Mae 14 sefydliad sector cyhoeddus blaenllaw yng Nghaerdydd wedi llofnodi'r Siarter Teithio Iach, sydd newydd ei datblygu gan ymrwymo i gefnogi ac annog eu staff ac ymwelwyr i deithio mewn ffordd gynaliadwy i ac o'u safleoedd.
Trwy 14 cam gweithredu uchelgeisiol, mae'r siarter yn hybu cerdded, beicio, trafnidiaeth gyhoeddus a defnyddio cerbydau allyriadau isel iawn. Mae'r camau'n cynnwys sefydlu rhwydwaith o hyrwyddwyr teithio cynaliadwy, datblygu ymgyrchoedd cyfathrebu targedig i staff, cynnig a hyrwyddo'r cynllun beicio i'r gwaith a chynyddu'r cyfleoedd i ddefnyddio fideo-gynadledda ar gyfer cyfarfodydd i leihau nifer y teithiau y mae angen i staff eu gwneud rhwng safleoedd.
Rhyngddynt, bydd y sefydliadau'n ymrwymo i leihau cyfran y teithiau mewn ceir i ac o'r gwaith o 62% i 52%, cynyddu cyfran y staff sy'n beicio i'r gwaith bob wythnos o 14% i 23% a chynyddu cyfran y cerbydau a ddefnyddir yn ystod y dydd sy'n gerbydau hybrid y gellir eu plygio i mewn neu gerbydau gwbl drydanol o 1% i 3% erbyn 2022.
Ymhlith y sefydliadau a lofnododd y siarter mewn digwyddiad lansio yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, roedd Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu De Cymru, Carchar a Phrawf EM, Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Chwaraeon Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Ambiwlans Cymru a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. Rhyngddynt, mae'r sefydliadau hyn yn cyflogi dros 33,000 o aelodau staff yn ninas Caerdydd, y byddant yn eu hannog i wneud newid iach a chynaliadwy i'r ffordd maent yn teithio.
Dywedodd y Cyng Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd a Chadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd, "Rydym yn falch bod aelodau o BGC Caerdydd, ynghyd â sefydliadau sector cyhoeddus eraill yn y Ddinas, yn cydweithio i wneud y gyfres bwysig hon o addewidion i gefnogi pobl i deithio'n fwy cynaliadwy yn ein Dinas. Fel Cyngor rydym wedi ymrwymo i lanhau'r aer yng Nghaerdydd ac rydym wrthi'n ymgynghori ar ein Strategaeth Aer Glân sy'n cynnwys mesurau i wella'r seilwaith teithio llesol yn y Ddinas a lleihau allyriadau o drafnidiaeth gyhoeddus."
Mae llygredd aer mewn rhannau o Gaerdydd yn fwy na lefelau cyfreithiol yr EU, gan gynyddu'r risg i iechyd ac mae trafnidiaeth ffordd yn gyfrifol am oddeutu 80% o ddeuocsid nitrogen (NO2) a fesurir ar ochr y ffordd. Mae effeithiau hirdymor llygredd aer yn cynnwys cyfraddau uwch o glefyd ar yr ysgyfaint, clefyd cardiofasgwlaidd a chanser. Trwy gydweithio gan edrych i'r dyfodol, nod sefydliadau sector cyhoeddus yn y Ddinas yw cynyddu cyfran y teithiau a wneir i ac o leoedd gwaith mewn ffordd gynaliadwy, gan leihau'r effaith ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl Caerdydd er lles y genhedlaeth bresennol a rhai'r dyfodol. Mae'r sector cyhoeddus yng Nghaerdydd yn cyflogi bron i draean o oedolion yn y Ddinas.
Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd BIP Caerdydd a'r Fro ac Is-gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, "Mae cynyddu nifer y teithiau a wneir ar droed, ar feic neu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hollbwysig i wella iechyd dinasyddion yng Nghaerdydd a lleihau llygredd aer peryglus. Mae'r Bwrdd Iechyd yn cefnogi'r Siarter yn llawn ac mae wrthi'n ymestyn ein gwasanaeth Parcio a Theithio poblogaidd ar gyfer Ysbyty Athrofaol Cymru a bydd yn cyflwyno gwasanaeth tebyg i Ysbyty Athrofaol Llandochau yn fuan."