgeisiol Caerdydd i godi tai, Cartrefi Caerdydd, yn mynd rhagddo yn ystod ymweliad â thai newydd yn ardal Llanrhymni. 

Mae Cynllun cartrefi Caerdydd yn golygu fod y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Wates Residential gyda'r nod o gynnig amrywiaeth o dai preifat i'w gwerthu ar y farchnad agored a thai fforddiadwy a fydd yn aros yn eiddo ac yn cael eu rheoli fel tai cymdeithasol gan yr awdurdod. Bydd y cynllun yn cynnig 1,500 o gartrefi newydd, y bydd o leiaf 600 ohonynt yn dod yn dai cyngor, a hynny ar sawl safle ledled y ddinas. 

Croesawyd y Gweinidog heddiw gan Arweinydd y Cyngor, Huw Thomas a'r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng Lynda Thorne, i safle Golwg y Môr ar Braunton Crescent, Llanrhymni er mwyn dangos fflat arddangos cwbl hygyrch ar y llawr gwaelod ar y safle daliadaeth gymysg newydd. 

Dywedodd y Cyng Thomas: "Ar ôl i'r Cyngor fod y cyntaf i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru, mae fy ngweinyddiaeth nawr yng nghanol y cynllun codi tai mwyaf a welodd y ddinas ers degawdau. Credaf fod gallu cael gafael ar dai o ansawdd dda yn hawl dynol sylfaenol, ac mae'r Cyngor nawr yn chwarae rhan anferth yn sicrhau hyn ar gyfer ein dinasyddion, gan ddefnyddio partneriaethau arloesol, gan gynnwys gyda Llywodraeth Cymru, cwmnïau sector preifat fel Wates Residential, ac eraill. 

"Mae'r eiddo newydd yn Golwg y Môr yn edrych yn wych a bydd y tenantiaid cyntaf yn symud i'w cartrefi newydd yn fuan iawn felly rwyf wrth fy modd yn gallu arddangos y cynllun i'r Gweinidog heddiw." 

Dywedodd y Cyng Lynda Thorne: Rwy'n hynod falch o dai Cartrefi Caerdydd ac mae'r gwaith sydd yn cael ei wneud gan ein tîm datblygu tai yn sicrhau fod Caerdydd yn ysgwyddo'i chyfrifoldeb i gynyddu nifer y tai fforddiadwy o ansawdd sydd ar gael i ateb y galw uchel yn y ddinas, a thrwy hynny gyfrannu at dargedau Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer tai newydd. 

Bydd yr holl dai a gaiff eu codi trwy Cartrefi Caerdydd yn cyrraedd lefelau uchel o ran cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni er mwyn mynd i'r afael â thlodi tanwydd yn ogystal â chael eu codi i safon Cartrefi Am Oes i gefnogi anghenion newidiol unigolion a'u teuluoedd ar adegau gwahanol yn eu bywydau." 

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: "Mae adeiladu mwy o dai fforddiadwy a chynnig cartrefi diogel, cynnes a saff yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Rwy'n awyddus iawn i weld y cyngor yn adeiladu tai cyngor newydd ar gyflymder ac ar raddfa nas gwelwyd ers degawdau, ac mae Cyngor Caerdydd yn cymryd y camau cywir er mwyn helpu i gyflawni hyn. Rwy'n falch o weld y tai a welais i heddiw yn cefnogi pobl ag anghenion gwahanol ac yn helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn lleol." 

Aeth y Gweinidog hefyd draw i weld datblygiad Parc Rhos yr Arian yn Llaneirwg lle mae 187 o gartrefi, gan gynnwys 58 o dai cyngor yn cael eu codi ac y disgwylir eu cwblhau erbyn yr haf nesaf. 

Mae cynllun Cartrefi Caerdydd yn rhan o darged y Cyngor i godi 1,000 o dai cyngor newydd yn y ddinas erbyn 2022 gan godi i gyfanswm o 2,000 o gartrefi yn y blynyddoedd dilynol. I gyrraedd y targedau, mae'r Cyngor yn prynu tir ar y farchnad agored, yn addasu adeiladau sy'n bod eisoes yn gartrefi, yn defnyddio datrysiadau tai arloesol megis systemau modwlar a gaiff eu creu oddi ar y safle ac yn cytuno ar fargeinion am becynnau lle caiff eiddo newydd eu prynu'n syth gan y datblygwr. 

Fel rhan o'r ymweliad, aethpwyd ar daith o amgylch Hyb Llaneirwg, a agorodd fis Awst y llynedd ar ôl ei ailwampio a'i ehangu er mwyn creu ‘siop pob dim' diweddara'r ddinas ar gyfer y cyngor a gwasanaethau partner. Cafodd y project £3 miliwn fudd o grant dan Raglen Cyfalaf Adfywio Llywodraeth Cymru. 

Mae'r cyfleuster integredig yn cynnig gwasanaethau cwsmer unedig mewn adeilad modern o ansawdd uchel, sydd yn cynnwys llyfrgell a ehangwyd, darpariaeth TG, caffi a chegin cymunedol, ystafelloedd cynghori a chyfweld, cilfach ieuenctid, darpariaeth gofal plant, ystafelloedd aml-ddefnydd, neuadd gymunedol fawr ac ystafelloedd newid.  

Gall cwsmeriaid gael mynediad at wasanaethau tai, budd-daliadau a chyngor yn ogystal â defnydd am ddim o'r rhyngrwyd a Wi-Fi, ffonau am ddim i gysylltu â'r Cyngor a gwasanaethau eraill a Chyngor i Mewn i Waith a hyfforddiant, yn ogystal â rhaglen lawn o weithgareddau cymunedol.